x
Cuddio'r dudalen

Meic: Dal Yma i Ti Dros yr Ŵyl 🎄

Tra bod llawer o bobl yn edrych ymlaen at gyfnod yr ŵyl, nid yw’n gyfnod o hapusrwydd i bawb. Mae’n  gallu bod yn amser anodd  iawn i lawer o bobl, ond gall fod yn anoddach fyth eleni oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

To read this article in English, click here

Mae teuluoedd yn teimlo dyletswydd i dreulio amser â’i gilydd dros y cyfnod yma. Yn aml gall hyn arwain at ffraeo. Eleni efallai eich bod chi wedi treulio llawer o amser gyda’ch gilydd yn barod oherwydd y cyfnodau clo.

Mae cyfyngiadau Nadolig newydd yn golygu mai dim ond un aelwyd arall mae’ch cartref chi yn cael cyfarfod â nhw. Felly efallai nad fyddi di’n gallu treulio amser gyda’r bobl rwyt ti’n caru. Ni fydd yn bosib mynd allan am fwyd mewn grwpiau mawr na chael noson allan gyda ffrindiau fel y byddet ti fel arfer. Efallai bod aelodau’r teulu neu ffrindiau yn wael hyd yn oed.

Teimlo’n isel?

Gall hyn i gyd deimlo fel cwmwl mawr ddu drosot ti. Y peth olaf rwyt ti eisiau ydy gorfod peintio gwen ar dy wyneb a dathlu gyda theulu. Mae’r pwysau o deimlo fel y dylet ti fwynhau dy hun yn gallu achosi i ti deimlo’n fwy isel ac unig.

Os yw pethau’n teimlo’n ormod, cofia bod yna bobl gallet ti siarad â nhw. Nid yw’r llinell gymorth Meic yn cau ei ddrysau ar ddiwrnod Nadolig. Mae’r cynghorwyr yma o hyd i wrando, rhoi gwybodaeth, cynnig cyngor a gweithio gyda thi i ddarganfod ffyrdd i ymdopi. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos bob dydd, ar ddiwrnod Nadolig a Dydd Calan hyd yn oed. Ffonia, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein yn gyfrinachol ac am ddim. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di – bob tro. 💜

Os wyt ti’n teimlo fel nad wyt ti’n gallu ymdopi ac yn meddwl gwneud niwed i dy hun, rydym yn awgrymu’n gryf i ti siarad gyda rhywun yn syth. Mae’r Samariaid ar gael 24 awr y dydd, bob diwrnod yr wythnos. Gellir galw am ddim ar 116 123 neu e-bostio jo@samaritans.org.

Manylion cyswllt Meic ar gyfer erthygl Nadolig