x
Cuddio'r dudalen

Help! Mae Rhywbeth Yn Fy Ngwylltio Ar Y We!

Rwyt ti ar-lein un noson, yn meindio dy fusnes, pan pow! Rwyt ti’n gweld rhywbeth sydd yn gwneud i ti wylltio! Beth wyt ti’n ei wneud? Darllena isod.

To read this article in English, click here


Efallai nad wyt ti’n hapus gyda rhywbeth sydd wedi’i bostio ar dy wal. Efallai bod yna wahoddiad ffrind gan rywun diarth, neu sbam yn dweud dy fod di wedi ennill iPad. Mae hyn yn dy wylltio… ond nid oes gen ti glem sut i ddelio gyda’r sefyllfa.

Blocio ac chwyno

‘Blocia’ neu ‘Cwyna’ ydy’r cyngor cyffredin os wyt ti’n dod ar draws rhywbeth amheus ar-lein. Mae hyn yn grêt os wyt ti’n gweld rhywbeth gwirioneddol ddrwg, ond beth os wyt ti ddim yn siŵr pa mor ddrwg ydyw? Beth wyt ti’n gwneud os yw dy ffrind yn postio jôc sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus, neu’r bachgen ar Instagram sy’n postio pob briwsionyn o’i ginio?

Dylai’r canllaw yma dy helpu i benderfynu sut i ddatrys y broblem wrth ddelio gyda phethau sy’n dy wylltio neu sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyffyrddus ar-lein. Byddem yn defnyddio Facebook fel enghraifft, ond dylai’r cyngor yma fod yn wir i’r mwyafrif o sefyllfaoedd ar-lein.

Nodyn diogelwch: Gall y we fod yn rhywle cymhleth; os wyt ti’n teimlo’n ansicr am beth i’w wneud, cer i siarad ag aelod o’r teulu, oedolyn fedri di ymddiried ynddynt (rhywun ti’n adnabod yn dy fywyd go iawn) neu siarada â Meic. Os yw’n fater brys – rwyt ti neu dy ffrind mewn perygl – rho wybod i rywun ar unwaith neu ffonia 999.

  • Mae BLOCIO yn rhwystro rhywun rhag dy weld neu gysylltu gyda thi.
  • Mae CWYNO yn tynnu sylw at sefyllfa. Mae sawl math o gwyno, gan gynnwys pethau difrifol fel rhoi gwybod am drosedd. Gall cwyn am bethau difrifol cael eu hanfon at yr heddlu, felly mae’n bwysig i gofio nad yw’n jôc.

Felly pryd dylai defnyddio’r rhain? Pa opsiynau eraill sydd yna?Cyn penderfynu, mae’n bwysig ystyried cwpl o bethau.

"Hello there, fellow human. You have won an iPad! Just go to www.dodgylink.com and give me your credit card details."

“Helô ‘na, cyd-berson. Rwyt ti wedi ennill iPad! Cer i www.MaeHynYnFfug.com a rhoi dy fanylion cerdyn credyd i mi.”

A yw’n berson go iawn?

Dydy “Sbambot” ddim yn berson go iawn. Maent yn ddarnau o god sy’n anfon hysbysebion, firysau a phethau eraill annymunol. Nid yw’n bosib achosi poen iddynt, gan nad ydynt yn bodoli go iawn. Os yw Sbambot yn dy boeni, cwyna fod y post yn sbam. Bydd hyn yn atal ti rhag gweld y post a bydd Facebook yn archwilio. Llongyfarchiadau: un sbambot yn llai ar y we.

Ffyrdd o adnabod Sbambot

  • dydy’r brawddegau ddim yn gwneud synnwyr
  • gramadeg gwael
  • gofyn am fanylion personol
  • ceisio dy berswadio i brynu rhywbeth neu i glicio ar ddolen amheus
  • dweud dy fod di wedi ennill rhywbeth heb gystadlu
  • dolenni yn dweud y cei di rywbeth drud yn rhad neu am ddim

Ond beth os mai person go iawn ydyn nhw?

Wyt ti’n eu hadnabod?

Rwyt ti’n gwybod mai person ydyn nhw, ond wyt ti’n eu hadnabod?

Gall cwrdd â phobl newydd fod yn grêt, ac mae’n hawdd gwneud ffrindiau ar-lein, ond nid oes rhaid i ti wneud dim i unrhyw ddieithryn. Os wyt ti’n hapus gwneud, maen iawn sgwrsio, ond nid oes rhaid i ti. Os ydy rhywun yn danfon sylw sy’n gwneud i ti deimlo’n drist neu’n anghyfforddus, mae’n iawn i anwybyddu neu flocio (yn enwedig os ydynt yn dyfalbarhau).

Os felly, cychwyn gyda…

Sgwrs

Fel arfer, gall sgwrsio ddatrys y broblem.

Mae’n bosib nad yw dy ffrind wedi ystyried pethau o dy safbwynt di, a ddim yn sylwi bod y post yn amhriodol neu’n ymosodol. Yn yr un modd, efallai bydd trafod y mater yn helpu ti i’w weld o safbwynt gwahanol hefyd.

Gofyn am eglurder os nad wyt ti’n sicr; addysga os yw rhywbeth yn anghywir. Gwna hyn yn gwrtais ac yn barchus a – gobeithio – byddant yn gwneud yr un peth.

04

It might not change anything, but at least now he knows that what he's posting is making me uncomfortable.

Mae’n bosib nad fydd dim yn newid ar ôl hyn, ond o leiaf mae’n ymwybodol bod y pethau mae’n postio yn gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus.

Ydy hynny wedi gwneud gwahaniaeth? Os ddim, gad i ni symud ymlaen i…

Dad-ddilyn

Mae pawb yn adnabod yr un ffrind yna sydd wastad yn postio pethau anniddorol ac yn llenwi dy ffrwd newyddion. Rwyt ti’n dod ymlaen yn iawn efo nhw mewn bywyd go iawn, yn eu hystyried yn ffrind felly ti ddim eisiau dileu nhw ond… maen nhw’n rhy gythruddol ar-lein?

Pobl fel hyn yw’r rheswm bod dad-ddilyn yn bodoli. Mae dad-ddilyn yn golygu dy fod di’n parhau i fod yn ffrind iddynt, ac yn gallu gweld y pethau maen nhw’n ei bostio os wyt ti’n mynd i’w proffil, ond dyw’r stwff ddim yn ymddangos ar dy ffrwd newyddion.

05

Mae gen ti’r opsiwn hefyd i guddio’r post. Mae hyn yn dweud wrth Facebook dy fod di dal am weld diweddariadau Dan, ond ddim mor awyddus i weld popeth mae’n postio am gathod.

Dylai hyn olygu bod dy linell amser yn gwneud i ti deimlo lot hapusach. Ond, os yw rhywun yn parhau i achosi poen i ti – neu rwyt ti’n teimlo bod y sefyllfa’n ddigon difrifol i fynd yn syth at yr opsiynau canlynol – yna mae angen cymryd camau mawr.

Dileu ffrind

Mae Dileu Ffrind yn tynnu rhywun o dy restr ffrindiau. Nid oes modd iddynt weld y mwyafrif o dy gynnwys bellach.*

Nid ydynt yn derbyn hysbysiad o hyn, ond mae’n sicr byddant yn sylwi rhywbryd. Gall hyn niweidio’u teimladau ac arwain at sgwrs lletchwith y tro nesaf rydych chi’n gweld eich gilydd. Efallai gallet ti anfon neges gyntaf yn esbonio pam rwyt ti wedi penderfynu dileu.

*Ddim yn siŵr pwy sy’n gallu gweld dy broffil? Ar Facebook cer i’r symbol clo yng nghornel dde brig y sgrin. Os yw dy osodiadau yn dangos mai ffrindiau yn unig sy’n gallu gweld dy gynnwys, bydd dileu ffrind yn golygu nad fyddant yn ei weld. Ond, os yw rhywbeth wedi’i osod i ‘Cyhoeddus’ neu ‘Ffrindiau-dy-ffrindiau’, wedyn gall unrhyw un ei weld.   

welshdinosaur

Blocio

Blocio yw’r fersiwn mwyaf difrifol o ddileu ffrind. Gall unrhyw un adael sylwad ar dy gynnwys cyhoeddus (er enghraifft, ymateb i sylw rwyt ti wedi’i adael ar dudalen cyhoeddus). Mae ffrindiau-dy-ffrindiau yn ymddangos yn aml mewn sylwadau ac, yn dibynnu ar dy osodiadau preifatrwydd, mae posib gall rhywun sydd ddim yn ffrind i ti anfon neges neu dagio ti. Ond nid yw hyn yn bosib os wyt ti’n eu blocio. Mae blocio rhywun yn golygu nad wyt ti’n gallu eu gweld, ac nid allant dy weld di.

block1

Esbonia dy deimladau yn glir ac yn gwrtais. Gall defnyddio gweplun (emoticon) helpu lleihau’r tensiwn.

block2

Mae’n anodd rhoi’r tôn drosodd ar y rhyngrwyd. Efallai bod y person yn meddwl mai jocian oeddet ti? Ailadrodd dy bwynt, yn fwy clir y tro yma.

block3

block4

Rhybuddiais i ti.

Dydy osgoi ddim yn ddigon, dwi eisiau…

Cwyno!

Mae cwyno am rywbeth yn tynnu sylw at y sefyllfa, ac yn dweud “Hei, rhywun pwysig: Dylet ti weld hwn!” Mae’n cael ei ddefnyddio ar y we yn bennaf i gwyno am bethau sy’n beryglus, yn achosi poen neu’n anghyfreithlon.

CaptureAr Facebook, mae posib cwyno am bost am sawl rheswm: gall rhoi gwybod am droseddau difrifol, ond hefyd mae posib gofyn i gael tynnu llun i lawr neu guddio pethau diflas o dy linell amser. Cyn cwyno am rywbeth, mae’n bwysig i ti ddarllen yr opsiynau’n ofalus i sicrhau bod y bobl gywir yn cael gwybod.

Sut ydw i’n cwyno am rywbeth?

2016-02-17Dylai pob gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol fod â botwm cwyno (os ddim: paid â’u defnyddio). Weithiau bydd angen i ti glicio ar gwymplen mewn cornel:

Ar adegau eraill, mae’n amlwg iawn. Weithiau gyda llygad enfawr a choesau (sef logo CEOP):

ReportAbuseButton

Ond, os wyt ti’n penderfynu cadw dy linell amser yn glir o gynnwys cythruddol neu amhriodol, sicrha dy fod di’n ddiogel, ac os nad wyt ti’n siŵr beth i wneud cer i siarad gydag oedolyn, neu gyda Meic.

Mae Meic yma i siarad o hyd am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Galwa, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein yn gyfrinachol ac am ddim. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor.