x
Cuddio'r dudalen

Helpu’r Amgylchedd Wrth Lanhau’r Traeth

Milltiroedd o dywod melyn a môr mawr glas – perffaith! Ond, ai dyma’r realiti ar draethau Cymru? Un peth mae digonedd ohono ar ein traethau ydy sbwriel sydd yn cael ei adael gan bobl, yn llygru’r amgylchedd a pheryglu’r bywyd gwyllt. Dyma gyngor ar sut fedri di helpu glanhau ein glannau a gwneud gwahaniaeth.

This article is also availaible in English – click here

Cer am daith i’r traeth

Nid oes rhaid mynd i’r traeth yn benodol i lanhau (er mae’n grêt os wyt ti). Gallet ti fynd draw i’r traeth lleol am drip bach a chyfuno hyn gyda chodi sbwriel wrth i ti fynd. Fel rwyt ti’n dod ar draws rhywbeth sydd ddim i fod ar y traeth, coda ef a’i daflu i’r bin.

Mae mynd i’r traeth yn ffordd wych i gael allan o’r tŷ, i fwynhau awel ffres y môr a rhoi hwb i dy les. Beth am droi hwn yn ddigwyddiad cymdeithasol wrth fynd gyda ffrindiau neu deulu, neu ymuno mewn digwyddiad glanhau traeth lleol sydd wedi’i drefnu a chyfarfod pobl newydd? Os wyt ti’n ifanc, sicrha dy fod di’n mynd gydag oedolyn.

Chwilia ar-lein i weld os oes digwyddiadau glanhau traeth yn agos i ti. Os wyt ti’n dod â grŵp at ei gilydd i godi sbwriel yn lleol mae posib benthyg offer codi sbwriel am ddim o Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru. Darganfod dy hwb leol a manylion cyswllt yma.

Bob mis Medi mae’r ‘Great British Beach Clean’ yn cael ei gynnal. Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn. Darganfod mwy yma.

Person yn codi sbwriel plastig. Flat vector illustration.

Cyngor da i godi sbwriel yn ddiogel:

  • Gwisgo menig tew
  • Defnyddio offer pigo sbwriel (os oes gen ti)
  • Cer â hylif glanhau dwylo
  • Bydda’n ofalus wrth godi darnau siarp
  • Gosod sbwriel mewn bagiau i waredu’n haws
  • Cario digon o ddŵr a snacs
  • Gwisgo eli haul a het haul os yw’n heulog
  • Cer â chot law a dillad cynnes os yw’n oer a gwlyb
Pobl yn trefnu sbwriel. Flat vector illustration.

Cael gwared ar y sbwriel

Ar ôl casglu’r sbwriel bydd angen cael gwared ohono. Bydd biniau sbwriel o gwmpas i’w defnyddio, ond os yn bosib, ailgylchu yw’r ffordd orau i gael gwared ar sbwriel. Nid yw’n bosib cario bagiau o sbwriel adref gyda thi bob tro, ond os wyt ti’n gallu, rhanna’r sbwriel yn:

  • Boteli plastig
  • Tuniau alwminiwm
  • Gwydr
  • Gwastraff cyffredinol
Chwistrell mewn cylch coch gyda chroes drwyddo

Cadw’n Ddiogel

Os wyt ti’n glanhau’r traeth, mae posib gallet ti ddod ar draws eitemau peryglus fel chwistrelli (syringes). Paid codi’r rhain dy hun. Cysyllta ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn syth ar 0800 80 70 60 neu rho wybod i’r cyngor lleol beth ddarganfuwyd ac ymhle.

Os wyt ti’n mynd i godi sbwriel ar dir preifat sydd ddim yn perthyn i ti, sicrha dy fod di’n cael caniatâd gan berchennog y tir. Gallet ti gael dy gyhuddo o dresbasu. Mae codi sbwriel mewn ardaloedd cyhoeddus yn iawn.

Plant yn casglu sbwriel a'i roi yn y bin. Flat vector illustration.

Dim traeth? Dim problem

Mae dŵr yn teithio i lawr o’r ffynhonnell yr holl ffordd at geg yr afon i’r môr. Os nad yw’n bosib i ti fynd i’r traeth, cer draw i’r gamlas neu afon leol a chodi sbwriel yno. Bydd hyn yn helpu lleihau faint o sbwriel sy’n ymddangos ar y glannau.

Nid oes rhaid i godi sbwriel ddigwydd ger dŵr er mwyn helpu’r amgylchedd chwaith. Cer draw i’r parc lleol neu arhosa ar dy stryd i glirio.

Logo Cadwch Gymru'n Daclus

Gwybodaeth bellach

Darganfod mwy am Cadwch Gymru’n Daclus, yr elusen sy’n gweithio ledled Cymru i warchod ein hamgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru

Llygredd Plastig a Sut i Helpu

Great British Beach Clean bob mis Medi

Eisiau siarad?

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.