x
Cuddio'r dudalen

Meic, y siwrne hyd yn hyn

Mae adroddiad rhyddhawyd yr wythnos hon yn dangos yr angen llethol am wasanaeth sydd yn darparu eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc yng Nghymru rhwng 0 a 25 oed.

Ers 2010 mae Meic wedi rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc ac yn parhau i fod ar flaen cynnydd technolegol cyfathrebu, yn sicrhau bod gan blant a phobl ifanc ffordd o gyfathrebu gyda pherson proffesiynol gellir ymddiried ynddynt yn niogelwch a chysur amgylchedd o’u dewis.

Yn amlygu’r ymdrech a’r llwyddiant o weithio mewn partneriaeth yn beth oedd yn faes cystadleuol iawn yn draddodiadol, mae’r cydweithio y tu ôl i Meic, sef Cywaith (wedi’i arwain gan ProMo-Cymru), wedi arloesi’r ffordd o weithio i sicrhau bod gwrandawiad i lais plant a phobl ifanc a bod eu barn yn parhau i fod yn rym gyrru mewn byd sydd yn newid yn gyson.

Fel y gwasanaeth cyntaf o’i fath, mae Meic yn trosglwyddo eiriolaeth gyffredinol trwy fodd digidol yn genedlaethol, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, yn trosglwyddo gwasanaeth o ansawdd wedi’i danategu gan y CCUHP a’r Safonau Eiriolaeth Genedlaethol.

Roedd yr adroddiad yn rhyddhau manylion siwrne’r gwasanaeth dros y 4 mlynedd diwethaf a’r gobeithion o beth sydd i ddod i wasanaeth sydd yn tyfu o hyd, ble mae gwir angen amdano ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n chwilio am gefnogaeth i wneud newid.