x
Cuddio'r dudalen

Beth Sy’n Digwydd Rhwng Rwsia a Wcráin?

Mae’n anodd osgoi’r hyn sydd yn digwydd rhwng Rwsia a Wcráin ar hyn o bryd, ac os yw hyn yn gwneud i ti boeni neu deimlo’n bryderus, yna mae hynny’n hollol ddealladwy. Felly gad i ni edrych ar yr hyn sydd yn digwydd gyda’n gilydd.

This article is also available in English – click here

Am gyngor ar sut i ymdopi gyda phethau gofidus yn y newyddion – clicia yma

Beth yn union sydd yn digwydd rhwng Rwsia a Wcráin?

Mae yna hanes hir a chymhleth rhwng y ddwy wlad, ac mae hynny wedi arwain at ryfel yn ddiweddar. Roedd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi gorchymyn ei fyddin i amgylchynu Wcráin. Dywedodd wrth bobl Rwsia bod rhai ardaloedd Wcráin wedi gofyn i gael eu hachub rhag eithafwyr milwrol. Nid yw hyn yn wir. Mae gan Wcráin nifer fach o bobl a grwpiau sydd â barn eithafol wrth gwrs, fel sydd gan bob gwlad arall, ond nid oedd bygythiad y byddant yn cymryd y wlad.

Gofynnodd Putin i Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin, i ildio ychydig o’i dir i Rwsia. Pan wrthododd Zelenskyy, gyrrodd Putin tanciau ac arfau i Wcráin i ddychryn a lladd nifer o bobl ddiniwed. Gofynnodd Zelenskyy i’r byd i wneud popeth y gallant i amddiffyn Wcráin ac i atal Putin rhag defnyddio grym i drechu’r wlad.

Darlun agos o'r ddaear gyda goleuadau ar gyfer erthygl Beth Sy'n Digwydd Rhwng Rwsia  a Wcráin

Beth mae’r byd yn ei wneud i helpu?

Mae nifer o wledydd yn ceisio helpu wrth ddweud wrth Putin nad oes cyfiawnhad am hyn. Mae pwysau yn cael ei roi ar Rwsia wrth beidio prynu na gwerthu gwasanaethau neu nwyddau, neu wrth adennill eiddo a nwyddau yr oedd pobl gyfoethog a dylanwadol Rwsia wedi buddsoddi ynddynt y tu allan i’r wlad. Y gobaith yw, wrth i’r wlad ddechrau teimlo pwysau’r gosb yma, bydd yn gorfodi Putin i ddod â’r rhyfel i ben.

Mae rhai gwledydd yn gyrru pethau fel meddyginiaeth, bwyd, dŵr a hanfodion eraill i Wcráin, yn ogystal ag arfau i amddiffyn eu hunain. Mae llawer o wledydd wedi cynnig lloches a chefnogaeth i bobl Wcráin sydd yn dianc o’r rhyfel. Fel Cenedl Noddfa, nod Cymru yw bod yn rywle sydd yn ymestyn allan ac yn croesawu ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches. Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi addo £4 miliwn o gymorth i Wcráin ac wedi dweud, “mae Cymru yn sefyll yn barod i groesawu’r bobl sydd yn dianc o’r wlad.”

Mae gan bawb hawliau. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn dweud bod gan blant hawl i gael eu diogelu yn ystod rhyfel. Mae ganddynt hefyd yr hawl i gael help os ydynt wedi eu brifo, eu hesgeuluso, eu trin yn wael neu eu heffeithio gan ryfel, fel y gallant gael eu hiechyd a’u hurddas yn ôl.

I ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig i ffoaduriaid a’r hyn mae’r DU yn gwneud i helpu, ymwela â Newsround.

Hen danc mewn arddangosda yn yr Almaen ar gyfer erthygl Beth Sy'n Digwydd Rhwng Rwsia  a Wcráin

Beth yw barn pobl Rwsia ar y rhyfel?

Mae’n debyg bod y geiriau ‘newyddion ffug’ neu ‘camwybodaeth’ yn gyfarwydd i ti. Mae’n golygu bod gwybodaeth sydd yn cael ei rannu yn ffug, neu fod y gwir wedi cael ei newid fel dy fod di’n credu’r stori sydd yn cael ei gyflwyno. Mae Putin wedi blocio sianeli newyddion annibynnol a chyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn Rwsia. Dim ond mynediad i’r wybodaeth mae’r bobl mewn grym wedi’i ddewis sydd yn cael ei gyflwyno i’r bobl gyffredin fel ti a fi sydd yn byw yn Rwsia. Felly mae’n anodd iawn i bobl arferol ddeall realiti’r sefyllfa fel y gallant greu barn eu hunain.

Gan fod y cyfryngau yn cael ei reoli, nid oes gan y mwyafrif o bobl Rwsia fynediad i adroddiadau newyddion cytbwys. Golygai hyn eu bod yn fwy tebygol o gredu Putin pan mae’n dweud ei fod yn ceisio helpu Wcráin. Os yw pobl yn cael mynediad i newyddion o’r tu allan, ac yn dewis rhannu hyn, yna bydd Putin yn eu cosbi. Mae yna filoedd o bobl Rwsia a Wcráin sydd yn dioddef oherwydd ymosodiad Putin. Mae’n bwysig cofio bod yn garedig ac yn barchus i unrhyw bobl Rwsiaid neu Wcrainaidd rwyt ti’n cyfarfod. Nid yw eu cenedligrwydd yn golygu eu bod yn cytuno gyda rhyfel Putin.

Sut ydw i’n gallu helpu?

Mae yna sawl elusen sydd yn casglu arian, dillad, esgidiau, llyfrau, teganau neu nwyddau fel arall i gefnogi pobl o bob oedran sydd yn dioddef yn y rhyfel. Gallet ti godi arian wrth gael dy noddi i wneud rhywbeth, trefnu sêl teisen neu raffl. Edrycha ar dudalennau lleol ar gyfryngau cymdeithasol i weld pwy sydd yn casglu i’r Wcráin yn yr ardal.

Os wyt ti eisiau gwneud rhywbeth diogel ond gwleidyddol i dynnu sylw at yr hyn sydd yn digwydd, gallet ti arwyddo deiseb, ysgrifennu at dy Aelod Seneddol neu ymuno mewn gorymdaith heddychlon sydd wedi ei drefnu os ydy dy rieni neu warchodwyr yn caniatáu hynny.

Dyn trist yn eistedd ar wely, pen yn ei ddwylo ar gyfer erthygl Beth Sy'n Digwydd Rhwng Rwsia  a Wcráin

Sut ydw i’n stopio teimlo’n bryderus?

Mae’n naturiol i boeni neu deimlo pryder wrth glywed am bethau gofidus yn digwydd yn y byd. Ond mae yna bethau gallet ti ei wneud bydd yn helpu ti i ymdopi. Mae gennym gyngor yn ein blog Sut i Ymdopi Gyda Phethau Gofidus yn y Newyddion.

Mae siarad am dy deimladau gyda rhywun arall yn syniad da os wyt ti’n poeni am rywbeth. Siarada gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt (cyngor ar sut i gychwyn sgwrs yma), neu os nad wyt ti’n gallu siarad â rhywun, yna cysyllta gyda ni yma yn Meic. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd.