x
Cuddio'r dudalen

Gweithgareddau Am Ddim Yn Ystod Argyfwng Covid19

Mae’r ysgol wedi cau am dipyn ac efallai dy fod di’n diflasu ar orfod bod adref yn ystod yr argyfwng Coronafeirws. Yma yn Meic, rydym wedi bod yn chwilio’n galed am bethau hwyl i’w gwneud ble gallet ti ddysgu ffeithiau a sgiliau newydd, cadw’n heini a chael dy ddiddori. Edrycha isod.

To read this article in English, click here

I ddarllen mwy o’n cynnwys Covid-19, clicia yma.

Byddem yn diweddaru’r rhestr yma wrth i ni ddarganfod pethau newydd. Os oes gen ti awgrymiadau gyrra nhw draw i ni drwy DM ar Facebook, Twitter neu Instagram.

PENSILIAU - CELF gweithgareddau covid

Celf

Criw Celf – Fideo dyddiol gan y cartwnydd a’r arlunydd Huw Aaron (sydd yn creu lluniau i gylchgrawn Mellten) yn ein dysgu sut i arlunio. Clicia yma.

Mae’r arlunydd Americanaidd Steve Harpster o Harptoons hefyd yn cynnig gwersi arlunio byw dyddiol am 6yh (amser ni) ar Facebook byw. Clicia yma.

Mae Clwb Darlunio CARN yn gosod sialens ddyddiol rhwng 6:30 a 8:30 bob nos i bobl o bob oedran a gallu. Mae themâu blaenorol yn cynnwys y gwanwyn a dinosoriaid. Ymuna yn #clwbdarlunioCARN. Clicia yma.

Beth am wneud rhywbeth i geisio cael bathodyn Blue Peter? Pan fydd popeth yn dychwelyd fel yr oedd byddi di’n cael mynediad am ddim i dros 200 o lefydd dros y DU gyda bathodyn. Darganfydda beth i wneud i geisio cael un. Clicia yma.

Neu teithia’r byd yn cael taith rith o amgueddfeydd fel yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain neu Amgueddfa Celf Fodern yn Efrog Newydd. Clicia yma.

coginio gweithgareddau covid

Coginio

Dewisa rysáit o’r miloedd sydd ar gael ar wefan BBC Good Food a dechrau coginio. Clicia yma.

Mae’r cogydd Theo Michaels yn cynnal sesiynau coginio byw yn ei gartref gyda’i blant bob dydd Llun a Mercher am 4yh. Mae’n postio’r cynhwysion fydd eu hangen ar ei wefan o flaen llaw. Clicia yma.

yoga gweithgareddau covid

Cadw’n Heini ac yn iach

Dysga sut i ddawnsio gyda’r grŵp dawnsio enwog Diversity. Fel arfer mae’n rhaid talu’n fisol am hwn ond mae dosbarthiadau yn cael eu cynnig am ddim tan 1af Mai. Clicia yma.

Mae seren Strictly Otis Mabuse a Marius Lepure yn cynnig gwersi dawns i blant yn fyw pob dydd am 11:30yb. Clicia yma.

Mae’r Body Coach Joe Wicks yn cynnal dosbarthiadau cardio o’i ystafell fyw bob bore am 9. Er mai dosbarthiadau i blant ydy’r rhain maen nhw’n ddigon heriol i oedolion hefyd. Clicia yma.

Mae Ffit Cymru S4C yn cynnig dosbarthiadau Teulu Ffit gyda Rae ar Facebook a YouTube bob bore rhwng 9 a 9:20. Clicia yma.

Mynediad am ddim am 30 diwrnod i wefan Own Your Goals Davina McCall sydd yn cynnwys cannoedd o ymarfer corff, ioga, pilates, hiit a dawns. Clicia yma.

Mae Headspace yn cynnig cynnwys am ddim i helpu pobl sydd yn dioddef o gorbryder a straen. Mae’r casgliad ‘Weathering the Storm’ ar gael trwy’r app. Clicia yma.

rhifau gweithgareddau covid

Mathemateg

Mynediad am ddim i The Maths Factor gan Carol Vorderman tra mae’r ysgolion ar gau gydag adnoddau mathemateg addas i oedran 4 i 12. Clicia yma.

nodau

Cerdd

Myleene’s Music Klass – dysgu hanfodion darllen cerddoriaeth, clapio rhythm ac ychydig o ymarfer piano. Gwersi dwywaith yr wythnos. Clicia yma.

