Llygredd Plastig A Sut i Helpu
Mae yna lawer iawn o sylw wedi bod yn ddiweddar am lygredd plastig, ac rydym am gael golwg sydyn ar y broblem a rhannu ychydig o awgrymiadau am sut gallet ti helpu.
This article is also availaible in English – click here
Felly beth yw’r broblem gyda phlastig?
Gyda’r tyfiant ym mhoblogaeth y byd, mae plastigau hawdd, tafladwy wedi dod yn ffordd o fyw. Ond mae’r bywyd prysur diddiwedd yma yn cael effaith ar yr amgylchedd o’n cwmpas. Mae ein dibyniaeth ar y poteli a’r cynwysyddion gwastraffus yma yn achosi problemau i fywyd gwyllt, planhigion a phobl hefyd.
Mae’r effaith mwyaf i’w weld yn y môr. Mae miliynau o bysgod yn marw pob dydd. Amcangyfrif y bydd pwysau’r plastig yn y môr yn fwy nag holl bwysau’r pysgod erbyn 2050. Dyma pam fod pobl yn poeni ac yn annog pobl i helpu gwneud gwahaniaeth.
Beth gallaf i’w wneud?
Mae yna 5 peth gall pawb ei wneud i helpu gyda’r broblem blastig.
1. Siopa’n gyfeillgar
Bydda’n barod gyda bag y gellir ei ailddefnyddio wrth fynd i siopa, ac osgoi talu 5c (neu 10c weithiau) am fag hefyd. Syniad da arall fydda edrych os yw’r defnydd pacio yn gallu cael eu hailgylchu, ac os ddim, gweld os oes dewis arall.
2. Boteli dŵr gellir eu hailddefnyddio
Buddsodda mewn potel dŵr neu gwpan gellir ei ailddefnyddio yn hytrach nag prynu diod mewn plastig sydd yn cael ei daflu i’r bin. Bydd hyn yn arbed arian i ti wrth i ti gario dŵr tap gyda thi, neu mae rhai llefydd yn cynnig disgownt 10% ar ddiodydd os wyt ti’n darparu cynhwysydd dy hun. Er ei fod yn cŵl i gael dy enw ar frappe, mae’n llawer fwy cŵl i geisio helpu’r amgylchedd.
3. Osgoi plastigau dibwynt
Mae gwthiad mawr wedi bod yn ddiweddar i beidio defnyddio gwelltyn (straw) ac nid yw’n hawdd cael gafael arnynt mewn tafarndai a bwytai bellach, mae’n rhaid gofyn yn benodol amdanynt. Nid yw’r mwyafrif ohonom angen gwelltyn i yfed, mae’n eithaf hawdd yfed heb un, a gall stopio hyn achub llawer o anifeiliaid neu blanhigion. Ac os wyt ti angen defnyddio gwelltyn, beth am ddefnyddio rhai papur?
Ceisia brynu ffrwythau a llysiau yn rhydd, nid y rhai sydd wedi’u pecynnu mewn plastig yn barod. Nid oes rhaid defnyddio’r bagiau plastig clir sydd ar gael mewn siopau chwaith. Rho’r eitemau yn rhydd yn dy fag neu defnyddia gynhwysydd dy hun o gartref.
4. Ailgylchu popeth
Paid ychwanegu at y broblem wrth ddewis peidio ailgylchu pethau sy’n gallu cael ei ailgylchu. Stopia roi popeth yn yr ysbwriel cyffredinol. Mae hynny’n fwy o bethau yn mynd i’r safle tirlenwi ac yn cael effaith ar blanhigion ac anifeiliaid. Os wyt ti’n llosgi deunyddiau plastig mae hyn yn gallu rhyddhau cemegau gwenwynig. Mae mwy a mwy o eitemau yn gallu cael eu hailgylchu felly edrycha ar y label bob tro.
5. Codi tri
Mae yna lawer o sefydliadau ac elusennau sydd yn annog pobl i godi a gwaredu tri darn o blastig bob tro byddant yn ymweld â’r traeth. Fe gei di godi mwy wrth gwrs, cadwa lygaid am ddigwyddiadau glanhau’r traeth yn agos i ti, neu trefna un dy hun. Os bydda bawb sydd yn ymweld â’r traeth yn cario ychydig o ysbwriel bob tro, yna byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr i gael gwared ar y plastig ar ein traethau.
Mae yna gyffro mawr dros ymarfer corff newydd hefyd – plogio. Cychwynnodd y mympwy yma yn Sweden ac mae pobl yn jogio ac yn codi sbwriel wrth fynd. Ymarfer corff gwych i dy goesau a’th graidd wrth i ti redeg a sgwatio. Cadwa dy hun a’r blaned yn ffit – bonws!
Rhannu a dysgu mwy
Sicrha dy fod di’n rhannu’r neges i rai sydd efallai ddim yn ymwybodol o’r effaith mae plastig yn ei gael ar fywyd pob dydd. Helpa’r byd wrth rannu’r erthygl yma a lledaenu’r neges am lygredd plastig.
Os wyt ti eisiau gwybodaeth bellach mae yna adnoddau gwych ar LiveKindly a Say No To Plastics fydd yn help i ti ddod yn rhyfelwr llygredd plastig.
Siarad â Meic
Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.