x
Cuddio'r dudalen

Pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd: Beth, Pam a Sut?

Dwylo merch yn rhoi pledlais mewn blwch

Os wyt ti dros 16 oed erbyn Mai 6ed yna fe fyddi di’n un o’r bobl gyntaf yng Nghymru i gael pleidleisio dan 18 oed. Dyma edrych ar resymau i bleidleisio, sut i wneud a beth yw’r Senedd.

To read this article in English, click here

Wyt ti weithiau’n meddwl, “Beth yw’r pwynt mewn pleidleisio?” Efallai nad oes gen ti ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, neu efallai dy fod di’n teimlo nad yw’r ymgeiswyr na’r polisïau yn dy gynrychioli di. Felly beth yw’r pwynt?

Pam dylet ti bleidleisio

Mae’r Senedd yn gwneud penderfyniadau am y pethau sydd yn cael effaith ar fywydau pobl. Rwyt ti’n pleidleisio i ddewis y bobl rwyt ti eisiau cynrychioli ti yn y Senedd. Heb bleidleisio, nid oes gen ti unrhyw ddylanwad yn y penderfyniad yma. Byddi di’n cael dy gyfrif hyd yn oed os wyt ti’n difetha dy bapur pleidlais (mwy am hyn isod).

Mae dy lais di’n bwysig. Dyma’r tro cyntaf i rai 16 ac 17 oed gael pleidleisio yng Nghymru. Mae’r Alban wedi rhoi pleidlais i rai 16 i 17 oed yn barod, gyda niferoedd mawr yn pleidleisio. Mae’n rhaid bod yn 18 oed yn Lloegr. Mae llawer o ymgyrchu wedi bod i roi pleidlais i bobl ifanc. Defnyddia’r hawl yma!

Mae’r agwedd “dyw fy un bleidlais i ddim am wneud gwahaniaeth” yn ddealladwy, ond mae’r newidiadau eleni yn golygu bod posib cael dros 100,000 o bleidleisiau newydd. Os byddai llawer iawn yn yr ystod oedran yma yn penderfynu peidio pleidleisio, yna mae hynny’n llawer iawn o bleidleisiau fydd ddim yn cael eu cyfrif. N fydd dy genhedlaeth di yn cael ei gynrychioli.

Pobl gyda swigod siarad o flaen eu hwynebau yn cynrychioli pobl yn cael llais mewn etholiadau'r Senedd

Nid oes rhaid dewis yr un buddugol i wneud newid!

Os nad yw’r ymgeisydd rwyt ti wedi pleidleisio amdano yn cael ei ddewis, mae’r ffaith dy fod di wedi pleidleisio yn gallu cael dylanwad o hyd. Mae ystadegau yn bwysig pan fydd gwleidyddwyr yn creu polisïau. Os yw’n debygol y bydd llawer o bobl ifanc yn pleidleisio, yna maent yn fwy tebygol o greu polisïau sydd yn denu’r bleidlais ifanc. Bydd hyn yn fuddiol i ti.

Teimlo fel nad oes neb yn cynrychioli dy farn di? Nid oes rhaid i ti bleidleisio am rywun. Gallet ti ddewis difetha dy bleidlais. Mae hyn yn ffordd i ddangos nad wyt ti’n hapus gyda’r dewisiadau sydd ar gael i ti. Os nad wyt ti’n mynd i bleidleisio byddant yn cymryd yn ganiataol nad oes gen ti ddiddordeb yn cymryd rhan. Os wyt ti’n difetha dy bleidlais rwyt ti’n dangos iddynt nad ydynt yn darparu ar dy gyfer di.

Mae’r nifer o bleidleisiau sydd wedi’u difetha yn cael ei gyhoeddi gyda’r canlyniadau – felly byddi di’n cael dy glywed. Os oes nifer uchel o bleidleisiau wedi’u difetha yna mae hyn yn awgrymu bod yna lawer o bobl sydd ddim yn teimlo fel eu bod yn cael eu cynrychioli. Efallai bydd hyn yn gwneud iddynt edrych ar eu polisïau yn y dyfodol a gwneud newidiadau i geisio denu pleidlais y rhai sydd ddim yn cael eu cynrychioli ar hyn o bryd.

Sut i bleidleisio

Os wyt ti eisiau pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, yna mae’n rhaid i ti sicrhau dy fod di wedi cofrestru i bleidleisio cyn 19 Ebrill, neu ni fyddi di’n cael cymryd rhan. Mae’n rhaid i ti fod yn 16 oed ar ddiwrnod yr etholiad a byw yng Nghymru. Sicrha dy fod di’n cofrestru yma, dim ond 5 munud o dy amser ydyw.

