Sut i Beidio Troi at Alcohol Mewn Sefyllfaoedd Cymdeithasol

Mae’r penwythnos wedi cyrraedd ac mae pawb ar eu ffordd i barti. Does gen ti ddim llawer o awydd yfed, ond mae meddwl am fod yr unig berson sobor yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus.
Os ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd, dwyt ti ddim ar ben dy hun. Mae nifer o oedolion ifanc yn teimlo pwysau i yfed mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Dim o reidrwydd oherwydd eu bod yn gaeth i alcohol, ond fel ffordd o deimlo’n gyfforddus a ffitio fewn.
Pam ydyn ni’n defnyddio alcohol?
Mae nifer o resymau pam bod alcohol bron yn ddewis awtomatig mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. I lawer o bobl, mae’n ffordd o ymlacio a lleihau pryder cymdeithasol. Mae alcohol yn iselydd sy’n arafu’r brif system nerfol, a gall wneud i ti deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus ar y dechrau.
Mewn arolwg DrinkAware canfuwyd bod oedolion ifanc 18 i 24 oed yn fwy tebygol i yfed ar lefel risg uwch na unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn profi cymaint mae pobl ifanc yn defnyddio alcohol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Ffactor arall yw diwylliant yfed Prydain, yn enwedig yn ystod coleg, prifysgol a dy ugeiniau. Mae digwyddiadau cymdeithasol yn cylchdroi o amgylch alcohol, ac mae ‘na bwysau i yfed os wyt ti eisiau ffitio fewn a gwneud ffrindiau. Gall hyn wneud i ti deimlo’n unig os wyt ti’n dewis peidio yfed.
Effaith dibynnu ar alcohol
Er bod alcohol yn cael ei weld fel datrysiad da i sefyllfaoedd cymdeithasol lletchwith, mae dibynnu arno yn gallu cael goblygiadau drwg. Dros amser, gall rwystro dy allu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol go iawn. Yn lle dysgu sut i gymdeithasu heb yfed, rwyt ti’n dod yn ddibynnol ar alcohol i deimlo’n llai anghyfforddus a nerfus. Gall hyn arwain at ddibyniaeth, ble ti’n teimlo na elli di gymdeithasu hebddo.
Mae yfed alcohol yn rheolaidd, er nad ydi o’n cael ei ystyried yn ddibyniaeth lwyr, yn cael effaith ar dy iechyd corfforol a dy iechyd meddwl. Mae’n cael effaith ar dy gwsg, yn gwanhau dy system imiwnedd ac yn cyfrannu at bryder ac iselder.
Gad i ni edrych ar y ffeithiau. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ystadegau diweddar yn awgrymu bod 1 bachgen o bob 6 ac 1 merch o bob 7 rhwng 11 ac 16 oed yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos. Mae tua 400 o bobl ifanc o dan 18 yn mynd i’r ysbyty oherwydd cyflyrau sy’n berthnasol i alcohol bob blwyddyn. Alcohol yw prif achos marwolaethau y gellir eu hatal yn y DU, felly mae’n fwy na chael hwyl gyda dy ffrindiau.
Y newyddion da ydy bod modd torri’r arferiad a theimlo’n gyfforddus yn cymdeithasu heb alcohol. Mae’n iawn dewis peidio yfed – nid yw hyn yn dy wneud yn llai o hwyl ac yn wrthgymdeithasol. Drwy’r herio’r pwysau i yfed, ti’n magu hyder yn dy allu cymdeithasol a ti’n gwella dy les corfforol a meddyliol hefyd. Dyma rai pethau i drio:
Adlewyrchu ar y rhesymau pam ti’n yfed alcohol
Cymer amser i feddwl pam ti’n teimlo’r angen i yfed mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Wyt ti’n bryderus? Ti’n teimlo pwysau i ffitio fewn? Mae adlewyrchu ar y rhesymau pam ti’n yfed yn bwysig oherwydd mae’n helpu ti ddeall pam ti’n troi at alcohol. Unwaith ti’n deall y rhesymau yma, galli di ddatblygu dulliau ymdopi iachach.
