x
Cuddio'r dudalen

Deall Effaith Alcohol ac Yfed yn Ddiogel

Mae’r gyfraith yn dweud bod alcohol i fod i gael ei brynu a’i yfed gan oedolion dros 18 oed, ond mae llawer o bobl ifanc yn yfed o dan yr oed yma. Nid ydym yma i farnu. Mae’r blog yma yn rhoi’r wybodaeth rwyt ti ei angen i ddeall mwy am effaith alcohol a sut i gadw’n ddiogel.

Neidio i:

Sut i yfed yn ddiogel (ac osgoi pen mawr)

Help a chefnogaeth

Pam bod pobl yn yfed alcohol?

Mae llawer math wahanol o alcohol, fel cwrw, gwin a gwirodydd (spirits).

Gall diodydd alcoholig newid y ffordd mae dy feddwl a dy gorff yn gweithio ac yn teimlo. Mae’n gallu cael effaith ar dy siarad, y cyhyrau, yr organau synhwyraidd a’r glands chwysu.

Mae rhai pobl yn yfed i ymlacio, i fwynhau digwyddiadau cymdeithasol, cael gwared ar nerfau, a chael hwyl. Ond weithiau, gall fod yn broblem. Weithiau mae pobl yn gallu dod yn ddibynnol ar alcohol i weithredu, neu mae binjo yn gallu arwain at ddewisiadau peryglus neu niweidiol.

Sut effaith mae alcohol yn ei gael ar y meddwl?

Pan rwyt ti’n yfed alcohol, rwyt ti’n fwy tebygol o gymryd risgiau sy’n gallu bod yn beryglus. Efallai dy fod di’n croesi’r lôn heb edrych, yn fwy agored i gymryd cyffuriau anghyfreithlon, neu’n mynd adref gyda rhywun diarth. Yn sobr, efallai byddi di’n meddwl am y canlyniadau o hyn. Ond mae yfed alcohol yn gallu cael effaith ar dy farn a dy benderfyniadau.

Mae alcohol yn gallu cael effaith ar dy gof, sylw, a’r gallu i ganolbwyntio. Efallai dy fod di’n anghofio ble mae dy ffôn neu waled, neu yn cael trafferth canolbwyntio ar yr hyn mae dy ffrindiau yn dweud. Mae yfed alcohol yn gallu cael effaith ar y gallu i feddwl yn glir a chymryd gwybodaeth i mewn am y pethau o’th gwmpas.

Dwy ferch yn gorwedd yn feddw ar soffa

Sut effaith mae alcohol yn ei gael ar y corff?

Mae alcohol yn gallu arafu adwaith i’r pethau sydd yn digwydd o’th gwmpas. Mae yfed hefyd yn gallu gwneud i ti golli balans. Rwy ti’n fwy tebygol o gael damwain, disgyn, neu anafu dy hun pan ti’n tipsi neu’n feddw.

Wyt ti wedi clywed y term “paid torri’r sêl”? Fel arfer rwyt ti angen pi-pi mwy ar ôl cael diod. Gall hyn arwain at ddysychiad (dehydration) wrth i ti gael gwared â’r dŵr yn dy gorff. Mae symptomau dysychiad yn cynnwys ceg sych, teimlo’n flinedig, a theimlo’n benysgafn.

Gall alcohol gael effaith drwg ar y stumog a’r coluddyn hefyd, sydd yn gallu achosi poen bol, cyfog, a thaflyd fyny.

dyn ifanc yn gorwedd yn y gwely yn rhoi tabled mewn gwydr o ddŵr

Pen mawr

Ar ôl i ti gael digon o yfed, efallai dy fod di’n mynd am y gwely gan obeithio cysgu dy hun yn well. Os wyt ti wedi yfed lot, yna mae’n debygol byddi di’n deffro’n teimlo’n wael. Pen mawr (neu hangover) gelwir y teimlad afiach ar ôl yfed gormod y diwrnod cynt.

Mae symptomau arferol pen mawr yn cynnwys cur pen, blinder, dysychiad, cyfog, taflyd fyny, a sensitifrwydd i olau a sŵn. Efallai bydd hi’n anodd canolbwyntio hefyd.

