x
Cuddio'r dudalen

Beth ydy Gwybodaeth Gamarweiniol (Newyddion Ffug)?

Mae gwybodaeth gamarweiniol, neu ‘newyddion ffug’ i’w weld ymhobman – yn ein mewnflychau, ar ein cyfryngau cymdeithasol – mae’n anodd dianc. Mae’n bwysig deall sut i adnabod gwybodaeth gamarweiniol, sut i ymchwilio os yw’n wir neu beidio, ac i fod yn ddefnyddiwr Rhyngrwyd cyfrifol a pheidio rhannu newyddion ffug. Mae Meic yma i helpu.

To read this article in English, click here

Mae gwybodaeth gamarweiniol yn wybodaeth ffug, anghywir neu wallus sydd yn camarwain (yn fwriadol neu’n anfwriadol). Hoffai’r mwyafrif ohonom feddwl na fyddem yn cael ein twyllo, ond mae’n debyg bod llawer ohonom wedi yn barod. Gall hyn fod mor ddifrifol â chredu bod chwistrellu diheintydd yn lladd Covid (ddim yn wir gyda llaw – sicrhau dy fod di’n deall hynny!) neu gredu bod bywyd perffaith rywun ar Instagram fel yna drwy’r adeg.

Mae yna wahanol fathau o wybodaeth gamarweiniol. Byddai’n syniad i ti ddod yn gyfarwydd â nhw fel eu bod yn haws i’w darganfod a gallet ti wirio bod yr hyn rwyt ti’n ei weld ar y Rhyngrwyd yn wir. Mae ein blog arall ‘Sut i Ddeall os yw Rhywbeth yn Ffug ar y Rhyngrwyd’ yn ddefnyddiol os wyt ti’n ansicr sut i wirio.

Bachgen gyda'i drwyn yn tyfu i gynrychioli celwydd ar gyfer blog newyddion ffug

Celwyddau bwriadol

Creu stori fel bod person yn credu rhywbeth sydd ddim yn wir. Efallai bod hyn i gynyddu ymweliadau gwe, neu i wneud i ti gredu rhywbeth sydd o fudd iddyn nhw. Efallai byddant yn gorliwio pethau i greu stori well neu i wthio barn wleidyddol.

Mae ‘hoax’ yn gelwydd bwriadol i dwyllo pobl i gael hwyl neu i dwyllo rhywun yn faleisus. Gellir newid delweddau a fideos fel bod rhywbeth yn edrych yn wir, neu efallai byddant yn defnyddio hen ddelweddau neu fideos ac yn honni eu bod yn newydd, neu’n rhywbeth nad ydynt. Mae posib ffugio fideos hefyd, edrycha ar y fideo yma am Deepfakes.

Mae gwybodaeth gamarweiniol fel hyn yn gyffredin a pan fydd pethau’n digwydd yn y Byd, fel yr argyfwng ffoaduriaid, Trump, Brexit ayb. – mae straeon ffug ymhobman. Gan ddefnyddio Covid-19 fel esiampl, mae cymaint o newyddion ffug wedi bod yn ddiweddar, a dyma ychydig ohonynt (cofia – nid yw’r rhain yn wir):

  • Lluniau o danciau ar strydoedd y DU (er bod y ceir ar ochr anghywir y ffordd a gyda phlatiau rhif tramor)
  • 5G sydd yn achosi Covid
  • Os wyt ti’n sipian dŵr poeth bydd yn lladd y firws
  • Dal dy wynt am 10 eiliad, os nad wyt ti’n tagu nid oes gen ti Covid
  • Mae Bill Gates yn rhoi microchip yn y brechlyn i ysbio arnom
  • Bydd chwistrellu diheintydd a defnyddio golau UV yn lladd y firws (awgrymwyd gan [cyn] Arlywydd yr Unol Daleithiau!!!)
  • Bydd y brechlyn Covid yn newid dy DNA

Sefydliad Iechyd y Byd yw un o’r llefydd gorau i weld beth sy’n wir a beth sy’n ffug gyda Covid-19. Cer draw i’r dudalen ‘Mythbusters’.

Dwylo yn teipio ar gyfrifiadur ar gyfer blog newyddion ffug

Gwybodaeth anghywir

Nid bwriadol yw hyn, mae’r awdur yn credu ei fod yn wir ond heb ymchwilio’n drylwyr. Bydda’n ofalus wrth ddefnyddio gwefannau fel Wikipedia neu YouTube – efallai dy fod di’n meddwl fod y rhain yn ffynonellau gwybodaeth dda, ond defnyddwyr sydd yn cyflwyno popeth. Os nad yw’n cael ei ymchwilio’n iawn yna efallai nad yw’n wir, neu’n gamarweiniol. Mae flogiau a blogiau hefyd yn llefydd ble cyflwynir barn fel ffeithiau. Nid yw’r ffaith dy fod di’n edmygu neu’n parchu’r person yn golygu bod yr hyn sydd yn cael ei ddweud yn wir nac wedi cael ei ymchwilio’n dda.