Gosod targedau bach
Dechreua drwy osod targedau bach a chyraeddadwy. Os wyt ti’n cael pum diod fel arfer, trïa gael tri. Ffordd dda o wneud hyn yw yfed diodydd alcoholig a di-alcohol fel diod meddal neu gwrw heb alcohol bob yn ail. Mae hyn yn helpu ti reoli faint ti’n yfed. Dathla’r buddugoliaethau bach yma fel ti’n gwneud cynnydd.
Cynllunia o flaen llaw
Cyn mynd i barti, tafarn neu glwb, cymer amser i feddwl am be ti am yfed. Penderfyna cyn mynd allan os wyt ti eisiau yfed ychydig bach llai neu beidio yfed o gwbl. Mae cael cynllun yn helpu ti aros at dy darged a pheidio rhoi fewn i’r pwysau gan eraill. Gallet ti sôn wrth ffrind ti’n ymddiried ynddyn nhw fel eu bod nhw yn gallu dy gefnogi di.
Dod o hyd i ffrindiau cefnogol
Mae’r bobl sydd o dy gwmpas yn gallu cael effaith sylweddol ar dy arferion yfed. Treulia amser gyda ffrindiau sy’n cefnogi dy benderfyniad i yfed llai. Mae’r ffrindiau yma yn parchu dy benderfyniadau a wna’n nhw ddim rhoi pwysau arnat i yfed mwy na ti’n gyfforddus efo. Mae eu hanogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Ymarfer dweud ‘na’
Mae gwrthod diod yn gallu teimlo’n lletchwith, yn enwedig os ti’n yfed fel arfer. Y mwyaf ti’n ymarfer dweud ‘na’ mae’n dod yn haws ac yn fwy naturiol. Gallet ti baratoi ychydig o bethau i’w dweud rhag ofn fel, “dwi’n iawn diolch”, “dwi’n gyrru heno” neu “dwi’n cymryd brêc o yfed”. Bydda’n hyderus a phendant yn dy ymateb, a phaid â theimlo bod rhaid i ti roi esboniad hir os nad wyt ti eisiau gwneud.
Canolbwyntio ar y cysylltiad cymdeithasol
Newidia dy ffocws o yfed i fod yn rhan o sgyrsiau a gweithgareddau gwerthfawr. Bydd hyn yn helpu ti adeiladu cysylltiadau a hyder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Efallai byddi di’n cael sioc gymaint o hwyl ti’n cael heb alcohol.
Chwilia am ddewis di-alcohol
Mae nifer o dafarndai, bariau a bwytai yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau di-alcohol. Galli di gael cwrw, gwin, gwirod neu goctel heb alcohol. Mae’r dewisiadau yma yn ffordd wych o fod yn rhan o’r atmosffer cymdeithasol heb yfed. Mae dewis diod di-alcohol yn ei gwneud hi’n haws i ti aros at dy darged a mwynhau mynd allan heb deimlo dy fod yn methu allan.
Ceisio cymorth
Os wyt ti’n ei chael yn anodd lleihau faint ti’n yfed ar ben dy hun, efallai gall cefnogaeth broffesiynol helpu. Siarada gyda dy feddyg teulu, gallent gynnig cyngor a dy gyfeirio at wasanaethau priodol. Mae ‘na nifer o wasanaethau lleol a cenedlaethol sy’n cynnig cefnogaeth gydag alcohol. Gallent gynnig arweiniad, cwnsela a grwpiau cefnogaeth. Mae gwasanaethau fel DAN 24/7 yn cynnig cyngor am ddim a cyfrinachol i bobl a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan alcohol a chyffuriau.
Eisiau rhywun i wrando? Siarada a Meic! Mae llinell gymorth Meic ar gael i blant a phobl ifanc ar draws Cymru gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth eiriolaeth gan gynghorydd cyfeillgar. Mae’r llinell ar agor o 8yb tan hanner nos bob dydd. Galli di ffonio, yrru neges Whatsapp neu neges destun neu sgwrsio gyda ni ar-lein.
