x
Cuddio'r dudalen

Sut i Ymdopi Gyda Phethau Gofidus yn y Newyddion

Mae’r newyddion yn gallu achosi gofid pan mae’n adrodd ar ddigwyddiadau mawr ledled y byd, ond mae yna bethau gallet ti ei wneud bydd yn helpu ti i ymdopi’n well pan rwyt ti’n clywed pethau ofnus.

This article is also available in English – click here

I ddeall mwy am y sefyllfa yn Wcráin, ymwela â’n blog Beth Sy’n Digwydd Rhwng Rwsia a Wcráin?

Newyddion ar y ffôn a'r cyfrifiadur ar gyfer blog Sut i Ymdopi Gyda Phethau Gofidus yn y Newyddion

1. Rheoli’r mewnlif o newyddion

Os wyt ti’n cael dy fombardio gyda newyddion trist neu ofidus, mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n isel iawn. Er ei bod yn fuddiol deall beth sydd yn digwydd yn y byd, mae’n beth da i gael seibiant o’r newyddion weithiau i ofalu am dy iechyd meddwl a lles emosiynol.

Gallet ti osod amser penodol i edrych ar y newyddion, neu addo na fyddi di’n edrych ar y newyddion yn y nos, er esiampl. Os wyt ti’n gweld rhywbeth dwyt ti ddim yn deall neu sydd yn dy boeni, siarada â rhywun.

Chwyddwydr gyda marc cwestiwn ar gefndir melyn ar gyfer blog Sut i Ymdopi Gyda Phethau Gofidus yn y Newyddion

2. Gwirio ffynonellau

Mae rhai ffynonellau newyddion yn rhannu’r wybodaeth sydd fwyaf brawychus i’r gwyliwr. Weithiau mae’r wybodaeth yma yn gamarweiniol gan nad dyma’r stori lawn.

Cofia bod yn ofalus wrth ddewis ffynonellau gwybodaeth. Ceisia ddarllen, gwylio, neu wrando ar ddarnau ffeithiol wedi’u cefnogi gyda thystiolaeth o ffynonellau dibynadwy yn hytrach nag darnau dramatig sydd â’r penawdau gorau.

Cer i weld ein canllaw Beth ydy Gwybodaeth Gamarweiniol (Newyddion Ffug)?

Cloc larwm coch ar gyfer blog Sut i Ymdopi Gyda Phethau Gofidus yn y Newyddion

3. Monitro amser ar gyfryngau cymdeithasol

Weithiau rwyt ti’n sgrolio drwy gyfryngau cymdeithasol ac yn gweld rhywbeth gofidus. Mewn cyfnodau fel hyn, mae rhaid deall y gallet ti ddod ar draws pethau ar gyfryngau cymdeithasol er nad oeddet ti’n chwilio amdanynt.

Ceisia ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn cyfnodau pan rwyt ti’n teimlo gallet ti ymdopi. Gallet ti osod cyfyngiad amser ar gyfer yr apiau cyfryngau cymdeithasol rwyt ti’n defnyddio. Bydd hyn yn cyfyngu mynediad ar ôl cyfnod penodol o amser ac yn dy atal rhag sgrolio diddiwedd. Neu gallet ti lanhau dy gyfryngau cymdeithasol ac allgofnodi yn gyfan gwbl nes teimlo gallet ti ymdopi’n well.

Mae posib adrodd unrhyw beth ar gyfryngau cymdeithasol sydd yn ofidus, yn achosi ti i boeni neu sydd yn rhannu camwybodaeth. Os yw rhywun yn postio llawer o bethau gofidus, yna gallet ti flocio.

Merch gwallt coch mewn siwmper melen ar gefndir glas yn rhoi cwtch i'w hun ar gyfer blog Sut i Ymdopi Gyda Phethau Gofidus yn y Newyddion

4. Gofalu am dy hun

Mae’n hanfodol ceisio bwyta’n iach a chael noson dda o gwsg. Bydd hyn yn helpu i ymdopi gyda’r pethau sy’n digwydd yn y byd. Gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol hefyd.

Pa un ai wyt ti yn yr ysgol, coleg, prifysgol, neu yn y gwaith, cofia gymryd brêc weithiau fel nad wyt ti’n gorweithio dy hun.

Rho ychydig o amser i ti dy hun i ymarfer hunanofal a gwneud rhywbeth pleserus. Mae canolbwyntio ar rywbeth yn gallu tynnu sylw am ychydig, a gall hyn helpu ti i ymdopi yn well. Gall hyn fod yn jig-so, gwylio hoff raglen teledu neu ddarllen llyfr.

Os yw pethau’n ormod, canolbwyntia ar y pethau o gwmpas i seilio dy hun. Techneg seilio da ydy’r dull 5-4-3-2-1 (cydnabod 5 peth gallet ti weld, 4 peth gallet ti gyffwrdd, 3 peth gallet ti glywed, 2 beth allet ti arogli a 1 peth gallet ti flasu).

Dau berson papur gwyn ar gefndir glas pren ar gyfer blog Sut i Ymdopi Gyda Phethau Gofidus yn y Newyddion

5. Chwilio am gefnogaeth

Os yw’r newyddion yn dod yn ormod, siarada gyda ffrindiau, teulu, neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt am dy deimladau. Weithiau gall siarad leddfu’r pwysau. Am gyngor i gychwyn sgwrs gyda rhywun am rywbeth sydd yn dy boeni, ymwela â’n blog.

Os nad oes neb gallet ti siarad â nhw, gallet ti siarad gyda’n cynghorwyr cyfeillgar yma yn Meic. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol, am ddim, i bobl ifanc hyd at 25 yng Nghymru.

Gwybodaeth berthnasol

Roedd y blog yma ar ein chwaer wefan TheSprout yn wreiddiol. Ysgrifennwyd yn fis Mawrth 2022 yn dilyn ymosodiad Wcráin, a’r sylw yn y cyfryngau. Mae’n bwysig cofio bod gwrthdaro yn digwydd ledled y byd, gyda difrod, trasiedi dynol a ffoaduriaid yn ganlyniad.

Os hoffech ddysgu mwy am yr hyn sydd yn digwydd yn Wcráin a pam, ymwela â’n blog Beth Sy’n Digwydd Rhwng Rwsia a Wcráin?