x
Cuddio'r dudalen

Teimlo’r Bronnau am Newidiadau

Mae mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron. Bŵbs, bronnau, pecs neu beth bynnag yr wyt ti’n eu galw, fel person ifanc, pa bynnag ryw rwyt ti’n uniaethu ag ef – gan fod gan bawb feinwe bron (breast tissue) – dylai ti fod yn edrych ac yn teimlo’r bronnau yn aml am unrhyw newidiadau.

This article is also available in English  – to read this content in English  – click here

Pa mor aml dylwn i edrych a theimlo fy mronnau?

Y cyngor yw teimlo dy fronnau am unrhyw newidiadau yn rheolaidd am yr un amser bob mis. Mae hormonau yn gallu cael effaith ar dy gorff, felly efallai bydd dy fronnau yn teimlo’n wahanol ar wahanol adegau, felly mae’n syniad da i wneud am yr un amser bob mis. Mae posib cofrestru ar CoppaFeel! i gael dy atgoffa gyda neges destun am ddim bob mis fel nad wyt ti’n anghofio.

Merch ifanc yn teimlo ei bronnau ar gyfer blog ymwybyddiaeth canser y fron

Pam bod angen edrych a theimlo?

Mae bronnau i gyd yn wahanol siapiau a maint, felly mae’r hyn sydd yn normal i ti yn wahanol i rywun arall. Wrth edrych a theimlo yn rheolaidd byddi di’n gwybod beth sydd yn normal i ti a bydd yn haws i ddarganfod unrhyw newidiadau yn sydyn.

Edrych ar dy fronnau

Cychwynna wrth sefyll o flaen drych ac edrych ar dy fronnau. Gwna hyn gyda dy freichiau i fyny a dy freichiau i lawr. Oes unrhyw beth yn edrych yn wahanol? Cadwa lygaid am bethau fel:

  • Crych ar y croen (puckering, dimpling)
  • Brech
  • Cochni
  • Lwmp
  • Chwydd
  • Rhedlif (discharge)
  • Newid mewn maint neu siâp
  • Newid yn y deth (nipple)
Graffeg yn dangos gwahanol arwyddion ar y bronnau i fod yn ymwybodol ohonynt ar gyfer blog ymwybyddiaeth canser y fron

Teimlo dy fronnau

Nid yw pob newid i’w weld gyda’r llygaid yn unig felly mae teimlo’r fron yn bwysig iawn.

Cymera bob bron yn ei thro a theimlo o’i gwmpas i gyd, mae angen teimlo’r gesail ac i fyny at bont yr ysgwydd (collar-bon) hefyd. Efallai bydd yn haws gwneud hyn wrth i ti gymryd cawod.

Wyt ti’n gallu teimlo unrhyw lympiau neu ydy rhywbeth yn teimlo’n wahanol?

Teimlo poen

Wyt ti’n teimlo unrhyw boen?

Mae’n normal i gael bronnau poenus neu sensitif weithiau ond oes poen newydd mewn un bron sydd ddim yn diflannu? Nid yw poen yn arwydd o ganser y bron fel arfer, ond mae angen mynd at ddoctor i wneud yn siŵr.

Gweld doctor

Os wyt ti’n darganfod rhywbeth anarferol nid yw’n golygu canser y fron bob tro – ond mae angen gwneud apwyntiad gyda’r doctor i wneud yn siŵr.

Mae rhai pobl yn gallu teimlo cywilydd yn siarad gyda’r doctor am rhai pethau, yn enwedig pan ddaw at rai darnau o’r corff – ond mae’n well mynd yn eithaf sydyn i weld beth ydyw. Os mai canser ydyw, yna mae’n well dal hyn yn sydyn fel bod triniaeth yn gallu cychwyn yn gynt.

Os wyt ti’n teimlo’n bryderus am ddweud wrth rywun yna mae un o’n cynghorwyr cyfeillgar yma i ti rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Mae ffonio, tecstio neu sgwrsio ar-lein yn gyfrinachol ac am ddim, a gallem siarad trwy bopeth gyda thi, rhoi cyngor a helpu ti i gymryd y camau sydd ei angen (manylion cyswllt isod).

Gwybodaeth bellach

Mae CoppaFeel! yn wefan gwych sydd yn gyfeillgar i bobl ifanc gyda gwybodaeth am sut i edrych a theimlo dy fronnau. Cer draw i’r adran Self-Checkout ble mae yna lawer o awgrymiadau, canllawiau a gwybodaeth fydd yn ddefnyddiol i ti.

Mae gwybodaeth ar wefan GIG am sut i edrych a theimlo dy fronnau ac mae gan GIG Cymru wybodaeth ar beth i wneud os wyt ti’n dod o hyd i lwmp neu os wyt ti’n teimlo unrhyw boen yn y fron.

Mae llawer o wybodaeth a chefnogaeth ar wefan Breast Cancer Now yn ogystal â llinell gymorth i ofyn cwestiwn, siarad neu ddarganfod cefnogaeth gan nyrs gofal bronnau. Galwa 0808 800 6000