Mae’r wybodaeth isod yn gyfarwyddiadau am drefniadau etholiadau cyn Covid. Efallai bydd newidiadau eleni wrth i’r Senedd greu cyfreithiau newydd i ganiatáu’r posibilrwydd o ohirio’r etholiad am 6 mis (os ydynt yn penderfynu bod rhaid gwneud hyn) ac i gynnal yr etholiad dros sawl diwrnod yn hytrach nag un (i helpu gydag ymbellhau cymdeithasol) ond byddem yn derbyn gwybodaeth am y trefniadau yn agosach at yr amser.

Yn etholiadau’r Senedd bydd gen ti ddwy bleidlais.

  • Aelod etholaeth – ymgeisydd ardal leol a’r person rwyt ti eisiau dy gynrychioli’n uniongyrchol
  • Aelod rhanbarthol – plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol

Mae yna dair ffordd o bleidleisio. Gallet ti bleidleisio yn bersonol, yn ddirprwyol (dewis rhywun arall i bleidleisio ar dy ran), neu drwy’r post.

Pleidleisio yn bersonol

Ar ôl cofrestru byddi di’n derbyn cerdyn trwy’r post gyda manylion a lleoliad dy orsaf pleidleisio. Cer â’r cerdyn gyda thi (er mae posib pleidleisio hebddo hefyd os wyt ti’n ei golli), ei roi i’r bobl wrth y ddesg a byddi di’n derbyn papur pleidlais. Cer â’r papur yma draw i un o’r bythau preifat a nodi dy ddewisiadau gyda chroes.

Pleidlais ddirprwyol

Os oes unrhyw reswm sydd yn atal ti rhag mynd allan i bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, yna gallet ti wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy hyd at 29 Ebrill, neu os oes rhaid hunan ynysu gellir gwneud cais am bleidlais ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5yh ar ddiwrnod yr etholiad. Bydd rhaid dewis rhywun i fynd i bleidleisio ar dy ran. Bydd yna fwy o hyblygrwydd gyda phleidleisiau dirprwyol eleni gyda’r posibilrwydd o fwy o bobl yn gorfod cymryd mantais ohono wrth iddynt orfod hunan ynysu oherwydd Covid.

Pleidlais bost

Os wyt ti’n bwriadu pleidleisio trwy’r post yna bydd angen i ti gofrestru i wneud hyn o flaen llaw. Mae angen iddynt dderbyn dy gais erbyn 5yh ar 20fed Ebrill 2021. Mae’n debyg bydd mwy o alwad am bleidlais bost eleni, felly awgrymir i ti wneud cais cyn gynted â phosib. Ffurflen gais ar gael yma.

Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd
Llun gan Nick Fewings ar Unsplash

Beth yw’r Senedd?

Mae’r Senedd yn cynnwys 60 o aelodau sydd yn cael eu hethol gan gyhoedd Cymru. Bydd pum aelod yn cynrychioli ti a dy ardal – un ar gyfer dy ardal leol a’r pedwar arall am y rhanbarth rwyt ti’n byw ynddi. Mae etholiadau’r Senedd yn digwydd bob pum mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei greu o’r blaid neu bleidiau sydd â’r mwyafrif o seddi yn y Senedd, wedi’i arwain gan Brif Weinidog Cymru (arweinydd y blaid gyda’r mwyafrif o seddi). Mae’r Prif Weinidog yn dewis gweinidogion a dirprwy weinidogion o’r Senedd i greu Llywodraeth Cymru, gyda chymeradwyaeth y Senedd.

Mae’r Senedd yn llunio cyfreithiau ac yn gosod trethi yng Nghymru ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru. Golygai hyn eu bod yn gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud pethau’n gywir ac yn gwario arian yn iawn.
Gwylia’r fideo isod i weld pwerau’r Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn creu polisïau mewn meysydd datganoledig (fel iechyd, addysg, trafnidiaeth ayb. – meysydd sydd ddim yn cael eu llywodraethu gan senedd y DU). Mae’r polisïau yma yn cael eu gwirio a’u cymeradwyo gan y Senedd, ac yna Llywodraeth Cymru, sydd â channoedd o weision sifil yn gweithio iddynt i weithredu’r rhain.

Galwa Meic

Os wyt ti’n poeni am bleidleisio, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna cysyllta â llinell gymorth Meic yn gyfrinachol. Bydd ein cynghorwyr yn gwrando, yn siarad ac yn cynnig cyngor ac yn helpu ti i ddarganfod ffordd ymlaen.