Neges Heddwch Ac Ewyllys Da

Heddiw, ar 18fed Mai, mae Urdd Gobaith Cymru yn rhannu neges o Heddwch ac Ewyllys Da i uno holl blant y byd. Mae’r Urdd yn cyhoeddi neges newydd wedi’i hysgrifennu gan bobl ifanc Cymru bob blwyddyn ar y dyddiad yma ers 1955.
Cychwynnodd popeth yn 1922 pan ysgrifennwyd y neges Heddwch ac Ewyllys Da cyntaf gan blant Cymru. Cafodd y neges hon ei darlledu’n rhyngwladol drwy god Morse gan y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni, gyda’r pwrpas o uno plant o amgylch y byd. Neges y flwyddyn honno oedd:
“Dymuniad, yn dilyn colledion enbyd y Rhyfel Mawr, na “fydd raid i neb ohonom, pan awn yn hŷn, ddangos ein cariad tuag at wlad ein genedigaeth trwy gasáu a lladd y naill y llall.”
Rhannu’r neges
Am ganrif bron, mae miloedd o bobl ifanc wedi bod yn rhan o greu, rhannu ac ymateb i’r neges hon o heddwch. Cafodd y neges ei darlledu am y tro cyntaf ar Wasanaeth Byd y BBC yn 1924. Heddiw mae’n cael ei gyfieithu i sawl iaith ac yn cael ei rannu’n eang o amgylch y byd. Ei fwriad yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i greu byd yr hoffant fyw ynddi.
Mae’r neges yma bellach yn ysbrydoliaeth i waith dyngarol a rhyngwladol Urdd Gobaith Cymru, a gymerodd yr awenau o rannu’r neges yn flynyddol, gyda’r bwriad o hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg. Mae’r 18fed yn arwyddocaol gan mai dyma ddyddiad y gynhadledd heddwch cyntaf yn Yr Hag yn 1899.
Neges eleni

Lluniwyd neges 2018 gan bobl ifanc Morgannwg Ganol. Mae llinell gymorth Meic yn falch iawn o gefnogi’r ymgyrch y flwyddyn hon. Mae neges eleni yn rhoi diolch am y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc. Mae’n pwysleisio’r angen i wrando ar leisiau’r ifanc, a’r angen am gymorth iddynt drafod a goresgyn problemau.
Ar y 18fed o Fai, bydd gwersyll gwaith rhyngwladol yn digwydd yng Nghaerdydd. Byddant yn rhannu neges 2018 ar-lein ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol er mwyn annog ymatebion byd-eang. Mae llawer o gyffro a disgwyliad am neges eleni. Edrychwn ymlaen at bobl ifanc ledled y byd yn helpu ni i rannu’r neges chefnogi byd gwell.
Helpa ni i rannu’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da ledled y byd. Dilyna’r Neges ar Twitter #heddwch2018

Galwa Meic
Os oes rhywbeth yn dy boeni yna gall Meic helpu Cysyllta heddiw i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.