x
Cuddio'r dudalen

Iechyd Meddwl: Cadw Rheolaeth – Covid-19

Mae hwn yn gyfnod o helbul i bawb, yn enwedig y rhai ohonom sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Cyn Covid-19 efallai bod gen ti dechnegau ymdopi gwych. Efallai bod bywyd wedi newid i rywbeth hollol ddiarth, yn atal ti rhag gwneud y pethau roeddet ti’n ei wneud i ymdopi cynt, ond mae posib cadw rheolaeth o hyd.

To read this article in English, click here

I ddarllen mwy o’n cynnwys Covid-19, clicia yma.

Felly, beth oedd dy drefn di cyn Covid-19 i gadw rheolaeth a chadw dy feddwl yn iach? Oeddet ti’n cadw’n heini yn y clwb chwaraeon lleol, yn chwarae pêl droed, mynychu dosbarthiadau ymarfer corff neu godi pwysau yn y gampfa? Oeddet ti’n cael cysur o dreulio amser gyda ffrindiau a theulu, yn cael bwyd allan, yn mynd i’r sinema neu ddianc i dŷ rhywun arall? Roedd gan fywyd ‘normal’ drefn ac amserlen, bod hynny’n waith, ysgol neu goleg, ond bellach mae’n bwll tywyll o anobaith… ond ai dyma’r gwir???

Efallai nad yw’n bosib cael rheolaeth ar y firws, ac mae yna gyfreithiau yn dweud beth y cawn wneud, ond anghofia hyn! Dyma’r diwrnod rwyt ti’n cael rheolaeth ac yn creu ‘normal’ newydd.

1. Cael trefn ddyddiol

Cadw trefn - brwsio dannedd

Cysgu’n hwyr – bwyta sothach – gwylio teledu – cysgu – ailadrodd! Ni fyddi di’n teimlo’n grêt os wyt ti’n treulio bob diwrnod mewn lŵp o ddim byd. Bydd cael trefn yn rhoi synnwyr o gyflawniad. Bydd yn rhoi teimlad o normalrwydd i sefyllfa od. Nid oes rhaid i ti ddechrau trefnu amser i fynd i’r tŷ bach, ond bydd cadw at amser deffro, gwely a bwyta bob dydd yn helpu. Cadwa amser i gadw’n heini a chyflawni gweithgaredd bob hyn a hyn a bydd dy ddiwrnod yn un prysur.

2. Cynllunio o flaen llaw

Groundhog ar gyfer erthygl Covid19 cadw rheolaeth iechyd meddwl

Amrywia pethau fel nad wyt ti’n teimlo dy fod di’n byw drwy Groundhog Day. Bydd cynllunio o flaen llaw yn dy helpu i wneud rhywbeth gwahanol bob dydd. NId oes angen bod yn rhy uchelgeisiol, bydda’n realistig. Bydd cwblhau tasgau bach yn ystod y dydd yn rhoi teimlad o bwrpas a chyflawniad. Efallai mai dyma’r peth perffaith i godi dy galon a rhoi rheolaeth i ti unwaith eto. Mae yna lawer o syniadau yma am bethau i’w gwneud yn ystod y cyfnod o ymbellhau.

3. Cael pecyn cymorth lles meddwl

Bocs hapus ar gyfer erthygl Covid19 cadw rheolaeth iechyd meddwl

Mae yna sawl ffordd wych i reoli dy iechyd meddwl, ac mae cael rhestr ohonynt, pecyn cymorth lles meddwl, yn gallu helpu. Efallai dy fod di’n defnyddio rhai ohonynt eisoes, o dechnegau tynnu sylw fel cael bocs hapus pan fyddi di’n teimlo’n drist, i syniadau ymlacio pan fydd pryder yn dod yn ormod. Efallai bod rhywbeth yn gweithio un diwrnod, ond ddim yn gweithio’r diwrnod wedyn, felly cadwa’r pecyn cymorth lles meddwl yn agos. Gall hwn fod yn rhestr o awgrymiadau tynnu sylw neu ymlacio ar dy ffôn symudol, neu nodyn ar ddrws yr ystafell wely. Gallet ti edrych arno os wyt ti’n cael diwrnod anodd, a dechrau cael rheolaeth unwaith eto.

4. Cymryd dy feddyginiaeth

tabledi ar gyfer erthygl Covid19 cadw rheolaeth iechyd meddwl

Os wyt ti’n cymryd meddyginiaeth i ymdopi gyda phryder neu iselder, yna paid stopio. Paid bod ofn cysylltu gyda dy ddoctor os wyt ti’n teimlo bod angen adolygu dy feddyginiaeth. Mae’n bosib gallant drefnu ail bresgripsiwn neu gynnig cefnogaeth dros y ffôn neu alwad fideo.