Dau berson ar ffôn ar gyfryngau cymdeithasol, hoffi ayb. Ar gyfer blog newyddion ffug

Cynnwys wedi’i rannu

Mae hyn yn gyffredin iawn ar gyfryngau cymdeithasol. Rwyt ti’n gweld rhywbeth yn cael ei bostio, ac yn rhannu hwnnw heb ymchwilio os yw’n wir neu beidio. Mae’r fath yma o wybodaeth gamarweiniol yn gallu mynd yn bell yn sydyn iawn.

Gall cyfryngau cymdeithasol ddod yn siambr atsain. Rwyt ti’n debygol o weld barnau cyffredin oherwydd y bobl rwyt ti’n ffrindiau â nhw neu y pethau rwyt ti wedi ‘hoffi’. Mae hyn i gyd wedi sefydlu ar algorithmau. Er esiampl, os oeddet ti o blaid Brexit, ac yn hoffi pethau oedd yn gefnogol o adael y DU, yna byddet ti’n gweld mwy o gynnwys oedd o blaid Brexit a llai o’r rhai yn ei erbyn. Mae pobl yn tueddu i fod yn ffrindiau gyda phobl sydd â’r un farn yn wleidyddol neu’n foesol, felly bydd gen ti mwy o ffrindiau sydd o blaid Brexit hefyd. Ni fyddi di’n gweld y darlun llawn a’r ffeithiau i gyd.

Ffigwr yn y cysgod ar gyfrifiadur ar gyfer blog newyddion ffug

Hacwyr a ‘phishers’

Bydda’n ofalus o bobl sydd yn ceisio dwyn dy wybodaeth a hacio i dy gyfrifon eraill. Bydd ‘phishers’ yn cogio bod yn rhywun arall i gael mynediad i wybodaeth bersonol.

Paid byth clicio ar atodiad neu URL mewn e-bost heb wybod beth rwyt ti’n clicio. Mae atodiadau maleisus a URL’s yn gyffredin mewn e-byst sbam – os mewn penbleth – paid clicio. Hyd yn oed os yw’n edrych yn wir – fel gan fanc, Netflix, Amazon ayb. gallant wneud i’r e-byst edrych fel eu bod gan y cwmni go iawn (edrycha beth yw’r cyfeiriad e-bost llawn – gall hyn fod yn gliw mawr). Yn aml mae pethau wedi’u hysgrifennu yn anghywir yn yr e-byst yma, ond paid â chael dy dwyllo os nad yw hynny’n wir. Ceisia beidio agor atodiadau na chlicio unrhyw URL’s, hyd yn oed os wyt ti’n credu ei fod yn e-bost go iawn. Yn lle hynny, agora dab newydd, a mewngofnodi i dy fanc/teledu/cyfrif siop/beth bynnag, a gweld os oes neges yno. Os nad oes neges yna mae’n debygol iawn bod yr e-bost yn ffug.

Merch gyda affro, sbectol haul seren a siaced oren blewog yn tynnu selffi ar ffôn gyda chefndir oren

Dylanwadwyr

Pobl sydd yn portreadu bywydau perffaith ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r colur yn berffaith bob tro, mae ganddynt berthnasau perffaith, y ffrindiau gorau, gwyliau anhygoel, bywydau perffaith ac rydym yn genfigennus iawn ohonynt! Mae’n bwysig iawn cofio nad yw’r hyn sydd yn cael ei gyfleu ar gyfryngau cymdeithasol yn fywyd go iawn. Mae pobl yn dueddol o rannu’r darnau gorau a hidlo’r darnau llai glam. Cer i weld ein blog ‘Ydy’r Hyn Ti’n Weld ar Instagram yn Wir?’ ble rydym yn edrych ar sut mae Instagram yn gallu twyllo a sut i beidio cael dy swyno ganddo.

Llaw yn pwyntio

Dolenni pellach

Mae’r gwefannau isod yn bwriadu gwirio ffeithiau neu roi cyngor am wirio ffeithiau. Cer draw i weld:

Darganfod cymorth

Mae Meic bob tro yma i siarad. Os wyt ti’n teimlo’n isel neu’n poeni am unrhyw beth yna galwa, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor.