Diweddariad Covid – Beth Ydw i’n Cael Gwneud Nawr?

Nid ydym wedi cael diweddariad canllawiau Covid ar y blog ers sbel. Beth wyt ti’n cael a ddim yn cael gwneud nawr? Gyda mwy o wasanaethau yn cael agor eto, mae’n hen bryd gweld beth yw’r sefyllfa fel y mae nawr (diwedd Ebrill 2021).
To read this article in English, click here
Beth ydw i’n cael gwneud gyda rheolau Covid?
Caffis, bwytai a thafarndai ar agor yn yr awyr agored – Croesi bysedd am dywydd da nes i lefydd gael cychwyn gweini y tu mewn unwaith eto. Gyda lletygarwch wedi gorfod cau ers misoedd, a chyfyngiad ar y nifer o lefydd eistedd y tu allan, mae’n debygol y bydd y llefydd yma’n brysur. Cysyllta cyn mynd i weld os oes angen cadw bwrdd.
Atyniadau awyr agored i ymwelwyr – Wedi diflasu ar beidio gallu gwneud unrhyw beth? Gan nad oes cyfyngiadau ar deithio yn y DU gallet ti chwilio am lefydd i fynd a phethau i’w gwneud. Beth am weld beth sydd i’w wneud yn lleol (neu yn rhywle arall) wrth ofyn i bobl am awgrymiadau neu wrth chwilio ardal yn ‘Things To Do’ ar wefan TripAdviser. Pan fyddi di’n gweld rhywbeth sydd yn tynnu sylw, cer i’w gwefan/tudalen Facebook/ffonio i weld os ydynt wedi agor.
Cyfarfod gyda 5 arall – Mae’r rheol dau gartref bellach wedi mynd. Mae hyd at 6 o bobl o 6 cartref yn cael cyfarfod yn yr awyr agored (nid yw plant dan 11 neu ofalwyr yn cyfrif fel 1 o’r 6).
Timau chwaraeon – Os ydy dy dîm yn ymarfer yn yr awyr agored yna nid oes dim yn dy atal rhag hyfforddi.
Pa bethau dwi ddim yn cael gwneud gyda rheolau Covid?
Mae yna dipyn o bethau sydd ddim yn agored eto. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dyddiadau bwriedir ail agor rhai o’r rhain.
3 Mai
- Dau gartref yn cael creu swigen sydd yn cael cyfarfod y tu mewn
- Canolfannau hamdden ac ystafelloedd ffitrwydd yn cael agor gyda dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio i hyd at 15 oedolyn
- Gweithgareddau grŵp i blant (fel y brownies ayb.)
- Canolfannau cymunedol
17 Mai
- Caffis, tafarndai a bwytai yn cael agor dan do
- Holl lety ymwelwyr
- Chwarae meddal
- Sinemâu, theatrau ac amgueddfeydd
Mae ymlacio’r rheolau presennol, ac yn y dyfodol, yn ddibynnol ar y nifer o achosion Covid. Mae hefyd yn dibynnu ar bwy fydd y Llywodraeth yn dilyn Etholiadau’r Senedd ar Fai’r 6ed.
Beth ydw i’n gallu gwneud i helpu?
Profi Llif Unffordd – Os wyt ti yn yr ysgol, coleg, gwaith ayb. efallai dy fod di wedi cael cynnig y cyfle i gymryd profion llif unffordd. Prawf Covid profi gartref dwywaith yr wythnos ydyw, sydd yn gallu rhoi canlyniad mewn 30 munud. Mae’n grêt i’r rhai sydd ddim yn dangos symptomau gan y gall helpu osgoi lledaenu’r firws yn ddiarwybod. Mae posib y gall deimlo ychydig yn anghyfforddus, ond fel arfer mae’n swnio yn llawer gwaeth nag ydyw mewn gwirionedd. Mae’r holl gyfarwyddiadau yn y pecyn ond mae’r fideo yma yn egluro’r broses hefyd:
Gwisgo mwgwd – Nid wyt ti’n cael mynd i leoliadau cyhoeddus dan do nac defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus heb wisgo mwgwd (oed 12 i fyny os nad oes gen ti reswm dilys). Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr ysgolion uwchradd, colegau a Phrifysgolion yn dal i orfod gwisgo mygydau yn y dosbarth. Pan fydd y rheolau yn newid i ganiatáu bwyta ac yfed dan do eto, bydd rhaid gwisgo mwgwd tan i ti eistedd i lawr.
Cadw dy ddwylo’n lân – Defnyddia gorsafoedd diheintio dwylo a golchi dy ddwylo yn drylwyr gyda dŵr a sebon pan yn bosib. Mae hwn yn parhau i fod yn un o’r camau gorau i helpu cyfyngu lledaenu’r firws.
Cadw pellter cymdeithasol – Ffordd effeithiol arall i atal lledaenu’r firws. Gall fod yn anodd weithiau i gadw pellter 2 fetr, ond gwna dy orau glas i gadw pellter pan fedri di.
Cael prawf – Os wyt ti’n dangos symptomau yna rhaid hunan ynysu a mynd am brawf. Sicrha dy fod di’n gwrando ar holl gyngor ac arweiniad y GIG.
Mae newyddion diweddaraf Covid i’w gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os wyt ti’n dangos symptomau defnyddia Gwiriwr Symptomau Covid-19 GIG Cymru.
Os wyt ti wedi cael llond bol, yn poeni, pryderu, gyda chwestiwn neu angen siarad, mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos, ar y penwythnosau a’r gwyliau hefyd (hyd yn oed ar ddiwrnod Nadolig!)
