x
Cuddio'r dudalen

Dydd San Ffolant: Gwych Neu Hunllef?

Yr wythnos hon mae gennym ymgyrch perthnasau arbennig ar Meic. Dyma un o sawl erthygl yn cael ei gyhoeddi ar y pwnc yr wythnos hon. I weld mwy edrycha ar yr adran erthyglau.

Cyn i ti gael cyfle i orffen condemnio’r Nadolig fel ymarferiad llosgi arian, wedi’i freuddwydio gan adrannau marchnata mawrion manwerthu, ti’n cael dy sugno yn syth yn ôl gan y dyddiad ar y calendr gyda’r galon mawr goch wedi’i ddwdlan arno: Dydd San Ffolant.

Ond sut wyt ti’n teimlo am Dydd San Ffolant?

Rhywbeth? Dim Byd?

Os oes gen ti rywun arbennig yn dy fywyd, wyt ti’n bod yn hael yn prynu siocled ffansi a blodau drud, neu wyt ti’n gafael mewn tusw o gennin pedr £1.99 o Lidl a bocs rhad o Lindt?

Wyt ti’n sengl ac yn troi’n stelciwr medrus, yn gyrru anrhegion dienw? Neu wyt ti’n mynd i wylio ffilmiau zombie a KFC gwrth-San Ffolant mewn tŷ ffrind?

Rhanna dy farn

Dyma dy gyfle i waeddi am beth sy’n wych a beth sy’n ddiflas am Ddydd San Ffolant. Rhanna’r cariad, neu rhanna pa mor flin wyt ti ar ein Twitter neu Facebook gyda’r hashnod #SanFfolantGwych neu #SanFfolantHunllef.

Oes gen ti gân ramantus sy’n ffefryn, neu drac gwrth-San Ffolant hoffet ei rannu?

Wyt ti wedi cael dy ddympio yn ddiweddar ac yn treulio dy amser yn creu dol voodoo o cyngariad?

Mae hwn yn gyfle i ti rannu dy farn am ddydd mwyaf rhamantus y flwyddyn (i fod), bod hynny’n dda neu’n ddrwg.

Felly gafael yn y meic a cher ati i ganmol neu gwyno.

Galwa Meic

Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthynas, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.