Poeni am Arferion Yfed Rhywun?

Gall fod yn anodd iawn pan mae rhywun yn dy fywyd yn yfed gormod o alcohol. Gall wneud i ti boeni, teimlo’n ofnus ac wedi drysu, neu hyd yn oed yn flin.
Efallai dy fod yn teimlo mai dim ond ti sy’n profi hyn, ond mae llawer o bobl ifanc eraill yn mynd drwy sefyllfaoedd tebyg. Mae’r blog yma’n cynnig ychydig o gyngor a chefnogaeth os wyt ti’n poeni am arferion yfed aelod o’r teulu, gofalwr neu warchodwr.
Deall effaith alcohol
Mae alcohol yn effeithio pobl mewn ffyrdd gwahanol. Weithiau, bydd rhywun yn ymddangos yn hapus ac wedi ymlacio ar ôl ychydig o ddiodydd, ond ar adegau eraill efallai byddant yn flin neu’n drist neu efallai ei fod yn anodd gwybod sut maent yn teimlo. Mae gweld newid yn eu hymddygiad yn gallu bod yn anodd, yn enwedig os yw hyn yn digwydd yn aml.
Mae alcohol yn iselydd, sy’n golygu ei fod yn arafu’r ymennydd a’r corff. Gall hyn wneud i rywun wneud penderfyniadau gwael, cael trafferth canolbwyntio neu wneud i’w hwyliau fynd i fyny ac i lawr. Mae yfed ychydig bob hyn a hyn yn iawn, ond os yw rhywun yn yfed yn ormodol gall gael effaith sylweddol ar eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.
Adnabod pan mae yfed yn dod yn broblem
Gall fod yn anodd dweud os yw arferion yfed rhywun yn broblem. Rhai o’r pethau i edrych allan amdanynt yw os bydd rhywun yn yfed yn amlach neu’n yfed mwy, bod yn gyfrinachol am eu hyfed, eu hwyliau yn newid yn ar ôl bod yn yfed, anwybyddu eu cyfrifoldebau fel gwaith a theulu neu’n parhau i yfed ar ôl i rywbeth drwg ddigwydd o ganlyniad i’w hyfed.
Os wyt ti’n sylwi ar rai o’r pethau yma, gall wneud i ti boeni. Mae’n bwysig cymryd dy deimladau o ddifri, a chofia, os wyt ti’n poeni, gofynna am gymorth.
Cofia nid yw’n fai arnat ti
Mae’n bwysig cofio nid wyt ti’n gyfrifol am arferion yfed rhywun arall. Nid wyt ti’n gallu rheoli be maen nhw’n wneud, a dwyt ti methu gwneud iddynt stopio. Nid ti sydd ar fai os yw rhywun yn yfed gormod, ac nid dy gyfrifoldeb di yw datrys y broblem. Dylet ti ganolbwyntio ar dy les dy hun a chael cymorth os wyt ti angen.
Os wyt ti’n delio â sefyllfa anodd fel hyn, rhaid i ti gymryd gofal o dy hun. Gwna’n siŵr dy fod yn cael digon o gwsg, bwyta’n iach, ac yn rheoli straen mewn ffyrdd iach. Gall hyn gynnwys ymarfer corff, gwrando ar gerddoriaeth, treulio amser gyda ffrindiau neu wneud dy hoff weithgareddau. Mae edrych ar ôl dy iechyd meddwl yn dy alluogi i ymdopi â’r sefyllfa yn well ac i sicrhau dy fod yn ddigon cryf i geisio cymorth os wyt ti ei angen. Cofia, ti’n haeddu cefnogaeth a gofal.
Siarad gyda rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw
Mae siarad am dy bryderon yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn. Dylet ddewis rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw, fel aelod arall o’r teulu, ffrind, athro, gweithiwr ieuenctid, neu linell gymorth. Mae rhannu dy bryderon yn gallu gwneud i ti deimlo’n llai unig a gallent gynnig cyngor a chefnogaeth i ti.
Gall fod yn anodd siarad am rywbeth fel hyn, ond cofia does dim rhaid i ti ddelio efo hyn ar ben dy hun. Mae yna bobl sydd eisiau gwrando a helpu. Os wyt ti’n siarad â rhywun, trïa ddweud sut wyt ti’n teimlo ac egluro’r sefyllfa.
Mae nifer o sefydliadau yn cynnig cymorth ac adnoddau i bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan arferion yfed rhywun arall. Mae’r sefydliadau yma yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chwnsela. Gallent helpu ti ddeall be sy’n digwydd a sut i ddelio â’r sefyllfa. Dyma rai awgrymiadau o ble i fynd am gymorth:
- Al-Anon UK: Cymorth a dealltwriaeth i ffrindiau a theulu pobl sy’n gaeth i alcohol. Galli di ffonio’r llinell gymorth yn ddienw ar 0800 0086 811
- NACOA (The National Association for Children of Alcoholics): Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bawb sy’n cael eu heffeithio gan riant sy’n yfed. Galli di ffonio’r llinell gymorth yn ddienw ar 0800 358 3456 neu yrru e-bost at helpline@nacoa.org.uk
- DrinkAware: Llinell gymorth Drinkline. Mae’n wasanaeth cyfrinachol ar gyfer unrhyw un yn y DU sy’n poeni am ei arferion yfed neu arferion rhywun arall. Galli di ffonio ar 0300 123 1110
- DAN 24/7: Llinell gymorth alcohol a chyffuriau i Gymru. Os wyt ti’n poeni am dy arferion yfed neu arferion rhywun arall gall DAN 24/7 gynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth yn ddienw. Gallent dy gyfeirio at wasanaethau lleol hefyd. Ffonia eu rhadffôn ar 0808 808 2234 neu yrru neges destun at DAN i 81066
Cael help
Wedi dy lethu a ddim yn siŵr be i wneud nesa’? Siarada â Meic! Mae llinell gymorth Meic yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ar draws Cymru gan gynghorwyr cyfeillgar. Rydym ar agor o 8yb i hanner nos bob dydd. Galli di ffonio, yrru neges Whatsapp neu neges destun neu sgwrsio ar-lein.
