x
Cuddio'r dudalen

Ymbellhau Cymdeithasol: Beth Mae Hyn Yn Ei Olygu?

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi cyhoeddi mesuriadau ymbellhau cymdeithasol fwy llym ac yn gorfodi pobl i aros gartref (lockdown). Dim ysgol, coleg na phrifysgol, dim caffis, dim cyfarfodydd cymdeithasol. Bydd y mwyafrif yn gorfod gweithio o gartref ac mae popeth oedd yn normal wedi newid mewn ychydig ddyddiau.

To read this article in English, click here

Paid meddwl am hwn fel gwyliau Pasg buan, nid yw’n gyfnod i geisio treulio amser gyda dy ffrindiau. Mae yna reswm pam bod y mesuriadau yma wedi’u gosod a bod gofyn i ni ymbellhau ein hunain yn gymdeithasol.

Lefelu’r Gromlin

Efallai dy fod di wedi clywed pobl yn sôn am ‘flattening the curve”, mae’n cael ei ddefnyddio ymhobman! Ystyr hyn ydy i arafu pa mor sydyn mae pobl yn mynd yn wael fel bod y gwasanaethau iechyd yn gallu ymdopi.

Os ydym ni’n ymbellhau ein hunain yn gymdeithasol yna ni fydd pawb yn mynd yn wael yn yr un cyfnod – efallai bydd yr un swm o bobl yn wael ond bydd hyn yn digwydd dros gyfnod hirach. Efallai dy fod di o’r farn ei bod yn well i bawb gael y firws yn sydyn fel popeth yn dod i ben cyn gynted â phosib, ond byddai hyn yn beryglus iawn.

Dim ond nifer cyfyngedig o wlâu , doctoriaid, nyrsys a pheiriannau anadlu (y pethau mae pobl sydd yn wael gyda Covid-19 ei angen i anadlu) sydd yna. Os yw llawer o bobl yn wael yn yr un cyfnod yna nid yw’r gwasanaeth iechyd yn gallu helpu pawb, felly bydd llawer o bobl ddim yn derbyn y driniaeth sydd ei angen arnynt. Os ydym ni’n ymbellhau’n gymdeithasol ac yn ‘lefelu’r gromlin’ yna bydd yn lledaenu faint o bobl sydd yn wael mewn un cyfnod, ac felly bydd y gwasanaeth iechyd yn gallu ymdopi yn well ac yn gallu helpu mwy o bobl.

Beth yw’r mesuriadau fwy llym a pam?

Ceisiodd y llywodraeth ofyn i bobl i ymbellhau yn gymdeithasol ond yn anffodus penderfynodd llawer o bobl i beidio gwrando ar y cyngor ac felly mae mesuriadau mwy llym wedi’u gosod. Mae’r rheolau newydd bellach yn golygu mai dim ond mewn rhai amgylchiadau gall pobl fynd allan, sef i fynd i siopa am hanfodion, am anghenion meddygol ac i deithio i’r gwaith. Bydd pobl yn cael gwneud un ffurf o ymarfer corff tu allan bob dydd, yn agos i’r cartref, ar ben dy hun neu gyda’r bobl rwyt ti’n byw â nhw.

Mae hawliau newydd gan yr heddlu i osod dirwy ar bobl os ydynt yn gweld mwy nag dau o bobl yn dod at ei gilydd yn gyhoeddus (os nad wyt ti’n ymarfer corff gyda’r rhai rwyt ti’n byw â nhw). Mae pob siop sydd ddim yn gwerthu hanfodion yn gorfod cau. Mae pawb sydd yn gallu gweithio o adref yn gorfod gwneud hynny.

Dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, ar 23 Mawrth, “Rwy’n eich annog yn y cyfnod hwn o Argyfwng Cenedlaethol i aros gartref, amddiffyn ein GIG ac arbed bywydau.”

“Rwy’n ifanc ac yn ffit, fydda i ddim yn wael!”

Efallai na fyddi di’n wael os wyt ti’n dal y firws, ond beth os yw rhywun arall yn wael am dy fod di wedi pasio hwn ymlaen? Sut fydda ti’n teimlo wedyn?

Nid sut bydd hyn yn cael effaith arnat ti yw hyn, ond y ffaith dy fod di’n gallu lledaenu’r firws i bobl eraill; pobl sydd â system imiwnedd gwan efallai, fydd yn dod yn wael iawn ac mewn perygl o farw. Mae ymbellhau cymdeithasol yn ymwneud â stopio’r lledaenu, ac felly mae gan bob un ohonom rôl bwysig i’w chwarae. I lefelu’r gromlin bydd angen ymarfer ymbellhau cymdeithasol.

Sut i ymarfer ymbellhau cymdeithasol

Aros gyda’r bobl sydd yn byw yn dy dŷ di yn unig. Dim gwahodd pobl draw. Mae posib cymdeithasu o hyd ar e-bost, neges testun, galwadau ffôn a galwadau fideo.

Os wyt ti’n mynd allan i siopa neu i ymarfer corff yna cadwa o leiaf 2m (6.5 troedfedd) rhyngot ti a phobl eraill drwy’r adeg.

Siarada gyda dy deulu am hyn a sut byddech chi’n ymdopi. Os yw rhywun yn cael diwrnod drwg (ac mae pawb yn siŵr o gael rhyw dro) yna penderfynwch sut y byddech chi’n delio â hyn o flaen llaw. Rhaid derbyn bod hyn yn mynd i fod yn anodd, bydd tymer pobl yn newid a bydd angen i bawb fod yn fwy amyneddgar – rhaid rhoi gofod i’ch gilydd yn hytrach na chychwyn ffrae. Ceisiwch fod yn gefnogol o’ch gilydd.

Ceisia amrywio’r hyn rwyt ti’n ei wneud fel nad wyt ti’n diflasu. Bydd chwarae ar y cyfrifiadur neu wylio’r teledu drwy’r dydd yn eithaf diflas mewn dim, ac yn gwneud pethau’n anoddach. Darganfydda apiau addysgiadol fydd yn helpu a chwblhau’r gwaith mae dy athro wedi’i osod i ti. Os nad wyt ti mewn addysg meddylia am bethau gallet ti wneud gartref, fel DIY, ymarfer corff, ysgrifennu, darganfod hobi newydd gallet ti ei wneud gartref ayb.

Os oes gen ti gyflwr iechyd difrifol yna mae’r GIG yn cynghori i ti beidio mynd allan am o leiaf 12 wythnos. Ceisia gadw draw oddi wrth bobl eraill. Edrycha ar erthygl y BBC am hyn.

Os wyt ti’n mynd allan ar gyfer unrhyw un o’r gweithgareddau sy’n cael eu caniatáu yna ceisia beidio cyffwrdd ym mhethau mae pobl eraill wedi’i gyffwrdd cymaint ag y gallet ti. Ceisia beidio cyffwrdd dy lygaid, trwyn neu geg. Defnyddia weips antiseptig a ‘sanitiser’ dwylo os oes gen ti beth. Golcha dy ddwylo yn drylwyr cyn gynted â phosib.

Dyma ganllaw swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Beth os oes gan rywun yn dy deulu symptomau?

Mae’r GIG yn cynghori i unrhyw un sydd yn datblygu tagiad parhaus neu dymheredd yn gorfod hunan ynysu am 7 diwrnod (os wyt ti’n byw dy hun). Os wyt ti’n byw gyda rhywun, yna, mae angen i bawb hunan ynysu am 14 diwrnod. Dyma’r canllaw swyddogol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am hunan ynysu. Ceisia gael rhywun arall i siopa ar dy ran, efallai wrth dalu gyda throsglwyddiad banc a gofyn iddynt adael pethau tu allan i’r drws. Mae gwirfoddolwyr lleol mewn sawl pentref a thref wedi cychwyn cynllun i helpu pobl sydd yn hunan ynysu, chwilia am grwpiau lleol ar Facebook.

Paid galw’r doctor neu 111 os wyt ti’n meddwl bod y firws arnat. Hunan ynysa. Os wyt ti’n teimlo na fedri di ymdopi, neu os ydy dy gyflwr yn gwaethygu neu ti ddim yn gwella ar ôl 7 diwrnod, yna defnyddia gwasanaeth ar-lein GIG 111, neu os nad oes gen ti fynediad i’r rhyngrwyd galwa 111. Dim ond mewn argyfwng dylet ti ffonio 999.

Angen siarad gyda rhywun?

Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth ac eisiau siarad am y peth gyda rhywun, yna gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic. Bod hynny i siarad am y coronafeirws, neu unrhyw beth arall sydd yn dy boeni, mae ein cynghorwyr wedi derbyn hyfforddiant i helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru, a gallant helpu ti i gael y cymorth sydd ei angen arnat.

Lefelu'r gromlin ar gyfer erthygl Ymbellhau cymdeithasol