x
Cuddio'r dudalen

Help i Ddewis Dy Opsiynau TGAU

Weithiau byddi di’n wynebu penderfyniadau sydd yn cael effaith ar dy fywyd, fel dewis opsiynau TGAU. Ond mae dewis llwybr gyrfa ym mlwyddyn 8 neu 9 yn gallu bod yn anodd iawn. Mae yna lawer o bobl yn cael trafferth ac yn poeni am orfod gwneud penderfyniadau fel hyn.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here)


I gychwyn, paid poeni! Nid ti yw’r unig un yn y sefyllfa yma. Mae dewis dy opsiynau TGAU yn gallu bod yn gur pen go iawn os nad wyt ti’n sicr beth i wneud pan fyddi di’n hŷn. Ond, mae yna rhai pethau gallet ti feddwl am, a gwneud, fydd yn helpu gyda’r dewisiadau yma.

Beth sydd yn ysgogi ti?

Mae llawer o bobl yn ansicr beth i wneud ar ôl gadael yr ysgol, coleg neu brifysgol. Meddylia am yr hyn ti’n mwynhau gwneud a beth sy’n ysgogi ti i godi yn y bore – heblaw am y ci yn llyfu dy wyneb! A’i arian ydyw? Bod o gwmpas pobl? Helpu eraill? Darganfod am ddiwylliannau gwahanol? Technoleg a dyfeisiau? Ymweld â llefydd diddorol? Darganfod am ddigwyddiadau hanesyddol? Gwleidyddiaeth? Pincio dy gi/cath/alpaca/hipo? Trwsio pethau? Gweithio craen uchel? Yn artist neu ddylunydd talentog? Yn frwdfrydig am ddatrys problemau?

Siarada â rhywun

Siarada gyda dy athrawon, teulu, ffrindiau, gweithiwr cymdeithasol, cynghorydd gyrfa ayb a thrafod dy gryfderau a diddordebau. Mae meddwl a siarad am dy bersonoliaeth a’r hyn ti’n dda neu’n ddrwg yn gwneud, yn gallu helpu ti i leihau’r dewisiadau o beth i wneud nesaf. Os wyt ti’n dal yn ddi-glem, mae yna ychydig bethau gallet ti ei wneud i roi syniad i ti o’r hyn ti’n hoffi neu ddim yn hoffi. Yna gallet ti ddewis yr opsiynau TGAU sydd yn ffitio orau.

Linell o ddrysau - opsiynau gwahanol

Cadwa dy ddewisiadau’n agored

Bydd dy ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau i ddewis ohonynt. Yng Nghymru, bydd rhaid i ti astudio Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chymraeg tan fyddi di’n 16 oed. Dewisa amrywiaeth eang o bynciau i gadw dy opsiynau’n agored. Mae’r byd yn newid yn sydyn iawn, yn dod yn fwy dibynnol ar dechnoleg, ac mae teithio’n haws. Efallai bydd pynciau technegol ac ieithoedd yn rhoi mwy o ddewis i ti o ran swyddi os nad wyt ti wedi dod i benderfyniad erbyn diwedd blwyddyn 11.

Meddylia am yr hyn sydd ei angen

Os oes gen ti syniad clir yn barod o’r fath o swydd hoffet ti ei wneud, sicrha dy fod di’n gwybod pa gymwysterau bydd angen astudio tuag ato. Efallai edrycha ar sut mae dy rinweddau personol a sgiliau meddal yn cyfateb, faint o gyflog byddi di’n ennill a faint o amser rhydd byddi di’n cael. Efallai bydd yr A i Y yma o swyddi, sydd yn edrych ar bopeth sydd angen ei wybod, yn fuddiol i ti.

Nid yw dewisiadau yn diffinio dy fywyd am byth

Mae yna rywbeth addas ar gael i bawb gyda rhai pobl yn darganfod yr hyn maent eisiau ei wneud yn syth, ac yn aros nes byddant yn ymddeol. Eraill  yn cael boddhad o amrywiaeth o swyddi ac yn mynd o un swydd i’r llall. Rhai pobl yn darganfod bod un math o swydd yn ffitio ar gyfnod penodol, ond yn newid i un arall pan fydd bywyd yn ymofyn rhywbeth gwahanol. Efallai bydd yn cymryd amser i ti ddarganfod yr hyn ti’n ei fwynhau ac mae hyn yn iawn! Byddi di’n datblygu sgiliau a phrofiadau pwysig ar hyd y ffordd, yn gwneud ffrindiau sy’n helpu ti i symud ymlaen.

Archwilio’r opsiynau

I archwilio’r mathau o swyddi sydd yn ymwneud â’r pynciau gallet ti astudio ar gyfer TGAU clicia yma. Os wyt ti’n teimlo bod angen ychydig mwy o gyfeiriad arnat ti, yna rho dro ar y Cwis Paru Swyddi am syniadau i gychwyn. Cofia mai dim ond awgrymiadau wedi’u selio ar yr atebion ti’n eu rhoi ydy hyn. Nid oes rhaid i ti gymryd sylw o ganlyniadau’r cwis. Gallet ti benderfynu archwilio rhywbeth hollol wahanol (fel proffiliwr dynion bach y gofod, flogiwr proffesiynol neu cwtshio cathod bach).

Pob lwc gyda dy ddewisiadau.

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am dy opsiynau, neu unrhyw beth sydd yn dy boeni neu ddrysu, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.