Mae ‘hangxiety’ yn beth! Mae’n arferol teimlo’n bryderus, ypset neu’n bigog y diwrnod wedyn. Mae alcohol yn dawelydd. Gall gwneud i ti deimlo’n grêt am gyfnod byr, ond yna’n gwneud i ti deimlo’n isel. Y rheswm am hyn fel arfer yw dysychiad a bod llawer o docsinau yn dy gorff o hyd. Mae diffyg cwsg yn gallu bod yn ffactor hefyd.

Paid poeni; mae pen mawr yn rhywbeth byrdymor am ryw ddiwrnod neu ddau fel arfer.

A fydd yfed gormod yn cael effaith hirdymor?

Mae ymchwil yn dweud nad yw’r ymennydd yn datblygu’n llawn nes rwyt ti’n 25. Mae yfed gormod pan rwyt ti’n ifanc yn gallu newid y ffordd mae’r ymennydd yn datblygu, sy’n gallu arwain at broblemau cof, dysgu a gwneud penderfyniadau yn y hir dymor.

Dros amser, mae dy oddefiad i alcohol yn cynyddu, sydd yn golygu bod rhaid i ti yfed mwy cyn i ti fedru teimlo’r un effaith ar dy feddwl a dy gorff. Mae pobl sydd yn yfed gormod o alcohol yn dweud eu bod yn cael mwy o broblemau iechyd meddwl na rhai sydd ddim yn yfed alcohol mor aml. Gall arwain at gyflyrau fel clefyd yr iau a phroblemau’r galon.

Mae alcohol yn sylwedd caethiwus, ac mae rhai pobl yn dibynnu arno i fedru gweithredu’n iawn. Gall hefyd arwain at ddibyniaeth cyffuriau eraill.

Pobl yn dathlu wrth glecian gwydrau

Sut i yfed yn ddiogel (ac osgoi pen mawr)

  • Bwyta cyn yfed – mae’n helpu i amsugno’r alcohol
  • Yfed yn gymedrol – paid gadael i eraill roi pwysau arnat
  • Cadw’n hydradol – yfed dŵr rhwng diodydd alcoholig
  • Gosod ffiniau – paid teimlo gorfodaeth i yfed mwy nag yr wyt ti eisiau
  • Deall faint gallet ti oddef yn bersonol – nid yw alcohol yn cael yr un effaith ar bawb, felly paid ceisio cystadlu
  • Archebu diodydd di-alcohol – os nad wyt ti eisiau i bobl wybod, yna ni fyddant yn sylwi’r gwahaniaeth
  • Paid byth yfed a gyrru – gallet ti golli dy drwydded ac anafu dy hun, neu bobl eraill, yn ddifrifol
  • Mae coginio tra’n feddw yn berygl tân – paratoi snacs sydd ddim angen coginio neu gael têc awê
  • Cynllunio nosweithiau cymdeithasol sobor – fel nosweithiau gemau bwrdd neu ffilm, mynd am bicnic, bowlio neu golff mini
  • Osgoi rhywun yn sbeicio dy ddiod – paid gadael dy ddiod, a dawnsia gyda dy law neu fawd dros y botel neu wydr
  • Meddwl bod rhywun wedi sbeicio dy ddiod? Dweud wrth rywun yn y bar yn syth
  • Paid colli pethau pan yn feddw – cadwa pethau gwerthfawr mewn man diogel a throsglwyddo swm bach o arian i gerdyn gwahanol
  • Bydda’n ofalus os wyt ti ar feddyginiaeth presgripsiwn neu’n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon – gall alcohol ymateb yn ddrwg gyda’r rhain (siarada â’r doctor)

Help a chefnogaeth

Meic – os wyt ti’ n teimlo pwysau i yfed mwy nag yr wyt ti eisiau neu angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, siarada â Meic ar y ffôn, tecst neu sgwrs ar-lein. Gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gyfrinachol am ddim!

Dan24/7 – llinell gymorth cyffuriau ac alcohol dwyieithog am ddim. Agored 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ffonia 0808 8082234 neu tecstia DAN i 81066.

Drinkaware – elusen yn gweithio i leihau niwed yn ymwneud ag alcohol, yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwell am eu hyfed. Wyt ti’n yfed gormod? Cymera’r cwis hunanasesu ar wefan Drinkaware i weld.

GIG Cymru – gwybodaeth a chyngor ar gamddefnydd alcohol.

Alcohol Change UK – yn cynnig gwybodaeth a chymorth i leihau niwed alcohol. Llawer o gyngor a theclynnau ar y wefan, gan gynnwys yr app TryDry i helpu yfed llai.