5. Byw bywyd iach

Cerdded

Wel, am amser hawdd i fwyta sothach a binjo Netflix, ond CADWA DRAW O’R REMÔT! Ceisia gadw ar dy lwybr iach, neu os nad oeddet ti’n iach iawn cynt, manteisia ar y cyfle i wneud newidiadau iachus. Gan dy fod di adref drwy’r adeg beth bynnag, nid oes cyfle gwell i goginio’n iach. Nid yw’n bosib defnyddio’r hen esgus o “ges i ddim amser i baratoi” sydd yn golygu dy fod di’n prynu brechdan llawn calorïau o’r siop dros dy awr ginio. Ceisia fwyta llysiau a ffrwythau ffres. Darllena’r wybodaeth yma gan Mind am sut gall bwyd gael effaith ar dy hwyliau.

Dim ond unwaith y dydd rwyt ti’n cael mynd allan, felly manteisia ar yr amser yma ac ymarfer y corff yn ddyddiol. Paid gwastraffu hyn; cymera anadl ddofn o awyr iach hyfryd! Mae yna lawer o sesiynau cadw’n heini am ddim ar-lein hefyd. Mae rhai campfeydd lleol yn postio heriau dyddiol ar wefannau cyfryngau cymdeithasol neu mae gen ti sêr fel Joe Wicks yn cynnig dosbarthiadau am ddim. Gall ymarfer corff fod yn wych i’r meddwl wrth iddo ryddhau endorffinau fydd yn gwella’r hwyliau ac yn helpu ti i gysgu’n well yn y nos! Edrycha ar gyngor Meic ‘4 Ffordd i Gadw’n Heini Tra’n Sownd Yn Y Tŷ’. A pwy sydd ddim yn hoff o wisgo tracsiwt neu Lycra cyfforddus?

6. Ymlacio

Cath yn ymlacio ar gyfer erthygl Covid19 cadw rheolaeth iechyd meddwl

Gwna amser i ti dy hun. Efallai bod hyn yn anoddach yn y ‘lockdown’ gyda thŷ llawn pobl, ond ceisia ddarganfod gofod bach i ymlacio ar ben dy hun. Er ei bod yn bwysig cadw’n brysur, mae hefyd yn bwysig i beidio gwneud gormod hefyd. Gwna amser i ymlacio, bod hynny’n myfyrio, cymryd bath hir, darllen neu wylio dy hoff ffilm ar ddiwedd y dydd.

7. Rho dro ar rywbeth newydd

Cymysgu toes

Dyma’r amser perffaith i roi tro ar rywbeth newydd a dysgu sgiliau newydd. Gall amser fod yn brin iawn ym mywyd ‘normal’, ond ar hyn o bryd mae’n debyg bod gennym ddigon ohono. Ni fydd y cyfnod yma yn parhau am byth, felly manteisia arno nawr. Chwilio am yr hen offer gwnio, yna pobi teisen neu dorth, rhoi tro ar ioga ar YouTube neu ddysgu iaith newydd ar-lein. Efallai dy fod di’n gaeth i bedwar wal ond mae’r byd yn agored i ti.

8. Cadw’n gymdeithasol

Galwad fideo ar gyfer erthygl Covid19 cadw rheolaeth iechyd meddwl

Efallai nad yw’n bosib cyfarfod gyda ffrindiau, ond mae posib cadw mewn cysylltiad drwy fideo neu negeseuon. Na, nid yw hyn yr un peth â gweld rhywun wyneb i wyneb, ond mae’n well na pheidio bod mewn cyswllt. Bydd pobl yn gwybod dy fod di’n dal i feddwl amdanynt. Gallet ti chwarae cwis rhithiol dros alwad fideo; mae yna ddigon o apiau galwadau fideo ar gael.

9. Mynediad i gefnogaeth

Manylion cyswllt Meic ar gyfer erthygl Covid19 cadw rheolaeth iechyd meddwl
Ffôn: 080 8802 3456
Testun: 84001
Gwe: www.meic.cymru

Er ein bod yn gaeth i’r tŷ, mae cefnogaeth ar gael o hyd os wyt ti angen. Mae cynghorwyr Meic ar gael rhwng 8yb a hanner nos 7 diwrnod yr wythnos ac yn gallu helpu gyda gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth os wyt ti angen. Cysyllta.