x
Cuddio'r dudalen

Cwis: Pa Mor Wybodus Wyt Ti Am Ryw?

Cwestiynau

(Sgrolia i lawr am yr atebion ac esboniad.)

1. Mae gwisgo dau gondom ddwywaith mwy diogel – Gwir neu Ffug?

2. Nid yw’n bosib cael yn feichiog os wyt ti’n cael rhyw wrth sefyll – Gwir neu Ffug?

3. Nid oes perygl o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) os wyt ti ar y bilsen – Gwir neu Ffug?

4. Mae’n bwysig colli dy wyryfdod (virginity) cyn i ti droi’n 18 – Gwir neu Ffug?

5. Mae mastyrbiad (masturbation) yn ffordd normal i ddysgu am dy gorff – Gwir neu Ffug?

6. Mae pethau gwahanol yn denu pobl wahanol – Gwir neu Ffug?

7. Os wyt ti’n cytuno i gael rhyw oes posib newid dy feddwl wedyn – Gwir neu Ffug?

8. Mae’n anghyfreithlon i rywun dros 18 gael rhyw gyda rhywun o dan 16 – Gwir neu Ffug?

9. Pa mor hir wedi rhyw ddiamddiffyn gellir defnyddio atal cenhedlu brys?

  • Hyd at 72 awr
  • O fewn 24 awr
  • Y ddau uchod
  • Dim un o’r uchod

10. Os ydw i’n gofyn am gyngor rhyw gan rywun proffesiynol, byddant yn dweud wrth fy rhieni – Gwir neu Ffug?

Atebion

1. Ffug. Mae’n fwy o risg gwisgo dau ar yr un pryd gan y gallai’r ffrithiant achosi iddynt dorri.

2. Ffug. Mae yna berygl o feichiogrwydd bob tro.

3. Ffug. Nid yw’r bilsen yn amddiffyn yn erbyn heintiau rhywiol, dim ond yn erbyn cael yn feichiog. Condom yw’r ffordd fwyaf diogel i amddiffyn yn erbyn y ddau.

4. Ffug. Y peth pwysicaf ydy ei golli pan wyt ti’n teimlo’n barod. (Bydd neb yn ymwybodol os nad wyt ti’n dweud.)

Yr oedran cyfartalog i golli dy wyryfdod ydy 16 (i fechgyn a merched). Mae 1 ymhob 5 o fechgyn a bron i hanner o ferched ifanc wedi dweud eu bod yn difaru peidio aros yn hirach cyn dechrau cael rhyw.

 (ffynhonnell FPA (Arolwg Cenedlaethol o agweddau rhywiol ffyrdd o fyw [NATSAL 2000])

5. Gwir. Gall mastyrbio fod yn beth positif (er nad yw’n gweddu pawb). Nid yw’n rhywbeth i fod â chywilydd amdano ac nid yw’n niweidiol.

6. Gwir. Mae pawb yn wahanol ac mae hynny’n beth da!

7. Ffug. Mae posib newid dy feddwl ar unrhyw adeg. Mae’r fideo yma yn esbonio hyn yn dda:

8. Gwir. Yr oed cydsynio (consent) ydy 16, ac rwyt ti’n cael dy ystyried fel plentyn yn gyfreithiol hyd at 18 oed.

9. Yn dechnegol 72 awr yw’r cyfnod hiraf o amser, ond gorau po gyntaf. Mae’n cynyddu’r siawns o feichiogrwydd yr hiraf mae’n cael ei adael.

10. Ffug. Gall fferyllydd, clinigau iechyd rhyw a doctoriaid ateb dy gwestiynau. Os ydynt yn credu dy fod yn deall dy sefyllfa yn gyfan gwbl (ac nad wyt ti mewn perygl) nid fyddant yn dweud wrth dy rieni.


Eisiau gofyn cwestiwn arall? Gwych!

Beth bynnag sydd ar dy feddwl, rydym yma i wrando:

Meic: Rhywun ar dy ochr di
8yb – Hanner nos
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn: 080 880 23456
Testun: 84001
IM: www.meic.cymru