x
Cuddio'r dudalen

Poeni Am Straen Arholiadau

Mae arholiadau yn amser pan fydd llawer iawn o bobl ifanc yn teimlo straen a phryder. Mae Iola, o’r ymgyrch ymwybyddiaeth iechyd meddwl ieuenctid All My Strength, wedi ysgrifennu blog arbennig am y pwnc yma ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Yr wythnos hon rydym yn rhedeg ymgyrch Iechyd Meddwl ar Meic i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2018. Mae hwn yn un o ychydig erthyglau cyhoeddir ar y pwnc yr wythnos hon. Edrycha ar ein hadran erthyglau am fwy.

Mae’n siom bod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn disgyn reit ynghanol cyfnod yr arholiadau, pan fydd y mwyafrif o bobl ifanc yn rhy brysur yn teimlo straen i’w gydnabod. Dyma’r cyfnod prysuraf am deimlo panig a straen. Felly, mae’n bwysig iawn i gymryd amser i fod yn ymwybodol o’n hunain a’r bobl o’n cwmpas. Mae arholiadau yn bwysig, ond mae iechyd meddwl yn bwysicach.

Siarad

Mae siarad yn bwysig i gael rhyddhad o straen. Cymera amser o’r astudio i siarad gyda ffrindiau am sut yr wyt ti’n ymdopi. Mae fentio gyda phobl yn yr un sefyllfa â thi yn ffordd dda i gael gwared ar y teimlad o rwystredigaeth. Rhanna dy strategaethau i gael gwared ar y straen ac ymlacio. Sicrha bod dy ffrindiau yn deall dy fod di yno i siarad os yw’r straen a’r nerfau yn dod yn ormod. Gad i bobl wybod dy fod di’n gefnogol ohonynt!

sgrechian pryder ar gyfer erthygl straen arholiadau

Nid pryder yw straen arholiadau

Pan fydd pawb yn teimlo straen a blinder,  hawdd yw anghofio fod y rhai sy’n dioddef o bryder cronig yn delio gyda rhywbeth hollol wahanol i’r teimladau cyfnod byr yma. Oherwydd hyn, mae’n gyfnod hawdd i salwch meddwl lithro dan y radar. Mae’n bwysig peidio cymharu straen arholiadau i bryder fel salwch meddwl. Yn bendant nid ydynt yr un peth. Os wyt ti’n dioddef o straen arholiadau, mae’r teimladau yma yn normal a ti’n gwneud yn iawn.

Rhwystredigaeth

Dylai salwch meddwl barhau i fod yn flaenoriaeth i weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a gweithwyr cefnogol. Mae angen cydnabod hyn ar wahân i straen arholiadau. Mae’r straen yn diflannu i’r mwyafrif unwaith i’r arholiadau orffen. Yn y cyfamser mae’r rhai sydd â gwir angen yn gorfod rhannu’r rhestr aros i weld doctor neu gynghorwr. Mae hyn yn rhwystredig ac yn eu bychanu. Gall dweud wrth rywun sydd yn dioddef o bryder, ac yn methu rheoli’r meddyliau negyddol,  mai canlyniad o straen arholiadau yw hyn fod yr un mor fychanol. Mae rhai pobl mewn perygl ac ni ellir fforddio cyfaddawdu’u rhwydwaith cefnogol.

Cymera ychydig o amser i siarad, cofia fod straen arholiadau yn rhywbeth dros dro, a phaid gadael i Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl lithro dan y radar!

(Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi’n wreiddiol ar ein chwaer wefan, theSprout, yng Nghaerdydd, ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2017.)

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am fater iechyd meddwl, gall Meic gyfeirio ti at y lle cywir i gael yr help sydd ei angen arnat. Os oes rhywbeth arall yn dy boeni (nid oes rhaid iddo fod yn fater iechyd meddwl) yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.