x
Cuddio'r dudalen

Covid-19 – Beth Yw’r Rheolau Nawr?

Cyflwynwyd rheolau Covid-19 tynnach gan Lywodraeth Cymru ar ddydd Llun 14 Medi 2020 felly rydym am geisio gwneud pethau ychydig yn fwy clir am yr hyn rwyt ti’n cael, a ddim yn cael gwneud, rhag ofn dy fod di wedi drysu neu’n teimlo bod pethau’n ormod.

To read this article in English, click here

Yn fis Mawrth roedd rhaid i bawb ddilyn rheolau llym iawn, ddim yn gadael y tŷ heblaw am resymau hanfodol fel gweithio, siopa neu hanner awr o ymarfer corff. Mae hynny’n teimlo fel oes yn ôl bellach. Dros yr haf rydym wedi cael mynd yn ôl allan i gyfarfod gyda 30 o ffrindiau a chreu swigen teulu gyda thair aelwyd arall. Mae bywyd, er ei fod yn bell o fod yn normal, wedi dechrau symud ymlaen. Ond mae’r ffigyrau Covid yn dechrau codi eto ac felly mae’r Llywodraeth wedi gorfod cyflwyno rheolau newydd, gyda rhai ardaloedd yn gorfod mynd i gyfnod clo lleol.

Cartŵn merch yn siopa gyda mwgwd ar gyfer erthygl rheolau newydd Covid-19

Allweddi! Waled! Ffôn! Mwgwd!

Bellach mae’n rhaid gwisgo mwgwd yng ngofodau dan do os nad wyt ti o dan 11 oed neu gyda rheswm iechyd neu feddygol dilys i beidio gwisgo un. Nid oes rhaid gwisgo un mewn tafarndai neu fwytai ond dylid gofyn a oes ganddynt bolisi eu hunain i wisgo mwgwd i fynd i mewn/allan nes i ti eistedd i lawr wrth y bwrdd. Bydd gan ysgolion a cholegau rheolau eu hunain, a byddant yn cysylltu i roi gwybod beth yw’r rhain, ond mae’n debyg bydd rhaid i ti wisgo mwgwd dan do heblaw am yn y wers neu yn ystod cyfnodau egwyl yn yr awyr agored.

Awgrymir dy fod di’n gwisgo mwgwd ffabrig gellir ei olchi’n aml. Mae angen iddynt fod yn dair haen a gorchuddio’r geg a’r trwyn. Rhaid bod yn ofalus i beidio cyffwrdd dy wyneb wrth roi’r mwgwd ymlaen neu ei dynnu. Dylid golchi dy ddwylo cyn ac ar ôl cyffwrdd y mwgwd, neu ddefnyddio hylif saniteiddio os nad oes posib golchi gyda sebon a dŵr.

Cofia, mae yn erbyn y gyfraith i beidio gwisgo mwgwd. Os nad oes gan bobl reswm dilys i beidio, byddant yn derbyn dirwy.

Eisiau creu mwgwd syml dy hun – sydd ddim angen ei wnïo? Mae Llywodraeth Cymru wedi creu fideo i ddangos sut i greu un o hen grys-t cotwm a bandiau elastig.

Popio’r Swigen

Yn ôl yn fis Awst roedd cartrefi unigol yng Nghymru yn cael creu aelwyd estynedig (swigen) gyda thri chartref arall heb unrhyw gyfyngiad ar y niferoedd o bobl. Mae’n rhaid i bob aelwyd gael yr un cartrefi â’i gilydd yn eu swigen. Nid yw’n bosib newid y rhain ar ôl dewis. Mae’r swigod yma yn cael cyfarfod dan do, ond mae newid bach i’r rheol yma nawr. Rwyt ti’n cael cadw dy swigen o hyd, ond nid fydd pawb sydd yn aelod ohoni yn cael cyfarfod dan do ar yr un amser. Dim ond cyfanswm o 6 sydd yn cael bod dan do â’i gilydd ar yr un amser. Mae hyn yn cynnwys yn dy gartref, y dafarn, bwyty ac ati. Nid oes rhaid cyfrif plant dan 11 yn y cyfanswm o 6.

Mae yn erbyn y gyfraith i dros 6 o bobl o dy swigen gymdeithasol i gyfarfod dan do. Os wyt ti’n cael dy ddal, rwyt ti’n debygol o dderbyn dirwy.

Cartŵn merch a bachgen mewn mwgwd yn gwneud pawen lawen o bellter 2 fetr ar gyfer erthygl rheolau newydd Covid-19

Cyfarfod yn yr awyr agored

Nid oes newid eto yn y rheol lle gall 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored. Os wyt ti’n cadw at bellter cymdeithasol rwyt ti’n gallu cyfarfod gyda ffrindiau a theulu yn yr awyr agored. Nid oes rhaid i blant dan 11 gadw pellter cymdeithasol felly gallant chwarae gyda’i gilydd tu allan. Fe ddylet ti gadw dy ddwylo yn lan drwy’r adeg wrth eu golchi yn rheolaidd a defnyddio hylif saniteiddio.

Cadwa’n ddiogel

Y ffordd orau i gadw dy hun, ac eraill, yn ddiogel ydy cadw at y camau syml o olchi dy ddwylo’n dda, cadw pellter cymdeithasol 2 fetr ac i hunan ynysu os wyt ti’n dangos unrhyw symptomau.

Os ydy pethau’n anodd i ti, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna mae Meic yma i siarad. Mae ein cynghorwyr cyfeillgar ar gael rhwng 8yb a hanner nos bob dydd i wrando, siarad a helpu.