x
Cuddio'r dudalen

Rhybudd Argyfwng Cyhoeddus: Y Seiren Fydd Yn Canu Ar Dy Ffôn

Am 3yp ar ddydd Sul, 23 Ebrill 2023, bydd rhybudd sain seiren yn cael ei yrru i bob dyfais ffôn clyfar (smartphone) yn y Deyrnas Unedig (DU). Bwriad y rhybudd yma yw profi system rhybuddion argyfwng cyhoeddus newydd Llywodraeth y DU.

Beth yw’r system rhybuddio’r cyhoedd?

Mae’r system rhybuddio’r cyhoedd yn cael ei brofi gan Lywodraeth y DU. Mae’n caniatáu i’r Llywodraeth a gwasanaethau argyfwng yrru negeseuon brys i rybuddio pobl am sefyllfaoedd gall effeithio ar eich bywyd, iechyd, neu gartref mewn sefyllfaoedd fel llifogydd a thanau. Gall gynnwys rhifau ffôn neu ddolenni i wefannau am ragor o wybodaeth.

Mae’r system yn rhad ac am ddim ac ni fydd yn cael effaith ar fatri na gofod storio dy ffôn.

Yng Nghymru bydd y negeseuon yn cael ei yrru yn Gymraeg hefyd.

Darlun fflam ar gyfer blog Rhybudd Argyfwng Cyhoeddus

Beth fydd yn digwydd yn ystod y profi?

Yn ystod y prawf, byddi di’n derbyn rhybudd a bydd dy ffôn yn dirgrynu ac yn canu’n uchel fel sŵn seiren. Bydd hwn yn parhau am tua 10 eiliad ac yna bydd yn stopio’n awtomatig. Bydd y rhybudd yn aros ar y sgrin nes i ti ei ddarllen. Gan mai prawf yw hwn, nid oes rhaid i ti wneud dim.

Bydd y seiren yn dal i ganu hyd yn oed os yw’r sŵn wedi ei ddiffodd ar y ffôn, ond ni fyddi di’n derbyn rhybudd os yw’r ddyfais wedi’i ddiffodd neu mewn ‘airplane’ neu ‘flight mode’.

Beth sy’n digwydd os dwi’n derbyn rhybudd go iawn yn y dyfodol?

Bydd y rhybudd yn cynnwys manylion yr ardal sydd wedi ei effeithio a chyfarwyddiadau am beth ddylid gwneud i aros yn ddiogel.

Pan fyddi di’n derbyn rhybudd argyfwng, dylid:

  • Stopio’r hyn rwyt ti’n gwneud
  • Darllen y rhybudd os yw’n ddiogel i ti wneud hynny
  • Dilyn y cyfarwyddiadau yn y rhybudd

Os wyt ti’n gyrru cerbyd pan fydd y rhybudd yn dod, dylid stopio mewn lle diogel i’w ddarllen. Paid defnyddio ffôn symudol wrth yrru.

Beth am breifatrwydd?

Mae’r system newydd yn defnyddio technoleg ffonau symudol yn ddibynnol ar leoliad presennol rhywun.

Pan fydd rhybudd yn barod i gael ei yrru, bydd mastiau ffonau symudol yn yr ardal benodol yn ei ddarlledu, gan yrru’r rhybudd i bob ffôn clyfar yn yr ardal yna.

Mae Swyddfa’r Cabinet yn dweud na fydd y gwasanaeth yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol fel enw, rhif ffôn, na lleoliad. Nid oes rhaid i wasanaethau lleoliad fod ymlaen er mwyn derbyn y rhybudd.

Darlun megaffon ar gyfer blog Rhybudd Argyfwng Cyhoeddus

A fydd pob dyfais yn derbyn y rhybudd?

Mae rhybuddion argyfwng yn gweithio ar bob rhwydwaith ffôn sydd wedi ei gysylltu i 4G a 5G, gall hyn gynnwys ffonau symudol neu lechen Android.

Golygai hyn na fyddant yn gweithio ar ddyfeisiau electroneg fel arall, fel cyfrifiaduron, gliniaduron, consolau gemau, teledu,  neu ffonau symudol hŷn sydd a 3G neu gynt.

Ni fydd eich llechen yn derbyn rhybudd os nad oes mynediad i rwydwaith ffonau symudol.

Nid oes gen i ffôn clyfar – beth wna i?

Os nad oes gen ti ddyfais sy’n cydweddu, yna ni fyddi di’n derbyn y rhybudd, felly nid oes dim dylet ti wneud ar gyfer y prawf yma.

Gan mai dim ond prawf yw hwn, ni fyddi di’n derbyn gwybodaeth am y rhybudd, ond, yn y dyfodol os oes sefyllfa ble mae bywydau mewn perygl, byddi di’n derbyn gwybodaeth am yr argyfwng gan fod y gwasanaethau argyfwng a Llywodraeth y DU yn rhybuddio mewn ffyrdd eraill hefyd.

Sut fedra i stopio’r rhybudd?

Mae’r Llywodraeth yn argymell i ti barhau i dderbyn y rhybuddion ar gyfer diogelwch dy hun, ond mae posib eu diffodd os oes angen. Mewn rhai sefyllfaoedd, fel camdriniaeth yn y cartref, efallai bod ffôn cudd yn y tŷ, ac rwyt ti eisiau cadw bodolaeth hwnnw’n gyfrinach.  I wneud hynny, mae posib chwilio am ‘rybuddion argyfwng’ yng ngosodiadau’r ffôn a diffodd y rhybuddion difrifol ac eithafol.

Ar iPhone, cer i ‘Gosodiadau’, yna ‘Hysbysiadau’. Diffodd ‘Rhybuddion Eithafol’ a ‘Rhybuddion Difrifol’.

Ar Android, cer i ‘Gosodiadau’, yna ‘Hysbysiadau’, yna ‘Rhybuddion Argyfwng Di-Wifr’ i ddiffodd rhybuddion argyfwng.

Siarad â Meic

Poeni ac angen siarad? Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.