x
Cuddio'r dudalen

Cyngor Ar Sut i Leihau Dy Ddefnydd o Blastig

Tra bod Gorffennaf Di-Blastig yn amser da i feddwl am leihau dy ddefnydd o blastig un-defnydd, mae’n rhywbeth dylet ti fod yn gwneud trwy’r flwyddyn.

To read this article in English, click here

Hyd yn oed pan ellir ei ailgylchu neu gompostio, mae plastig un-defnydd yn gadael ôl-troed carbon enfawr yn ei gynhyrchiad a’i ailgylchu – hyn i gyd ar gyfer cynnyrch defnyddir unwaith! 

Os wyt ti eisiau bod yn fwy ymwybodol yn amgylcheddol yna dyma awgrymiadau i leihau dy ddefnydd o blastig un-defnydd: 

Gwelltyn metel a phapur ar gyfer erthygl Lleihau Defnydd o Blastig

Gwrthod y gwelltyn!

Wyt ti wir angen gwelltyn (straw) i yfed dy ddiod? Efallai bod gan rai pobl reswm da am fod angen gwelltyn, ond nid dyma’r gwir i’r mwyafrif ohonom. Meddylia faint o ddefnydd gwneir o’r gwelltyn yna cyn ei daflu. Ydy o werth hynny? Coda’r gwydryn a sipian yn lle sugno, ac os wyt ti’n gorfod defnyddio gwelltyn beth am gario un metel neu bren gyda thi? 

Boteli ailddefnyddiadwy ar gyfer erthygl Lleihau Defnydd o Blastig

Defnyddio potel neu gwpan ailddefnyddiadwy  

Mae rhai siopau coffi yn cynnig paneidiau rhatach os wyt ti’n defnyddio cwpan dy hun felly rwyt ti’n arbed arian yn ogystal â’r blaned – gwych de? Mae posib cael rhai eithaf ‘snazzy’ hefyd, a gellir eu prynu yn eithaf rhad mewn siopau bargen.

Bag cadach dros ysgwydd ar gyfer erthygl Lleihau Defnydd o Blastig

Cario bag siopa dy hun 

Sefyllfa wych arall, ble gellir osgoi talu’r ffi bagiau yn y siopau wrth ddefnyddio bag dy hun. Paid defnyddio’r esgus “nes i anghofio”. Caria un ysgafn sydd yn plygu’n fach yn dy fag neu boced drwy’r adeg ac yna byddi di’n barod bob tro. Efallai bod rhai siopau yn rhoi bagiau papur, ond wyt ti erioed wedi bod mewn cawod gyda bag papur llawn? Dwi wedi – ddim yn olygfa bert iawn! 

Rhoi letys mewn bag llinyn ar gyfer erthygl lleihau dy defnydd o blastig

Pryna ffrwythau a llysiau yn rhydd 

Gall fod yn rhatach i brynu ffrwythau a llysiau yn rhydd yn hytrach nag mewn pecyn plastig. Efallai bod yr archfarchnad yn cynnig bagiau papur brown, gallet ti ddefnyddio bocs neu fag dy hun o’r tŷ, neu fynd â nhw i’r cownter yn rhydd.

Poteli gwydr ar silffoedd mewn siop sero gwastraff ar gyfer erthygl lleihau dy defnydd o blastig

Ail-lenwi neu swmp-brynnu

Cer i siop dim gwastraff gyda boteli dy hun a’u llenwi gyda chynnyrch glanhau a stwff ymolchi. Byddi di yn lleihau dy ddefnydd o blastig, ac os wyt ti’n cael boteli pert byddant yn edrych yn ddel iawn yn dy dŷ di hefyd. Os nad oes siop dim gwastraff cyfagos, neu os nad allet ti fforddio gwneud hyn, yna ceisia swmp-brynnu yn lle. Er nad yw hyn yn ddelfrydol, mae swmp-brynnu yn defnyddio llai o blastig yn hytrach nag sawl botel bach. Fel arfer, mae’n rhatach i brynnu cynnyrch fel swmp hefyd.

padiau ailddefnyddiadwy heb plastig

Cynnyrch Mislif Ailddefnyddiadwy

Gall y person arferol ddefnyddio rhwng 12,000 a 16,000 o gynnyrch mislif tafladwy yn ystod eu bywyd. Mae cynnyrch ailddefnyddiadwy yn cynnwys padiau cotwm, dillad isaf a chwpanau mislif sydd yn gallu dal llawer mwy ac yn gallu bod yn fwy cyfforddus i’w gwisgo.

Er bod y syniad o olchi cynnyrch mislif yn gallu bod yn annymunol i rai, mae’r teimlad yma yn pasio yn sydyn unwaith i ti gychwyn gwneud, ac mae’n gallu helpu i normaleiddio mislif a lleihau unrhyw stigma sydd gen ti amdano.  Gair o gyngor – cer â nhw i’r gawod gyda thi a gadel iddynt rinsio yn y dŵr wrth i ti olchi.

Mae prynu set o gynnyrch ailddefnyddiadwy sydd yn ddigon am gylch mislif cyfan yn gallu bod yn ddrud i gychwyn, ond byddant gen ti am flynyddoedd. Os wyt ti’n gallu fforddio eu prynu (efallai prynu nhw un ar y tro dros sawl mis), yna byddi di’n arbed arian (a’r amgylchedd!) yn y pen draw. Cadwa lygaid allan am unrhyw gynlluniau cynnyrch ailddefnyddiadwy am ddim. Llynedd buddsoddodd Llywodraeth Cymru filiynau i roi cynnyrch ailddefnyddiadwy am ddim trwy ysgolion a cholegau. Gofynna i’r ysgol neu gyngor lleol i weld os oes cynnyrch ar ôl.

Masg ar y llawr mewn gwair ar gyfer erthygl lleihau dy defnydd o blastig

Problemau llygredd Covid-19

Mae yna broblemau enfawr gyda masgiau, menig a weips yn llygru’r strydoedd, llynnoedd a’r moroedd yn ystod y pandemig Covid-19. Ond sut mae osgoi hyn? Nid oes angen menig mewn gwirionedd, heblaw dy fod di’n gweithio mewn gwasanaeth iechyd neu ofal. Nid yw defnyddio menig yn atal rhywun rhag cyffwrdd pethau eraill, y wyneb ac ati. Golchi dy ddwylo’n dda gyda sebon a dŵr yw’r peth gorau. Pryna fasg ailddefnyddiadwy sydd yn gallu cael ei olchi (os nad wyt ti’n gweithio yn y maes iechyd). Bydd hyn yn rhatach yn y pendraw nag defnyddio rhai tafladwy. Mae yna ddyluniadau gwych i’w cael hefyd a gallet ti gael un sydd yn cyd-fynd â dy bersonoliaeth a steil. Y cyngor ydy i gael masg tair haen.

Os oes gen ti unrhyw bryderon am Covid-19 yn gyffredinol – yna cer i edrych ar ein hadran Coronafeirws. Mae llawer o erthyglau defnyddiol gyda chyngor.

Felly wyt ti’n derbyn yr her o leihau defnyddio plastig un-defnydd? Cer amdani!

Meic – Yma i ti

Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Gallet ti gysylltu â ni i siarad am unrhyw beth sydd yn dy boeni di neu os oes wyt ti angen help gyda chwestiwn. Gellir cysylltu â Meic yn gyfrinachol ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn. Gallem siarad am dy opsiynau a helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau ymlaen.