x
Cuddio'r dudalen

Beth Yw’r Rheolau Covid-19 Diweddaraf Yng Nghymru?

Wedi drysu am yr hyn sydd yn digwydd efo rheolau Covid-19 yng Nghymru? Rydym am geisio creu canllaw hawdd i’w ddeall am yr hyn gellir ei wneud, a ddim gwneud, dros yr wythnosau nesaf.

To read this article in English, click here

Mae llawer o newidiadau wedi bod gyda rheolau Covid-19 yn yr ychydig wythnosau a dyddiau diwethaf a gall hyn ddrysu rhywun. Mae’r Llywodraeth wedi gorfod gwneud penderfyniadau difrifol a sydyn yn ddiweddar. Rydym am geisio egluro beth yw’r newidiadau yma a’r rheswm amdanynt isod. Maent hefyd wedi cyhoeddi system Lefelau Rhybudd newydd, mae eglurhad o hyn ymhellach i lawr, ond i gychwyn… y Nadolig.

(Mae’r canllaw yma yn cynnwys y wybodaeth sydd ar gael i ni pan fydd yr erthygl yma’n cael ei gyhoeddi. Gall pethau newid yn sydyn wrth i’r sefyllfa newid yn sydyn)

Pam bod y rheolau wedi newid eto?

Ers y cyfnod clo a’r cyfnod atal diwethaf, mae’r niferoedd o bobl yn profi’n bositif am y firws yn cynyddu’n sydyn, ac mae yna straen (fersiwn) newydd o’r firws sydd yn pasio o un person i’r llall yn haws medda nhw. Golygai hyn bod yr ysbytai yn llenwi ac os yw pethau’n parhau ni fydd y Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi gyda gormod o gleifion a dim digon o wlâu. Mae Llywodraeth Cymru a’r arbenigwyr meddygol yn dweud bod y sefyllfa yn ddifrifol iawn a bod rhaid gwneud rhywbeth.

Person yn dal rhes o fisgedi siâp dyn gyd mygydau ar gyfer erthygl rheolau Covid-19 diweddaraf

Beth yw’r rheolau dros y Nadolig?

Edrychwn ar yr hyn rwyt ti’n cael gwneud (a beth ddylet ti wneud) dros y Nadolig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau sydyn yn ddiweddar gan fod y niferoedd o achosion Covid-19 yn tyfu yn sydyn. Oherwydd hyn mae’r cyfnod clo wedi dod yn fwy buan nag yr oeddent wedi bwriadu. Dim ond ychydig oriau o rybudd cawsom ar ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr pan gyhoeddwyd y byddai Cymru gyfan yn mynd i gyfnod clo llawn am hanner nos. Roedd rhaid sgrapio’r bwriad o lacio’r rheolau Covid-19 am 5 diwrnod dros y Nadolig gyda thair aelwyd (tŷ) yn cael cyfarfod. Dim ond dwy aelwyd sydd yn cael cyfarfod nawr ar ddiwrnod Nadolig yn unig, dy aelwyd di ac un arall. Nid argymhelliad yw hyn (cynghori ti i wneud) – mae hyn yn gyfraith.

Er dy fod di’n cael cyfarfod gydag un aelwyd arall ar ddiwrnod Nadolig, y cyngor ydy i feddwl yn galed a chydbwyso’r hyn rwyt ti eisiau gwneud, a’r hyn rwyt ti angen gwneud.

Beth sydd yn digwydd ar ôl y Nadolig?

Am hanner nos ar nos Sadwrn, 19 Rhagfyr, newidiodd lefel rhybudd Cymru o Lefel Rhybudd 3 i Lefel Rhybudd 4. Os wyt ti am ddeall y gwahaniaeth rhwng y lefelau edrycha ar y siart isod.

Mae symud i Lefel Rhybudd 4 yn golygu ein bod mewn cyfnod clo llawn unwaith eto fel yr oeddem yn fis Mawrth. Mae holl siopau sydd ddim yn gwerthu pethau hanfodol (fel bwyd a meddygaeth) wedi gorfod cau nes bydd y Lefel Rhybudd wedi newid eto. Rydym yn gorfod aros adref unwaith eto a pheidio teithio. Bydd y cyfnod clo yn parhau am 3 wythnos i gychwyn. Cyn diwedd y cyfnod yma bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r camau nesaf. Ni fydd y Lefel Rhybudd yn newid nes bydd yr achosion Coronafeirws yn gostwng digon.

Allwedd:
– Rheol 4 neu 6 – cyfarfod 3 neu 5 person arall (cadw pellter cymdeithasol)
– Aelwyd estynedig – dau gartref yn ymuno i greu un aelwyd sengl.
– Swigen gefnogaeth – rhywun sydd yn byw ei hun (neu gyda phlant) yn cyfarfod â phobl o aelwyd arall.

Oes rhaid i mi ddysgu o adref eto?

Ychydig o newyddion da (neu newyddion drwg i rai😂) yw’r ffaith nad oes cynlluniau i gau ysgolion y tro hyn. Maent yn gwneud popeth bosib i sicrhau nad yw’r cyfnod clo yn cael effaith ar dy addysg. Efallai bydd rhai ardaloedd yn gorfod cychwyn yn ôl yn gyfnodol. Felly ni fydd pawb yn cychwyn ar y 4ydd neu’r 5ed, ond bydd dy awdurdod lleol yn penderfynu hyn. Bydd dy ysgol yn gadael i ti wybod beth sydd yn digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan y bydd profion canlyniadau cyflym yn cael eu defnyddio mewn ysgolion. Golygai hyn efallai na fydd rhaid i ddosbarthiadau a blynyddoedd orfod hunan ynysu am 10 diwrnod os yw rhywun yn profi’n bositif. Golygai hyn llai o debygrwydd bydd rhai dychwelyd i sefyllfa o orfod dysgu o gartref.

Efallai bydd newidiadau pellach yn cael eu cyflwyno. Cadwa olwg ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a’r newyddion am y wybodaeth ddiweddaraf.

Angen siarad?

Efallai bydd hyn yn teimlo’n ormod i ti, ac mae’n hollol normal i ti deimlo fel hyn. Bydd llawer o bobl ledled y wlad, o bob oedran, yn teimlo’n bryderus, yn ddryslyd, yn isel ac wedi cael llond bol o bethau fel y maent nawr.

Mae’n bwysig iawn i ti siarad am dy deimladau gyda rhywun ac i beidio cadw popeth i mewn. Siarada gyda dy deulu, neu ffrindiau, am y peth. Ac os wyt ti’n teimlo fel bod gen ti neb i siarad â nhw, yna mae Meic yma i ti bob tro.

Mae’r cynghorwyr hyfforddedig yma rhwng 8yb a hanner nos bob diwrnod (hyd yn oed ar ddiwrnod Nadolig!) i wrando, cynnig cyngor a helpu ti i ddarganfod datrysiad. Mae’r llinell gymorth yn gyfrinachol ac am ddim. Mae posib ffonio, tecstio neu sgwrsio ar-lein.

Efallai bydd y cyngor yn rhai o’n herthyglau Covid-19 eraill o fudd i ti. Cer draw i weld yma.