x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Sut i Gael Hwyl Heb Droi at Alcohol

Tri ffrind yn bwyta pizza ar soffa

Mae mwy o bobl ifanc yn dewis peidio yfed alcohol ac yn chwilio am ffyrdd eraill i gael hwyl. Efallai dy fod yn ystyried cymdeithasu heb alcohol, neu efallai ti wedi cychwyn yn barod ac yn chwilio am fwy o syniadau.

Pam bod rhai pobl ifanc yn penderfynu peidio yfed alcohol?

Mae nifer o resymau pam bod nifer o bobl ifanc yn yfed llai. Os wyt ti’n yfed llai efallai dy fod eisiau blaenoriaethu dy iechyd a ti wedi sylweddoli ar effaith alcohol arnat ti. Efallai dy fod eisiau gwario dy arian ar bethau gwahanol yn hytrach na nosweithiau allan. Efallai nid yw dy deulu a ffrindiau yn yfed ryw lawer felly ti ddim yn teimlo’r angen i wneud chwaith.

Beth bynnag yw’r rheswm, mae’r blog yma’n llawn o syniadau am sut i fwynhau heb ddibynnu ar alcohol.

Gweithgareddau creadigol

Un o’r ffyrdd gorau i osgoi’r pwysau i yfed yw cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd ddim yn cylchdroi o gwmpas alcohol. Meddylia am y pethau ti wirioneddol yn eu mwynhau neu ti wastad wedi bod eisiau gwneud.

Mae stafelloedd dianc yn ddewis gwych i griw o ffrindiau, mae’n cynnig her a digon o hwyl a sbri.

Gallet ti drio pethau mwy corfforol fel dringo, bowldro neu sglefrio, byddi di’n gwneud ymarfer corff ac yn cael hwyl ar yr un pryd.

Os wyt ti awydd rhywbeth mwy creadigol, beth am fynychu dosbarth crochenwaith neu weithdy paentio? Galli di hyd yn oed brynu ychydig o nwyddau a chynnal noson dy hun. Mae celf a chrefft yn rhoi cyfle i ti ymlacio, datblygu sgil newydd a chreu rhywbeth unigryw.

Mae caffis gemau bwrdd yn dod yn fwy poblogaidd, maent yn cynnig lle i ymlacio a chymdeithasu gyda ffrindiau. Gallwch ddod at eich gilydd a rhannu gemau gwahanol a chynnal noson gemau bwrdd adref hefyd.

Mae mynychu cyngherddau neu wrando ar gerddoriaeth byw yn ffordd wych o gymdeithasu a mwynhau heb alcohol.

8 o bobl ifanc yn cael hwyl yn chwarae frizbee mewn cae yn yr haf

Mwynhau’r awyr agored

Mae treulio amser ym myd natur yn ffordd wych o ymlacio a chysylltu gyda ffrindiau heb alcohol

Mae mynd ar daith gerdded neu wersylla yn brofiad gwerth chweil, galli di fwynhau golygfeydd godidog a chael seibiant o brysurdeb dy fywyd bob dydd.

Beth am fynd am dro, picnic neu daith beic yn lleol? Mae’n ffordd wych i ddal i fyny efo ffrindiau a mwynhau cwmni eich gilydd.

Os wyt ti’n byw ger yr arfordir, beth am drio syrffio, padl fyrddio neu caiacio? Mae’r gweithgareddau yma yn ffordd wych o wneud ymarfer corff a chael awyr iach.

Cyfarfod pobl newydd

Mae cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau’n gallu bod yn anodd, yn enwedig os wyt ti’n byw mewn ardal wledig. Gall deimlo mai mynd allan ac yfed yw’r unig ddewis, ond mae ‘na ffyrdd gwahanol.

Os wyt ti eisiau cwrdd â phobl newydd, gallet ti ymuno a chlwb chwaraeon, clwb llyfrau neu grŵp o wirfoddolwyr.

Chwilia ar-lein am weithgareddau lleol. Mae chwilio ar dudalennau cymunedol ar Facebook yn le da i ddechrau neu chwilio am bethau sy’n lleol i ti ar Eventbrite neu Awni. Galli di hefyd gadw llygad am hysbysebion mewn llyfrgelloedd, caffis neu siopau lleol am unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Bachgen ifanc yn dal pel fasged ar ei fys ar gwrt pel fasged

Blaenoriaethu dy les

Mae dewis peidio yfed yn rhoi cyfle i ti ganolbwyntio ar dy les. Gallet ti drio myfyrio neu wneud ymarfer meddylgarwch i leihau straen a chlirio dy feddwl. 

Beth am roi cynnig ar rhywbeth hollol newydd? Efallai bod mynd i ddosbarth ioga neu ddawns yn rhywbeth gwahanol i’r arfer a ti’n gallu gwella dy iechyd corfforol a theimlo’n well yn feddyliol hefyd.

Mae cymryd amser i edrych ar ôl ti dy hun yn hanfodol er mwyn cael cydbwysedd iach mewn bywyd.

Yn y pen draw, y peth allweddol am gael hwyl heb alcohol yw dod o hyd i be sy’n gweithio i ti. Mae ‘na lwyth o ffyrdd i fwynhau dy hun a chysylltu gyda phobl eraill heb ddibynnu ar yfed. Drwy drio gwahanol bethau a blaenoriaethu dy les, ti’n gallu cal bywyd cymdeithasol llawn bwrlwm a hwyl sydd ddim yn cynnwys alcohol.