-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Mae alcohol yn hylif sydd mewn diodydd fel cwrw, gwin a gwirodydd. Mae yfed alcohol yn cael effaith ar y ffordd mae’r ymennydd yn gyrru ac yn derbyn negeseuon i weddill y corff.
Mae’n anghyfreithlon prynu alcohol os wyt ti o dan 18 oed.
Yfa yn gymedrol i gadw dy hun yn ddiogel. Os wyt ti’n yfed gormod, gall fod yn niweidiol i dy iechyd.
Os wyt ti’n meddwl bod dy yfed di, neu rywun arall, wedi dod yn broblem, yna gofynna am help. Gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic.
Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth: