Anhapus gyda Dewisiadau TGAU? Dyma Beth i’w Wneud
Os wyt ti’n casáu dy ddewisiadau TGAU yn yr ysgol uwchradd gall achosi ti i boeni. Efallai dy fod di’n teimlo’n gaeth, neu’n siomedig na ddewises di rywbeth arall, ac yn poeni na fyddi di’n llwyddo.
Mae teimlo’n ansicr am dy bynciau TGAU yn hollol normal. Mae’n benderfyniad mawr sy’n cael effaith ar dy brofiad ysgol uwchradd, o ba ddosbarthiadau rwyt ti ynddynt, i dy athrawon.
Ond beth sy’n digwydd pan rwyt ti wedi dewis y pwnc yn barod, ond ddim yn ei hoffi? Mae yna bethau gallet ti ei wneud i geisio datrys y broblem, felly dyma ychydig o gamau os wyt ti’n anhapus gyda dy ddewisiadau TGAU.
Sgwrsia gydag athrawon y pwnc
Mae dy athrawon yn gyfarwydd â’r cwricwlwm ac yn gallu helpu ti i ddeall popeth am y pwnc. Os wyt ti’n poeni am y llwyth gwaith, gallant gynnig cyngor ar sut i reoli hyn.
Os wyt ti’n cael trafferth deall y pwnc, neu ddim yn gallu gwneud y gwaith cartref, yna efallai bydd yr athro yn gallu siarad gyda thi am bethau gall helpu, fel gwerslyfrau neu fideos.
Ni ddylai ofni rhywbeth dy ddal di’n ôl. Mae’n naturiol fod ofn ffaelu, ond mae’n bwysig i ti gofio bod pawb yn ffaelu weithiau. Paid gadael i ofn atal ti rhag cymryd risg, rhoi tro ar bethau newydd, neu roi tro go dda ar y pwnc.
Ystyried dewisiadau eraill
Os nad wyt ti’n hapus gyda’r pynciau rwyt ti wedi dewis, efallai bydd posib i ti edrych ar ddewisiadau eraill. Oes pwnc arall fydda’n well gen ti ei wneud? Meddylia beth fyddet ti’n ei ddewis os byddet ti’n cael y cyfle i ddewis yn wahanol.
Meddylia am bynciau sydd o ddiddordeb neu sy’n ffitio gyda dy gôl yrfaol fel y gallet ti gael blas ohonynt yn y TGAU a gweld os yw astudio’r pwnc yma yn iawn i ti.
Os wyt ti wir eisiau gwneud pwnc TGAU sydd ddim yn cael ei gynnig gan yr ysgol, mae posib y gallet ti wneud hynny’n breifat, ond gall hyn fod yn gostus.
Newid pynciau
Yn ddibynnol ar ba flwyddyn wyt ti, efallai byddi di’n gallu newid pynciau, ond gorau po gyntaf i ti ofyn i newid fel nad oes rhaid i ti ddal i fyny ormod. Siarada gyda’r pennaeth blwyddyn i weld os yw’n bosib a thrafod y goblygiadau.
Cofia, nid yw hyn yn bosib bob tro gan fod dy amserlen wedi’i gynllunio o amgylch dy ddewisiadau. Os yw dosbarthiadau yn rhy llawn, neu dyw’r pwnc rwyt ti eisiau gwneud ddim yn disgyn i’r bloc pwnc cywir, yna efallai bydd yn anodd i ti newid.
Canolbwyntia ar yr hyn gallet ti ei reoli
Hyd yn oed os na fedri di newid dy ddewisiadau, gallet ti ganolbwyntio ar weithio’n galed a chael y graddau gorau bosib.
Gallet ti roi tro ar astudio gyda ffrind, efallai bydd hyn yn helpu ti i gadw ffocws, ac yn gwneud y cynnwys yn haws ei ddeall.
Cofia, dim ond un cam o dy siwrne yw TGAU – y mwy o raddau TGAU rwyt ti’n llwyddo cael, y mwy o ddrysau fydd yn agor i addysg bellach a gwaith.
Paid mynd i banig
Weithiau dyw pwnc ddim yn clicio. Os wyt ti wedi rhoi tro ar bopeth i geisio cadw ar y trywydd cywir ond yn cael dy dynnu i lawr gan y pwysau, paid poeni!
Mae yna sawl llwybr i lwyddiant, ac nid TGAU yw popeth ar ddiwedd y dydd. Paid gadael i’r pwysau gymryd drosodd! Mae dy iechyd meddwl a lles yn bwysicach.
Chwilia am gymorth
Os wyt ti’n teimlo bod pethau’n ormod, siarad gyda ffrindiau, teulu, neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Gallet ti hefyd gysylltu gyda ni yma yn Meic am gymorth ac arweiniad.
Cofia, nid ti yw’r unig un sydd yn teimlo fel hyn. Mae llawer o ddisgyblion yn cael profiadau tebyg. Wrth gymryd y camau yma a chwilio am gymorth, gallet ti ddarganfod datrysiad sydd yn gweithio i ti.