x
Cuddio'r dudalen

Y Pethau Sy’n Gwneud Ni’n Hapus

Beth sydd yn gwneud plant a phobl ifanc Cymru yn hapus? Penderfynom ddarganfod yr ateb.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)

Twba lwcus MeicRoedd gennym stondin am dridiau yn Eisteddfod yr Urdd eleni ym Mae Caerdydd a chawsom hwyl fawr yn cyfarfod gyda llawer ohonoch oedd yn ymweld â’r maes ac yn cystadlu. Roeddem wrth ein boddau yn cael sgwrs gyda chi ac egluro ychydig am wasanaeth Meic.

Gofynnom i bawb lenwi Wal Hapus Meic gyda’r pethau oedd yn eu gwneud yn hapus a chawsom ganlyniadau grêt. Roedd pawb oedd yn cymryd rhan yn cael cyfle i dynnu rhywbeth allan o’r Twba Lwcus a chael rhywbeth Meic i fynd adref gyda nhw.

Felly, beth oedd y pethau fwyaf poblogaidd oedd yn eich gwneud yn hapus? Pêl-droed, dawnsio, rygbi, ffrindiau, teulu a chathod! Roedd yna lwyth o bethau eraill hefyd, felly cymera olwg ar ein cymylau geiriau o bob dydd.

Diwrnod 1

Pêl-droed, ffrindiau gorau a dawnsio

Llenwi'r Wal Hapus Diwrnod 1Cwmwl geiriau diwrnod 1

Diwrnod 2

Enfys, cathod a Chymru

Llenwi'r Wal Hapus Diwrnod 2Cwmwl geiriau diwrnod 2

Diwrnod 3

Teulu, bwyd a cherddoriaeth

Llenwi'r Wal Hapus Diwrnod 3Cwmwl geiriau diwrnod 3

Gobeithiwn weld mwy ohonoch mewn digwyddiadau ledled Cymru yn y dyfodol.

Cysyllta â Meic

Cofia gwneud yr hyn sydd yn gwneud ti’n hapus. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen help gydag unrhyw beth yna cofia bod posib cysylltu â Meic.

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar-lein.