x
Cuddio'r dudalen

Poeni Am Y Coronafeirws? Paid Cynhyrfu!

Y gair sydd i’w weld a’i glywed ymhobman ar hyn o bryd. Penawdau i dynnu sylw ar y newyddion a chyfryngau cymdeithasol yn achosi pobl i fynd i banig. CORONAFEIRWS – beth yn union ydyw? Dylet ti boeni? Ac oes unrhyw beth allet ti ei wneud?

To read this article in English, click here.

Er bod y coronafeirws, neu COVID-19 fel mae’n cael ei alw’n swyddogol gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), wedi cychwyn yn Tsieina, mae mwy a mwy o bobl yn poeni amdano ar ôl clywed bod yna bellach achosion ym Mhrydain a Chymru.

Beth yw’r Coronafeirws?

Mae’r coronafeirws yn deulu o firysau sydd wedi cychwyn mewn anifeiliaid maent yn credu. Mae profion yn dangos mae’n debyg ei fod wedi cychwyn mewn ystlumod cyn cael ei basio i anifeiliaid eraill ac yna i bobl. Credir bod y firws wedi’i basio i bobl mewn marchnad yn Wuhan, Tsieina, ble roeddent yn gwerthu anifeiliaid meirw a byw.

Beth yw’r symptomau?

Mae pobl gyda’r coronafeirws yn profi symptomau fel y ffliw, sydd yn cynnwys gwres uchel, tagu neu anawsterau anadlu. Tra bod pobl yn mynd i banig bod hwn yn ‘glefyd sydd yn lladd’ os wyt ti’n ei ddal, mae’r canran o achosion ble mae pobl yn wael ddifrifol yn gymharol isel:

“Mae’n ymddangos bod pobl hŷn a phobl gyda chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bod (fel asthma, clefyd siwgr, clefyd y galon) yn fwy bregus i fod yn ddifrifol wael gyda’r firws.”

WHO: Coronafeirws Chwalu’r Chwedlon

Sut mae’r firws yn cael ei basio ymlaen?

Mae’r firws yn cael ei basio ymlaen yn yr un modd ag annwyd neu ffliw, gyda phobl yn pasio’r firws ymlaen wrth iddynt dagu neu disian. Pan fydd person yn cyffwrdd rhywbeth mae rhywun gyda’r firws wedi tagu neu disian arno, ac yna’n cyffwrdd ei wyneb gyda’r llaw yno, yna maent mewn perygl o ddal y firws. Dyma pam ei bod yn bwysig cadw dy ddwylo’n lân. Y cyngor ydy golchi dy ddwylo yn aml gyda sebon a dŵr neu hylif diheintio (sanitising gel).

Golchi dwylo ar gyfer erthygl Coronafeirws

Pam bod pobl yn mynd i banig?

Nid yw’r holl sylw mae’r coronafeirws yn ei gael yn y cyfryngau yn helpu pan ddaw at achosi pobl i fynd i banig. Llongau mordaith yn cael eu rhoi dan gwarantîn, delweddau o bobl mewn siwtiau HAZMAT a masgiau wyneb, datganiad o argyfwng iechyd byd eang a chamdriniaeth hiliol a boicotio cymunedau Tsieinëeg ym Mhrydain. Geiriau fel ‘epidemig’, ‘pla’ ac ‘outbreak’ yn gweddu’n well i gêm o Resident Evil yn hytrach nag bywyd go iawn!

Gan fod hwn yn fwtaniad newydd o’r coronafeirws, nid ydynt yn gwybod llawer amdano, ac mae arbenigwyr meddygol yn dysgu fel mae’r firws yn datblygu ac yn lledaenu’n sydyn iawn. Nid oes brechlyn (vaccine) ar gael ar hyn o bryd, sydd yn gallu achosi pobl i boeni, ond mae arbenigwyr meddygol yn archwilio gwahanol opsiynau ac yn obeithiol y gallant ddatblygu brechlyn.

Mae unrhyw beth sydd yn newydd yn gallu achosi pobl i boeni, ac mae’r ffaith bod y firws yma’n lledaenu’n sydyn a bod pobl yn parhau i fod yn ansicr o’r ffeithiau yn gallu achosi panig. Ond os wyt ti’n poeni, edrycha ar yr erthygl Coronafeirws Mewn Rhifau yma sydd yn gosod pethau yn ei wir oleuni wrth edrych ar y ffigyrau.

Beth sy’n cael ei wneud am y peth?

O’r degau o filoedd o achosion sydd wedi’u hadnabod yn barod, mae’r mwyafrif ohonynt yn Tsiena (95% yn ôl y data gan y WHO ar 28/02/2020), a dim ond canran fach sydd angen mynd i’r ysbyty. Ym Mhrydain mae 596 o achosion wedi’u hadnabod hyd yn hyn (diweddarwyd ar 12/03/2020) ond mae’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) yn dweud bod y perygl i’r cyhoedd yn “isel i ganolig”. Mae’r GIG a’r llywodraeth yn gosod cynlluniau i ddelio gyda’r sefyllfa os oes llawer o achosion yn dod i’r wlad. Cadarnhawyd yr achos cyntaf yng Nghymru ar 28 Chwefror 2020 (cyfanswm o 25 achos ar 12/03/20), gyda pherson o Abertawe yn dal y firws tra yng Ngogledd yr Eidal. Mae’r GIG yn profi pobl am y firws drwy’r adeg, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn diweddaru pobl yn ddyddiol.

Mae unrhyw achosion sydd yn cael eu hadnabod, neu rhai mewn perygl uchel, yn cael eu rhoi mewn cwarantîn yn bresennol, mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu cadw ar wahân i bobl eraill nes penderfynu eu bod yn ddiogel neu wedi gwella. Gofynnir i bobl sydd wedi bod i ardaloedd ble mae’r firws i ynysoli eu hunain, sydd yn golygu aros gartref a cheisio peidio cael cyswllt â phobl eraill.

Bachgen mewn mwgwd ar gyfer erthygl Coronafeirws

Beth ddylet ti ei wneud os wyt ti’n meddwl bod gen ti’r firws?

Os wyt ti’n meddwl dy fod di wedi dal y firws, neu os wyt ti’n cael gwres uchel, yn tagu, neu’n teimlo’n fyr o anadl yna dylid:

  • Gwiria dy symptomau ar Wiriwr Symptomau Coronafeirws GIG Cymru.
  • Aros i mewn ac osgoi cyswllt gyda phobl eraill fel y byddet ti gyda’r ffliw.
  • Galwa Galw Iechyd Cymru ar 111 neu 0845 46 47 (maent yn brysur iawn ar hyn o bryd felly bydda’n amyneddgar)

Gwybodaeth o ddatganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwefror 2020

Mae yna restr o wledydd ar y dudalen Llywodraeth Cymru yma sydd yn eich cynghori i fod yn wyliadwrus o unrhyw symptomau a beth i wneud os ydych chi wedi bod i’r gwledydd yma’n ddiweddar. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n gyson gydag unrhyw wledydd newydd a chyngor ychwanegol.

Angen siarad gyda rhywun?

Os wyt ti’n parhau i boeni ac eisiau siarad am y peth gyda rhywun, yna gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic. Bod hynny i siarad am y coronafeirws, neu unrhyw beth arall sydd yn dy boeni, mae ein cynghorwyr wedi derbyn hyfforddiant i helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru, a gallant helpu ti i gael y cymorth sydd ei angen arnat.