x
Cuddio'r dudalen

12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig

I lawer ohonom ni mae’r Nadolig yn adeg fendigedig – y bwyd, yr addurniadau, rhoi anrhegion i’r rheini rydym yn caru a threulio amser gyda theulu. Ond i rai, gall y Nadolig fod yn amser unig, a gall fod yn anodd gweld pawb arall mewn hwyliau da tra’u bod yn dioddef. Dyma ambell i syniad am sut y galli di rannu caredigrwydd a phositifrwydd dros yr ŵyl. 

This article is also available in English – click here

Helpu mewn banc bwyd i flog caredigrwydd.

1. Gwirfoddoli 

Edrycha am ffyrdd i roddi dy amser a helpu dy gymuned leol dros y Nadolig. Cyniga helpu yn y banc bwyd lleol, gwna ambell awr mewn siop elusen, neu edrycha am gyfleoedd gwirfoddoli gydag elusennau. Mae digonedd o gyfleodd ledled Cymru, felly ti’n siŵr o ddarganfod rhywbeth sy’n agos at dy galon. Defnyddia wefan Gwirfoddoli Cymru i chwilio am gyfleoedd.   

Rhoddi eitemau bwyd mewn bocs i flog caredigrwydd.

2. Rhoi i eraill

Oes gen ti bethau sydd bellach yn ddiangen, fel llyfrau, dillad a theganau? Neu efallai bod gen ti eitemau mwy fel peiriannau coffi neu offerynnau? Beth am eu rhoi i rywun arall? Gallet ti roi i ffrind fyddai’n eu defnyddio, mynd a nhw i siop elusen neu hysbysu nhw am ddim ar gyfryngau cymdeithasol. 

Llaw plentyn dros law hen ddyn yn dal ffon i flog caredigrwydd.

3. Edrych ar ôl pobl hŷn  

Wyt ti’n cofio hysbyseb torcalonnus John Lewis o 2015, The Man On The Moon? Gall y Nadolig fod yn amser unig iawn i bobl hŷn. Efallai eu bod wedi colli partner, neu gyda theulu sy’n byw yn bell, neu ddim yn gallu treulio’r Nadolig gyda nhw. Cymera ofal o bobl hŷn dros y gaeaf drwy alw mewn ar gymdogion i weld sut maen nhw, cynnig helpu gyda’r siopa bwyd neu gynnig clirio’r eira. Gallet ti wirfoddoli i fod yn ‘ffrind’ dros y ffon i Age Cymru. Os oes gen ti aelodau o’r teulu’n byw mewn cartref gofal, trefna i fynd i’w gweld a chadw cwmni iddynt. 

Teulu yn gwisgo het sion corn yn mwynhau coginio gyda'u gilydd i flog caredigrwydd.

4. Bod yn annwyl gyda theulu a ffrindiau  

Mae’n hawdd cymryd pobl yn ganiataol, yn enwedig teulu a ffrindiau! Dweud wrth y bobl yn dy fywyd dy fod di’n gwerthfawrogi nhw! Rho flodau i rywun i ddweud diolch am bopeth. Lleddfa straen diwrnod ‘Dolig drwy helpu gyda’r Cinio Nadolig. Dweud wrth dy ffrindiau sut maent wedi gwneud i ti chwerthin dros y flwyddyn. Ysgrifennu cardiau i dy frodyr a chwiorydd i ddangos gwerthfawrogiad.   

Traed rhedwyr yn cychwyn ras i flog caredigrwydd.

5. Gofyn am roddion 

Os ydi rhywun yn gofyn beth hoffet ti fel anrheg Nadolig, a dwyt ti ddim angen dim, yna gallet ti ofyn iddynt i wneud rhodd i elusen rwyt ti’n ei gefnogi yn lle hynny. Gallet ti hefyd osod sialens i dy hun  yn lle gwneud adduned flwyddyn newydd. Beth am gofrestru i wneud her wedi ei noddi neu drefnu digwyddiad i godi arian? 

Dau law - un person digartref a'r llall yn rhoi bwyd i flog caredigrwydd.

6. Bod yn garedig i bobl ddigartref  

Mae’r gaeaf yn arbennig o anodd i’r bobl heb do dros eu pen. Ystyria wirfoddoli mewn cegin gawl, gwneud rhodd i loches ddigartrefedd neu helpu i ddosbarthu blancedi a dillad cynnes i bobl ddigartref. Gallet ti brynu bwyd neu ddiod gynnes iddynt – maen nhw’n bobl fel ti a fi ac maent yn haeddu caredigrwydd a pharch. 

plentyn yn dal papur o flaen ei wyneb gyda llun calon wedi ei liwio'n goch i flog caredigrwydd.

