Gwybodaeth Diogelwch Ar-lein yn Arbennig i Ti



Mae bod ar y rhyngrwyd a gallu darganfod gwybodaeth yn hawdd yn grêt. Mae’n anodd meddwl am fywyd heb fod ar-lein. Ond, wyt ti’n ymwybodol o’r peryglon posib a sut i aros yn ddiogel? Mae lle newydd ar Hwb, yn arbennig i ti, ac mae pobl ifanc wedi helpu ei greu.
This article is also availaible in English – click here
Mae ProMo-Cymru (y bobl sydd yn gyfrifol am Meic) wedi bod yn gweithio â Llywodraeth Cymru (y bobl sydd yn gyfrifol am Hwb) i ddatblygu a chreu ardal ‘Problemau a phryderon ar-lein’ i bobl ifanc. Trefnwyd grwpiau ffocws gyda disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a sefydliadau ieuenctid yng Nghymru. Roedd y grwpiau ffocws yn gyfle i drafod y pethau sydd yn bryder i bobl ifanc wrth fynd ar-lein.
Pam ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc?
I chi mae’r tudalennau yma, felly mae’n bwysig eu bod yn siarad gyda chi mewn iaith sydd yn ddealladwy. Gofynnwyd i’r bobl ifanc beth oedd yn eu poeni wrth fynd ar-lein? A oeddent wedi cael profiadau drwg? Beth fydden nhw’n ei wneud mewn sefyllfa benodol? At bwy fyddan nhw’n mynd am help? Pa fath o eiriau fyddan nhw’n ei ddefnyddio am bethau (e.e. secstio a griefing)?
Pa fath o wybodaeth sydd ar gael?
Mae yna 10 pwnc gwahanol:
- Cynnwys anghyfreithlon a sarhaus
- Bwlio ar-lein
- Chwarae gemau ar-lein
- Meithrin perthynas amhriodol ar-lein
- Casineb ar-lein
- Radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein
- Enw da ac ôl troed ar-lein
- Aflonyddu rhywiol ar-lein
- Rhannu lluniau noeth
- Cyfryngau cymdeithasol
Pam ydw i angen hyn?
Efallai dy fod di’n teimlo fel dy fod di’n gwybod popeth am aros yn ddiogel ar-lein, ond mae yna nifer fawr o faterion a phrofiadau gallai ddigwydd, rhai nad wyt ti’n ymwybodol ohonynt eto nes iddo ddigwydd. Felly, cer i weld y tudalennau yma a gweld os oes rhywbeth gallai helpu. Os yw rhywbeth yn digwydd yn y dyfodol, efallai byddi di’n cofio’r tudalennau yma a darganfod y cymorth rwyt ti ei angen.
Eisiau siarad?
Os wyt ti angen siarad y gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, bod hynny’n ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd ar-lein neu unrhyw beth arall, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Neges testun, Ffôn neu Sgwrs Ar-lein.
