x
Cuddio'r dudalen

Sut i Setlo ym Mywyd Coleg neu Brifysgol

Wyt ti’n cychwyn yn y coleg neu brifysgol cyn hir? Mae symud o adref am y tro cyntaf yn gallu bod yn gyfnod cyffrous iawn – ac un sydd yn gallu gwneud rhywun yn nerfus hefyd! Mae’n golygu rhyddid, cyfarfod ffrindiau newydd, dysgu pethau newydd a byw ar ben dy hun. Ond mae hefyd yn golygu dysgu sut i gyllido a gofalu am dy hun.

To read this article in English click here.

Mae’r ychydig wythnosau cyntaf o goleg neu Brifysgol yn gallu bod yn anodd i bawb. Efallai dy fod di’n disgwyl antur fawr, yn cyfarfod llawer o ffrindiau newydd, bywyd cymdeithasol hyfryd, darganfod llefydd newydd ac astudio cwrs rwyt ti’n ei garu. Ond nid pawb sydd yn cael y profiad yma ar y cychwyn. Mae symud oddi cartref am y tro cyntaf yn gallu bod yn anodd. Efallai nad yw’n hawdd gwneud ffrindiau, rwyt ti’n teimlo hiraeth, ddim yn dda iawn yn cyllido, neu’n meddwl bod y llwyth gwaith yn anodd neu yn casáu dy gwrs.

Mae pawb yn cael profiadau gwahanol yn y dyddiau, wythnosau a misoedd cyntaf yn y coleg neu brifysgol, felly paid cynhyrfu gormod os ydy dy brofiad di yn wahanol i eraill. Mae gan Meic ganllaw defnyddiol i fyfyrwyr newydd gall helpu efallai.

Dysgu Sut i Gyllido

Dyma un o’r pethau pwysicaf bydd rhaid i ti ddysgu. Mae’n rhaid sicrhau bod y benthyciad myfyriwr yn parhau tan ddiwedd y tymor. Edrycha ar y canllaw yma ar wefan MSE. Mae llawer o awgrymiadau i arbed arian, gan gynnwys cyfrifon banc myfyrwyr, disgowntiau, biliau ynni a gwneud arian ychwanegol. Chwilia am y cyfrif banc myfyriwr gorau a gweld pa un gall gynnig y fargen orau i ti. Maent yn cynnig arian neu ffrîbis i ddenu myfyrwyr fel arfer.

Ni fydd y benthyciad myfyriwr yn cael ei dalu bob wythnos neu fis. Bydd yn cael ei dalu i dy gyfrif mewn swm mwy tair gwaith y flwyddyn (edrycha ar dudalen Cyllid Myfyrwyr Cymru am fanylion). Bydd rhaid i ti ddysgu peidio gwario popeth yn syth. Rhaid dysgu sut i gyllido fel nad wyt ti’n waglaw ac yn gorfod cloddio trwy’r sbwriel yn Tesco am fwyd (neu’n gofyn am arian ychwanegol o fanc mami a dadi!).

Cyfarfod ffrindiau newydd

Mae Wythnos y Glas yn gyfnod gwych i gyfarfod ffrindiau newydd. Bydd digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal er mwyn i bawb ar y cwrs ddod i adnabod ei gilydd mewn gosodiad anffurfiol. Sicrha dy fod di’n mynd!

Ystyried ymuno â grŵp neu gymdeithas hefyd. Fel arfer mae digonedd ohonynt i’w dewis, a bydd ganddynt stondin yn Ffair y Glas i gael manylion pellach. Dyma ffordd dda i gyfarfod â phobl newydd sydd â diddordebau tebyg.

Os wyt ti angen cyngor ar wneud ffrindiau newydd, cer i weld y Coda’r Meic yma ar ein blog. Mae syniadau gwych ar Save The Student gan gynnwys cadw’r drws yn agored, cynnig helpu a choginio i bobl.

Hiraethu am adref

Mae’n gallu bod yn anodd iawn addasu i fywyd yn y brifysgol ac mae hiraethu am deulu a ffrindiau gartref yn gallu creu profiad anodd iawn i rai. Mae’n ymddangos fel bod rhai yn setlo’n syth ond nid yw’n od o gwbl i deimlo fel ei fod yn ymdrech mawr. Mae’n syniad da cadw’n brysur fel nad wyt ti’n meddwl gormod am y peth. Cer i gyfarfod ffrindiau newydd, mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol, ac ymuno ag unrhyw grwpiau neu gymdeithasau sydd o ddiddordeb.

Ceisia beidio rhoi’r ffidl yn y to am fod pethau’n rhy anodd. Efallai byddi di’n difaru’r penderfyniad. Os fedri di gadw ati am ychydig wythnosau, yna mae’n debyg bydd y teimlad o hiraethu yn pylu. Gallet ti ymweld ag adref ar y penwythnosau yn fwy aml ar y cychwyn os wyt ti angen.  Defnyddia technoleg hefyd. Os wyt ti’n hiraethu yna edrycha i weld beth mae dy ffrindiau yn ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol. Gallet ti hefyd wneud galwadau fideo i dy ffrindiau neu deulu ond ceisia beidio gwneud yn rhy aml; treulia mwy o amser yn dod i adnabod dy gynefin newydd.

Os nad yw pethau’n gwella, siarada gyda dy diwtor neu wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae gan Times Higher Education gyngor ar Sut i Ymdopi Gyda Hiraeth Yn Y Brifysgol.

Cofia pam ti yno

Mae wythnos y glas yn gyfnod cyffrous pan fyddi di’n setlo i dy fywyd newydd. Ond yn sydyn reit, bydd angen dod i drefn. Cer i’r darlithoedd a chyflwyna dy waith yn brydlon. Camgymeriad drud iawn ydy ffaelu’r flwyddyn gyntaf. Bydd yn golygu mwy o arian i ail-wneud y flwyddyn, neu orfod gadael y brifysgol yn gyfan gwbl.

Efallai bod creu amserlen neu ddyddiadur astudio yn swnio’n ddiflas yng nghanol hwyl Wythnos y Glas, ond bydd hyn yn ddefnyddiol iawn wrth i ti sylweddoli difrifwch pam dy fod di yno. Edrycha ar ganllaw TopUniversities – Pum Awgrym i Fod Yn Fwy Trefnus Yn Y Brifysgol. Os yw’r llwyth gwaith a chael trefn yn rhy anodd yna siarada gyda dy diwtoriaid neu gefnogaeth fugeiliol. Efallai gallant helpu ti i greu cynllun.

Siarada â Meic

Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Os ydy pethau’n rhy anodd ac rwyt ti angen siarad â rhywun neu os oes gen ti gwestiwn am rywbeth, yna gallet ti gysylltu â Meic yn gyfrinachol ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein rhwng 8yb a hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn. Gallem siarad am dy opsiynau a helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau i ti.