x
Cuddio'r dudalen

Coronafirws: Taflu Goleuni ar y Gwirionedd

Sut mae pawb yn ymdopi ar hyn o bryd? Ydy pethau ychydig yn haws bellach, neu’n mynd yn anoddach? Mae’r mwyafrif o bobl yn cymryd hyn o ddifrif nawr, gyda rhai yn ymdopi’n well nag eraill, ond weithiau gall pethau ddigwydd sydd yn gwneud i bawb boeni ychydig mwy, fel bachgen 13 oed yn marw yn Llundain yn ddiweddar.

To read this article in English, click here

I ddarllen mwy o’n cynnwys Covid-19, clicia yma.

Efallai bod clywed am rywun sydd yn agos i dy oedran di, rhywun nad oedd ag unrhyw broblemau iechyd amlwg, yn achosi ti i deimlo’n fwy pryderus am bethau, ond mae Meic yma i helpu ac i daflu ychydig o oleuni ar y gwirionedd.

Mae hwn yn sefyllfa nad oes neb wedi bod ynddi o’r blaen. Mae’n hollol newydd i bawb, a gall fod yn anodd iawn i wybod sut i ymateb iddo. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno mesuriadau aros gartref ac ymbellhau cymdeithasol i amddiffyn pob un ohonom. Mae’n syml – wrth gymysgu llai gyda phobl, mae’r tebygrwydd o ddal Covid-19 yn lleihau.

Taflu goleuni ar y gwirionedd

Y gwirionedd yw bod llawer o bobl yn mynd i fod yn wael, ac mae pobl yn marw oherwydd y firws yma. Dyma pam ei fod yn hanfodol bwysig i ddilyn popeth mae’r Llywodraeth yn ei ddweud. Ond i edrych ar bethau mewn persbectif, mae’r mwyafrif o bobl sydd yn dal y firws yn dangos symptomau gwan yn unig ac yn gwella. Mae’r mwyafrif o’r rhai sydd yn marw o’r firws yn dal i fod yn bobl hŷn dros 75 oed. Efallai bod rhai achosion ble mae pobl iau sydd yn ymddangos yn iach yn marw o’r firws, ond mae’r rhain yn brin iawn. Gan fod y cyfryngau yn sicr o adrodd mwy ar achosion ble mae pobl iach ac ifanc yn marw o’r firws, gall wneud iddo ymddangos yn fwy cyffredin nag yw mewn gwirionedd.

Tra bod y nifer o farwolaeth bob dydd yn achos i boeni, rhaid cofio bod poblogaeth y DU ychydig o dan 68 miliwn. Os ydym ni’n edrych ar ganrannau, mae’r nifer o bobl sydd yn mynd yn wael ac, yn anffodus, yn marw, yn dal i fod yn eithaf isel. Ond gan fod y nifer o bobl sydd wedi marw wedi digwydd mewn cyfnod eithaf byr, mae’n ymddangos yn llawer gwaeth. Gall gymryd hyd at 14 diwrnod i rywun ddechrau dangos symptomau ar ôl dal y firws ac felly, er ein bod wedi bod yn hunan ynysu am gyfnod yn barod, bydd y niferoedd o farwolaethau yn parhau i godi. Y gobaith yw bydd y niferoedd yma yn dechrau gostwng wrth i lai a llai o bobl roi eu hunain mewn sefyllfaoedd ble gallant ddal y firws. Felly mae’n bwysig i bob un ohonom chwarae ein rhan, rhaid i ni fod yn amyneddgar a dilyn cyngor y Llywodraeth nes bydd pethau’n gwella.

Pethau defnyddiol i feddwl amdano

Meddwl ble rwyt ti’n cael y wybodaeth am Coronafeirws. Mae gan Newsround y BBC, er esiampl, newyddion cyfoes i blant a phobl ifanc gyda chyngor gan wyddonwyr a gweithwyr meddygol, yn ogystal â chyngor diweddaraf y Llywodraeth.

Ceisia leihau’r amser rwyt ti’n ei dreulio’n gwylio’r newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol. Defnyddia gwefan y GIG yn unig i wirio symptomau a gwneud diagnosis. Dim ond gan rywun proffesiynol dylet ti dderbyn cyngor.

Mae gofalu am dy les meddyliol yn bwysig iawn. Sicrha dy fod di’n cael digon o gwsg, yn bwyta’n iach ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gellir eu gwneud gartref. Mae gan Joe Wicks sesiynau ymarfer corff dyddiol ar ei gyfrif YouTube, efallai gallet ti ddarganfod cyngerdd am ddim ar-lein, darllen llyfr da neu wrando ar un am ddim drwy audible. Edrycha ar y rhestr o bethau gallet ti ei wneud yn ein herthygl ddiweddar.

Os wyt ti’n teimlo straen neu bryder mae yna sefydliadau gallet ti gysylltu i dderbyn cefnogaeth, fel Young Minds, CALL neu Meic. Mae gennym nifer o erthyglau ar wefan Meic hefyd gall fod  o gymorth.

Pethau gallet ti ei wneud i gadw dy hun ac eraill yn ddiogel

Paid mynd allan – os nad oes wir raid i ti. Yr unig resymau dylet ti fynd allan ydy:

  • I siopa hanfodol
  • Am resymau iechyd (fel codi presgripsiwn)
  • I fynd i’r gwaith (os nad yw’n bosib gweithio a gartref). Mae gweithwyr allweddol (e.e. doctoriaid, nyrsys, gofalwyr, cludiant nwyddau, athrawon, gweithwyr post ayb.) wedi’u hesgusodi o’r rheol yma. Mae’n RHAID iddynt fynd allan.
  • I gadw’n heini. Ond cofia, mae’n rhaid i ti aros yn lleol i dy gartref. Fe gei di fynd allan am un ffurf o ymarfer corff bob dydd (cerdded, rhedeg, reidio beic ayb.). Paid teithio yn y car i wneud hyn, mae’n rhaid cychwyn a gorffen dy ymarfer corff yn dy gartref. Paid cyfarfod gyda ffrindiau i wneud hyn, dim ond cadw’n heini gyda phobl sydd yn byw yn dy gartref.

Ond, os oes rhaid i ti fynd allan (am unrhyw un o’r rhesymau uchod) cofia peidio mynd yn agos at bobl eraill- rhaid cadw o leiaf 2 medr oddi wrthynt, mae hyn yn 6.5 troedfedd (neu un Stormzy!)

Ac yn olaf, paid cyfarfod gyda ffrindiau na theulu – Mae hyn yn mynd i fod yn hynod o anodd. Mae’n sialens enfawr i bawb i beidio gwneud y pethau rydym yn ei wneud fel arfer, fel cyfarfod gyda ffrindiau neu roi cwtsh mawr i aelod o’r teulu. Efallai bydd hyn yn haws os wyt ti’n sgwrsio gyda nhw ar y ffôn neu drwy alwad fideo (efallai gallet ti ddysgu sgiliau technoleg i aelodau hŷn y teulu fel y gallant ymuno).

Angen siarad?

Weithiau mae’n anodd iawn stopio’r teimladau yma o anobaith a phryder. Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth ac eisiau siarad am y peth gyda rhywun, yna gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic. Bod hynny i siarad am y coronafeirws, neu unrhyw beth arall, mae ein cynghorwyr wedi derbyn hyfforddiant i helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru wrth gynnig gwybodaeth, cyngor neu eiriolaeth. Byddant wastad yn ceisio’u gorau glas i helpu.