Mwynhau sioeau cerdd a dramâu llwyfan? Mae’r sioe gerdd West End Wind in the Willows ar gael i’w wylio ar-lein am ddim (clicia yma), dim ond angen cofrestru dy fanylion. Neu mae rhestr o sioeau llwyfan a sioeau cerdd eraill ar gael i’w wylio am ddim wrth glicio yma. Mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru fel mae sioeau newydd yn dod.

llyfr stori

Stori a chylchgronau

Stori glywedol ddyddiol am ddim gan David Walliams bob bore am 11. Clicia yma

Efallai bod y llyfrgelloedd wedi cau ond mae posib benthyg e-lyfrau drwy BorrowBox gyda dy gerdyn llyfrgell a PIN. Clicia yma.

Neu, os wyt oes well gen ti ddarllen cylchgrawn, yna mae dros 350 o gylchgronau gwahanol ar gael i’w lawr lwytho am ddim gyda dy gerdyn llyfrgell a PIN gan RBdigital. Clicia yma.

gwyddoniaeth gweithgareddau covid

Gwyddoniaeth a natur

Gwyddoniaeth a natur gyda Maddie Moate a Greg Foot yn cynnig dosbarthiadau byw yn ddyddiol am 11yb. Thema’r wythnos gyntaf oedd ‘yr ardd’ gyda sesiynau byw ar weld adar yn yr ardd, dyrannu cennin pedr a thynnu lluniau bwystfilod bach. Clicia yma.

Gwersi gwyddoniaeth ryngweithiol byw gan Theatre of Science bob dydd Mawrth am 1:30yp (addas i 2 i 10 oed). Mae’r cyntaf yn creu enfys gyda photel blastig, hylif golchi llestri, papur a phinnau ffelt. Clicia yma.

Mae’r YouTuber Americanaidd Marc Rober yn cynnal arddangosiad gwyddoniaeth byw ar ei YouTube (dim dyddiau nac amseroedd penodol hyd yn hyn). Rhai o’r dosbarthiadau blaenorol yw Pam bod heliwm yn gwneud dy lais yn uwch? ac Ydy rhechu yn gwneud i ti bwyso llai? Clicia yma.

Gwylia rhai o’r anifeiliaid yn Sw Caeredin gyda chamerâu byw yn gwylio’r pandas, pengwiniaid, teigrod a koalas. Clicia yma.

ieithoedd gweithgareddau covid

Ieithoedd

Gall hwn fod yn amser perffaith i rywun dysgu Cymraeg. Mae adnoddau digidol ar gael gan Lywodraeth Cymru. Clicia yma.

Mae Rosetta Stone yn cynnig tri mis o fynediad am ddim i’w adnodd dysgu ieithoedd. Gellir dewis o 24 iaith wahanol gan gynnwys Eidaleg, Sbaeneg, Tsieinëeg ac Almaeneg. Clicia yma.

llygoden gweithgareddau covid

Cyfrifiaduron

Mae Minecraft wedi rhyddhau gemau addysgiadol am ddim. Ar gael i’w lawr lwytho am ddim o Minecraft Marketplace tan 30 Mehefin 2020 gyda dy fanylion mewngofnodi Hwb. Defnyddia dy greadigedd a dysgu sut i godio ar ben dy hun neu gyda ffrindiau. Clicia yma. Am gyfarwyddiadau sut i’w lawr lwytho gwylia’r fideo isod.

A mwy

Mae gan yr Urdd weithgareddau ac adnoddau i’w mwynhau yn y tŷ ar gyfer Criw Cynradd, Criw 11-13 a Chriw 14+. Mae’r adnoddau 11-13 a 14+ yn cynnwys Meddylgarwch, Flogs, Dysgu Cymraeg a Chelf. Mae’r adnodd Cynradd yn cynnwys lliwio, coginio, straeon a phosau. Clicia yma.

Angen siarad gyda rhywun?

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth ac eisiau siarad am y peth gyda rhywun, yna gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic. Bod hynny i siarad am y coronafeirws, neu unrhyw beth arall sydd yn dy boeni, mae ein cynghorwyr wedi derbyn hyfforddiant i helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru, a gallant helpu ti i gael y cymorth sydd ei angen arnat.