7. Bod yn annwyl i bobl ddiarth  

Mae danogs caredigrwydd yn gallu bod yn bwysig iawn o ddydd i ddydd –  nid tuag at ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr yn unig, ond i bobl ddiarth hefyd. Mae dal y drws yn agored i rywun, dymuno diwrnod da, dweud diolch i’r gyrrwr bws, neu gynnig gair caredig, yn bethau bach, ond y pethau bychain sydd yn gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae’n amhosib gwybod beth sydd yn digwydd ym mywydau pobl ac efallai bydd un weithred garedig yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwrnod rhywun. 

curly-haired girl showing heart sign with hands on chest smiling happily
Blog caredigrwydd

8. Dweud diolch 

Oes gen ti athro/athrawes, ffrind neu aelod o’r teulu sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn dy fywyd dros y flwyddyn ddiwethaf? Neu oes unrhyw weithwyr allweddol yn dy deulu neu dy gymuned sydd yn gorfod gweithio dros ddiwrnod ‘Dolig? Beth am ysgrifennu nodyn diolch i ddweud dy fod yn meddwl amdanyn nhw – gall feddwl lot i rywun fod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi! 

Robin goch i flog caredigrwydd.

9. Gofalu am y ddaear 

Bydd yn garedig i natur yn ogystal â phobl y gaeaf hwn. Gall y gaeaf fod yn gyfnod anodd i adar a mamaliaid bach, ac weithiau mae’r sefyllfa wedi ei waethygu gan newid hinsawdd.  Gallet ti adael bwyd tu allan, gosod bocsys nythu yn barod at y gwanwyn, neu adeiladu gwesty i fywyd gwyllt yn yr ardd fel lloches i bryfaid, brogaod a hyd yn oed draenogod.    

Os wyt ti’n bwriadu prynu addurniadau, beth am brynu rhai ecogyfeillgar, neu  greu addurniadau dy hun hyd yn oed? Gallet ti drefnu diwrnod crefft gyda theulu neu ffrindiau i greu addurniadau ar gyfer y tŷ a’i addurno gyda’ch gilydd. Gallet ti hyd yn oed creu anrhegion ecogyfeillgar dy hun. 

Ci mewn cawell i flog caredigrwydd.

9. Bod yn garedig i anifeiliaid   

Wyt ti’n caru anifeiliaid? Oes ‘na loches anifeiliaid yn dy ardal leol? Beth am eu cefnogi dros y gaeaf? Yn ogystal â gwirfoddoli a rhoddi arian, gallet ti gefnogi wrth rannu eu hachos ar gyfryngau cymdeithasol. Gallet ti hefyd roi anrhegion fel blancedi, teganau a danteithion – edrycha i weld os oes gan dy loches leol restr o bethau maent eu hangen. Os oes gen ti le, amser ac egni, gallet ti gymryd anifail i mewn dros dro neu fabwysiadu hyd yn oed. Os wyt ti’n gwneud hynny, sicrha dy fod di’n deall yr ymrwymiad gyntaf. 

Gwirfoddolwr yn casglu sbwriel mewn bag du i flog caredigrwydd.

11. Rhannu llawenydd gyda’r gymuned  

Rhanna’r hwyliau da yn nes at adref wrth fod yn annwyl gyda chymdogion a dy gymuned. Hola dy gymdogion sut maent yn teimlo. Os wyt ti’n hoffi coginio, gallet ti drefnu sesiwn pobi gyda theulu neu ffrindiau i rannu gyda chymdogion, neu drefnu digwyddiad i godi arian at elusen leol. Gallet ti hefyd chwilio am fentrau cymdeithasol sy’n trefnu digwyddiadau fel garddio neu lanhau sbwriel i wella’r ardal leol i’r gymuned gyfan. 

Rhoi gwaed - plaster gyda chalon coch yn cynrychioli gwaed i flog caredigrwydd.

12. Caredigrwydd ar hap  

Yn olaf, paid â meddwl gormod am y peth! Mae cyfleoedd diddiwedd i fod yn garedig, ond dyma ambell syniad caredigrwydd ar hap i roi ysbrydoliaeth iti: 

  • Tapia arian mân i beiriant gwerthu fel anrheg i’r person nesaf 
  • Bydda’n wrandäwr da i bobl sydd eisiau ymddiried ynddot 
  • Cofrestra i roi gwaed os wyt ti’n gallu 
  • Paid bod yn rhy sydyn i farnu pobl – dwyt ti byth yn gwybod beth sydd wedi digwydd ym mywyd rhywun! 
  • Bydda’n hael gyda dy ganmoliaeth 
  • Rho dy sedd i rywun sydd ei angen mwy  
  • Postia mwy o bethau positif ar-lein  
  • Rhanna lyfrau rwyt ti’n caru  

Cymer olwg ar wefan y sefydliad Random Acts of Kindness am syniadau pellach, a beth bynnag rwyt ti’n gwneud, gwna ef gyda charedigrwydd. 

Meic contact details banner