5 Ffordd Gall Gwirfoddoli Helpu Dy Iechyd Meddwl
Wyt ti wedi ystyried gwirfoddoli erioed? Mae yna ddigonedd o resymau da i wirfoddoli, ond wyt ti wedi meddwl am y buddiannau mae’n gallu ei gael arnat ti? Rydym yn edrych ar fuddiannau gwirfoddoli ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr (1-7 Mehefin).
This article is also availaible in English – click here
Mae iechyd meddwl da yn bwysig iawn i bobl ifanc, yn enwedig nawr. Mae adeiladu gwydnwch (resilience) yn hanfodol i amddiffyn ein hiechyd meddwl. Gall gwirfoddoli chwarae rhan fawr yn datblygu ein sgiliau, profiadau, ac, yn bwysicach nag dim, ein synnwyr o lesiant.
Mae gwirfoddoli yn golygu cynnig ychydig o dy amser, sgiliau ac ynni i unigolion neu sefydliadau heb ddisgwyl dim yn ôl. Mae peidio disgwyl unrhyw beth am dy amser yn gallu cael budd annisgwyl, fel synnwyr o ystyr, adeiladu hyder a diolchgarwch, a chael effaith bositif ar iechyd meddwl a gwydnwch. Mae’n rhoi cyfle i gael effaith bositif ar dy gymuned ac yn ffordd wych i deimlo’n dda amdanat ti dy hun.
Dyma rai o’r ffyrdd gall gwirfoddoli dy helpu i deimlo’n iachach, hapusach, ac yn gallu wynebu rhai o heriau bywyd.
Corff a meddwl
Mae gwirfoddoli yn gallu rhoi newid i ti. Mae’n gwneud i ti symud a meddwl ar yr un pryd, ac yn cyflwyno sawl budd ar gyfer dy iechyd meddwl a chorfforol. Gall ymarfer corff a chyffroi’r meddwl yn rheolaidd fod yn bwysig iawn ar gyfer dy lesiant. Mae gwirfoddoli yn ffordd dda i gyflawni’r ddau.
Straen a phryder
Mae’n hawdd teimlo straen bywyd, ond mae’n rhaid bod yn ofalus neu gall fod yn niweidiol. Mae gwirfoddoli yn gallu helpu i greu rhwydweithiau a pherthnasau newydd y tu allan i dy gylch cymdeithasu arferol. Gall helpu i fagu gwydnwch i straen ac i reoli’r meddyliau pryderus.
Iselder
Yn debyg i straen a phryder, mae dy rwydwaith cefnogol yn tyfu wrth i ti gymdeithasu mwy. Mae’n helpu ti i gysylltu gyda phobl eraill sydd â’r un diddordebau ac yn rhoi synnwyr o bwrpas a chyflawniad i ti. Dywed bod y rhain i gyd yn gallu helpu gydag iselder.
Persbectif a diolchgarwch
Nid yw diolchgarwch yn emosiwn hawdd i’w adnabod na’i fynegi bob tro, ond mae’n bwysig i gadw ti’n sefydlog. Gall gwirfoddoli helpu ti i fod yn fwy cymdeithasol a chaniatáu i ti weld y darlun mawr. Bydd yn rhoi persbectif ar bethau, a byddi di’n gweld sut mae eraill yn gwneud.
Empatheiddio a gofalu am eraill
Mae pobl sydd yn gwirfoddoli fel arfer yn poeni am eraill, ac mae bod o gwmpas pobl sydd yn barod i helpu eraill yn gallu helpu ti i fagu’r meddyliau a’r gweithrediadau yma dy hun. Mae gwirfoddoli yn rhoi teimlad da i ti fydd yn helpu ti i wella a theimlo’n hapusach.
Os yw’r blog yma wedi rhoi ysbrydoliaeth i ti i ystyried gwirfoddoli, yna mae yna lawer o gyfleoedd yn agored i ti. Gall y rhain fod yn ddigwyddiadau unigol, neu’n rhywbeth mwy hirdymor, a phopeth yn y canol. Mae yna lawer o gyfleoedd i gael blas ar wahanol bethau a gweld beth sydd orau i ti.
Os wyt ti’n newydd i wirfoddoli, neu yn brysur iawn ac yn poeni nad oes posib ffitio popeth i mewn, yna meddylia faint o amser ac ynni rwyt ti’n gallu rhoi, a chychwyn yn fach. Gallet ti ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu ymuno gyda thi os wyt ti’n poeni am fynd dy hun. Ond hyd yn oed os wyt ti’n mynd ar ben dy hun, mae’n debyg y bydd yn hawdd i ti wneud ffrindiau newydd gyda phobl o’r un meddylfryd.
Am y cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf, cer draw i weld gwefan Gwirfoddoli Cymru. Gall unrhyw un wirfoddoli, unrhyw amser, am unrhyw reswm. Mae yna gannoedd o sefydliadau ledled Cymru angen gwirfoddolwyr, ac amrywiaeth eang o rolau a phrofiadau gwanhaol yn agored i ti.
Eisiau siarad?
Os wyt ti angen siarad y gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, bod hynny’n ymwneud â gwirfoddoli neu unrhyw beth arall, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Neges testun, Ffôn neu Sgwrs Ar-lein.