-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Mae rhywioldeb yn ymwneud a dy deimladau rhywiol. Mae’n ymwneud â’r atyniad gallet ti ei deimlo tuag at rywun arall, unai’n rhywiol, corfforol, neu emosiynol.
Mae sawl rhywioldeb gwahanol, fel hoyw, lesbiaidd, heterorywiol, deurywiol, panrywiol, cwiâr, ymysg llawer mwy.
Ni ddylet ti deimlo siom neu gywilydd am dy rywioldeb, ond mae rhai pobl yn ei chael yn anodd dweud wrth bobl eraill am eu rhywioldeb. Dy benderfyniad di ydy pwy, os a phryd rwyt ti’n dewis dweud wrth bobl, a ni ddylai neb orfodi ti i wneud hynny.
Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth i wneud gyda dy rywioldeb, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic.
Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth: