x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Rhesymau pam nad yw rhai pobl yn yfed

Pobl allan mewn bar gyda ffrindiau

Mewn nifer o wledydd, ac ym Mhrydain yn enwedig, gall alcohol deimlo fel rhan fawr o fywyd cymdeithasol. O fynd allan ar y penwythnos, mynd am fwyd gyda’r nos neu ddiod ar ôl gwaith, mae llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn cylchdroi o gwmpas alcohol. Fodd bynnag, mae’r nifer o bobl, yn enwedig pobl ifanc ym Mhrydain sy’n dewis peidio yfed yn cynyddu. Dyma rai rhesymau pam nad yw rhai pobl yn yfed, a’r camsyniadau cyffredin am fod yn sobor.

Credoau Crefyddol neu Ddiwylliannol

Mewn nifer o ddiwylliannau neu grefyddau, mae ymatal rhag alcohol yn normal. Mae nifer o’r crefyddau mwyaf fel Islam neu rhai enwadau o Gristnogaeth yn gwahardd alcohol neu’n annog pobl i beidio yfed. Mewn rhai diwylliannau, mae pobl yn cymryd agwedd wahanol at alcohol. Mae digwyddiadau cymdeithasol yn canolbwyntio ar fwyd, cerddoriaeth neu ddawnsio yn hytrach nac yfed.

Pobl mewn dosbarth yoga yn eistedd ar lawr gyda'u coesau wedi croesi

Iechyd Corfforol

Mae rhai pobl yn osgoi alcohol oherwydd eu hiechyd. Gall fod yn gyflwr meddygol, meddyginiaeth maent yn cymryd neu efallai eu bod yn trio yfed llai er mwyn gwella eu hiechyd. Mae stopio yfed dros dro yn normal hefyd. Gall fod oherwydd sialens ffitrwydd, beichiogrwydd neu ddigwyddiadau fel ‘Dry January’.

Iechyd Meddwl

I rai pobl, mae alcohol yn niweidio eu hiechyd meddwl, ac maent yn dewis peidio yfed er mwyn eu lles. Oherwydd bod alcohol yn iselydd gall waethygu teimladau o dristwch, pryder neu straen, sy’n gwneud hi’n anoddach ymdopi â heriau iechyd meddwl.

Profiadau yn y gorffennol

Mae cael profiad drwg gydag alcohol dy hun, neu weld alcohol yn achosi niwed i ffrind neu aelod o’r teulu yn gallu newid sut ti’n teimlo am alcohol a gwneud i ti eisiau stopio yfed yn gyfan gwbl.

Merch yn archebu diod mewn caffi

Camsyniadau am bobl sydd ddim yn yfed

Mae pobl sydd ddim yn yfed yn gallu gwynebu rhagdybiaethau am eu penderfyniad. Mae’r camsyniadau hyn yn creu camddealltwriaeth ac yn atgyfnerthu stereoteipiau. Dyma rai o’r mythau mwyaf cyffredin:

“Dydi pobl sobor ddim yn hwyl”

Mae cael hwyl yn edrych yn wahanol i bawb. Mae’n bosib bydd rhywun yn ailfeddwl pa ddigwyddiadau cymdeithasol i’w mynychu os maent yn sobor, os dydi hynny ddim yn golygu nad ydynt eisiau cael hwyl. Mae’n bosib cael hwyl mewn ffyrdd eraill; bod o gwmpas ffrindiau, mwynhau cerddoriaeth dda neu ddawnsio. Mae pobl sydd ddim yn yfed yn tueddu i fod yn fwy presennol a diddorol, sy’n gwneud cymdeithasu’n well.

“Maen nhw’n beirniadu fi”

Nid yw penderfyniad rhywun i beidio yfed yn feirniadaeth o benderfyniadau pobl eraill. Mae pobl sydd ddim yn yfed yn gwybod eu bod nhw yn y lleiafrif ar noson allan ac maen nhw yno i gael hwyl, nid i feirniadu eraill. Os wyt ti’n poeni am feirniadaeth, efallai bod hyn yn dod o ansicrwydd sydd gen ti.

“Tydi nhw ddim eisiau dod allan”

Mae rhai yn meddwl unwaith mae rhywun yn stopio yfed bydd rhaid iddynt aros oddi wrth lefydd sy’n gwerthu alcohol a phobl sy’n yfed, ond tydi hyn ddim yn wir. Mae’n ddewis personol iawn be mae rhywun yn gyfforddus efo, felly gofyn sydd orau.

Efallai fod gan rywun ddim rheswm, neu nifer o resymau i beidio yfed. I lawer o bobl, mae bod yn sobor yn hollol normal ac mae ganddynt fywydau llawn a hwyl heb yfed. Os oes ‘na rhywbeth ar dy feddwl, gall Meic helpu. Rydym ar agor o 8yb i hanner nos bob dydd, mae’r gefnogaeth yn gyfrinachol ac yn ddienw a gallet gael cefnogaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.