x
Cuddio'r dudalen

Microwirfoddoli – Beth Yw E’ a Sut Mae Cymryd Rhan?

Wyt ti wedi clywed y term Microwirfoddoli o’r blaen? Efallai dy fod di’n pendroni beth yw e’ a sut gall rhywbeth ‘micro’ gael unrhyw effaith sylweddol. Rydym am edrych ar microwirfoddoli i ddysgu mwy amdano a sut mae cymryd rhan.

To read this article in Englsih, click here

Beth yw Microwirfoddoli

Microwirfoddoli yw’r syniad bod llawer o bobl, yn gwneud pethau bach, yn gallu cael effaith mawr. Mae’n gallu agor gwirfoddoli i bawb, gan gynnwys y rhai sydd ddim efo amser i wirfoddoli yn yr ystyr ‘traddodiadol’. Mae’n rhoi cyfres o dasgau byr, hawdd gellir eu cwblhau unrhyw amser yn unrhyw le.

Ers 2014 mae yna ddiwrnod arbennig gyda’r bwriad o annog sefydliadau, llwyfannau microwirfoddoli a gwirfoddolwyr i weithiau â’i gilydd i hyrwyddo ac annog y syniad. Mae Diwrnod Microwirfoddoli yn digwydd ar Ebrill 15fed bob blwyddyn.

Sut i gymryd rhan

Pwynt cychwyn dda ydy meddwl am achos sydd yn bwysig i ti. Efallai’r amgylchedd, iechyd, cymunedau, gwyddoniaeth, brwydro tlodi ayb? Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Chwilia am gyfleoedd i helpu yn y meysydd yma.

Y budd o microwirfoddoli yw bod posib helpu hyd yn oed os nad oes gen ti lawer o amser rhydd. Mae’r rhain yn weithrediadau bach/unigryw gellir eu gwneud yn hawdd fel rhan o dy fywyd o ddydd i ddydd, hyd yn oed wrth deithio i’r ysgol/coleg/gwaith ar y bws! Mae’n grêt hefyd os yw’n anodd i ti gael allan o’r tŷ – mae yna lawer o bethau gellir eu gwneud o adref gan ddefnyddio ffôn clyfar/tabled/gliniadur gyda chysylltiad i’r we. Gall cyfleoedd gynnwys arwyddo deisebau, chwarae gemau neu tagio lluniau.

Darlun cymeriadau yn dal emoticons positif ar gyfer erthygl microwirfoddoli

Pam bod gwirfoddoli yn dda i ti?

Tra bod microwirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth i fywydau eraill, gall hefyd wneud gwahaniaeth i dy fywyd di hefyd. Gall wneud i ti deimlo’n dda, yn ogystal â theimlo fel dy fod di’n gwneud gwahaniaeth, cyfle i fagu sgiliau newydd, dysgu gwybodaeth newydd a chyfarfod pobl newydd.

Darganfod cyfleoedd

Os oes gen ti ddiddordeb i fynd amdani, yna ymwela â’r wefan Microvolunteering Day. Mae yna weithrediadau bach o 1-30 munud i’w gwneud yn syth. Mae yna hefyd fanylion llwyfannau microwirfoddoli eraill gellir ymweld â nhw i ddysgu am dasgau bach pellach y tu hwnt i Ddiwrnod Microwirfoddoli.

Eisiau dysgu mwy am wahanol fathau o wirfoddoli sydd ar gael, gan gynnwys microwirfoddoli a gwirfoddoli mewn digwyddiadau, y tu ôl i’r llenni, gwyddoniaeth dinesydd, chwaraeon, natur ayb? Cer draw i weld y canllawiau gwirfoddoli yma ar dudalen Do Something Great ar wefan y BBC.

Os yw microwirfoddoli yn gwneud i ti deimlo’n dda, efallai dy fod di’n meddwl am symud ymlaen i roi mwy o amser i wirfoddoli. Cer draw i wefan Gwirfoddoli Cymru i weld y cyfleoedd gwirfoddoli yn dy ardal di.