x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2025

Darlun o dri merch yn sefyll gyda'u gilydd

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn tynnu sylw at rai merched Cymraeg ysbrydoledig ac yn cydnabod eu cyfraniad i ddiwylliant, chwaraeon, busnes a mwy!

Elizabeth Andrews OBE (1882-1960)

Roedd Elizabeth Andrews yn wleidydd ac ymgyrchydd dros faterion cymdeithasol oedd yn effeithio cymunedau glo yng Nghymru. Roedd ei gwaith wedi gwella bywydau nifer o deuluoedd yn yr ardal. Derbyniodd OBE am ei gwaith fel ynad heddwch yn Ystrad Rhondda.

Lauren Price

Mae Lauren Price yn bencampwr byd cic focsio, yn beldroediwr rhyngwladol ac wedi ennill aur yn y gemau Olympaidd am focsio. Hi oedd y ddynes Gymraeg gyntaf i ennill medal am focsio yng Ngemau’r Gymanwlad. Enillodd fedal aur yn gemau Olympaidd 2020, y bocsiwr Cymraeg cyntaf i ennill medal aur.

Georgie Grasso

Georgie Grasso oedd yr enillydd Cymraeg cyntaf ar y sioe The Great British Bake Off yn 20204. Mae hi’n gweithio fel nyrs a defnyddiodd ei hamser ar y sioe i drafod ei phrofiadau gyda ADHD, PTSD ac iselder ôl-enedigaeth.

Amy Dowden MBE

Amy Dowden oedd y Gymraeg gyntaf i fod yn un o ddawnswyr proffesiynol Strictly Come Dancing. Mae hi wedi rhannu ei phrofiad gyda chlefyd Crohn’s ac yn fwy diweddar ei phrofiad o ganser y fron, sydd wedi ysbrydoli llawer.

Betty Campbell (1934-2017)

Roedd Betty Campbell yn ymgyrchydd cymunedol a hi oedd y brifathrawes ddu cyntaf yng Nghymru. Roedd hi’n aelod o’r Comisiwn Cydraddoldeb Hil a chwareoedd ran bwysig mewn addysg ac arweinyddiaeth gymunedol yn Nhre Biwt. Mae cofeb o Betty yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.

Lucie Macleod

Mae Lucie yn ddynes busnes o Sir Benfro a hi yw sefydlydd y cwmni Hair Syrup. Cychwynodd y busnes o adref yn ystod y cyfnod clo. Ers lansio, mae’r cwmni wedi tyfu’n sylweddol gyda dros 250,000 o archebion a thîm o 14 o staff.

Mae cymaint o ferched ysbrydoledig o Gymru, heddiw ac yn y gorffennol, sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn eu cymunedau a thu hwnt. Rydym yn gobeithio bod dysgu ychydig amdanynt wedi dy ysbrydoli ac yn dy atgoffa o effaith bod yn benderfynol a gweithio’n galed. Meddylia am bobl yn dy fywyd sy’n dy ysbrydoli, a dathla nhw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni!