x
Cuddio'r dudalen

Wythnos Siarad Arian – Gofalu am Dy Iechyd Meddwl

Mae’r wythnos hon (7-11 Tachwedd) yn Wythnos Siarad Arian, a pa amser gwell i godi hyn nag yng nghanol ein Hymgyrch Argyfwng Costau Byw. Nid yw cadw pryderon i ti dy hun yn llesol i’r iechyd yn feddyliol nac yn gorfforol, felly gad i ni siarad amdano.

This article is also available in English click here

Beth yw Wythnos Siarad Arian?

Mae Wythnos Siarad Arian yn cael ei gynnal gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau bob mis Tachwedd ac mae’n annog pobl i siarad am eu cyllid. Mae’r ymchwil ganddynt yn dangos bod pobl sydd yn siarad am arian yn gwneud penderfyniadau cyllidol gwell ac yn cymryd llai o risg, mae ganddynt berthnasau cryfach, mae’n helpu creu arferion ariannol da o oed ifanc, ac maent yn teimlo llai o straen a mwy o reolaeth.

A dyma yw ein hymgyrch Argyfwng Costau Byw. Cyfle i siarad am arian, cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth ar draws y mis. Cer i edrych ar yr ymgyrch yma.

Sut i gychwyn sgwrs

Mae gan HelpwrArian nifer o ganllawiau gwych am sut i siarad gyda gwahanol bobl am arian a pam bod hynny’n bwysig:

▪️Siarad â’ch partner am arian – gwahanol agweddau, gofyn am arian, cuddio dyled neu broblemau gamblo, partner yn rheoli dy arian ayb.

▪️Sut i ddysgu plant am arian – sut mae’n helpu, beth ddylid dysgu, syniadau hwyl ayb.

▪️Siarad â ffrindiau am arian – methu fforddio mynd allan, benthyg arian a’i gael yn ôl ayb.

▪️Siarad gyda phobl hŷn am arian – am ofal hir dymor, atwrneiaeth ayb.

Os wyt ti’n ansicr sut i gychwyn sgwrs gyda rhywun am rywbeth sy’n dy boeni di, yna ymwela â’n blog ‘Sut i Gychwyn Sgwrs i Rannu Problem’ am gyngor.

Mae gan HelpwrArian gyngor gwych ar y dudalen ‘Sut i gael sgwrs am arian’ hefyd, yn edrych ar sut i baratoi, awgrymiadau am gael sgwrs, a delio gydag ymateb negyddol. 

Mae HelpwrArian wedi ysgrifennu blog gwadd arbennig ar gyfer ymgyrch Argyfwng Costau Byw Meic hefyd – cer i’w weld yma.

Ymdopi gyda straen

Mae bod â phroblemau ariannol yn gallu bod yn straen mawr ac yn gallu cael effaith emosiynol a chorfforol arnat ti. Efallai bydd yn cael effaith ar dy ymddygiad. Efallai bydd yn anodd i ti wneud penderfyniadau neu dy fod di’n teimlo’n ddagreuol, yn flin, yn bigog neu’n isel. Efallai ei fod yn cael effaith corfforol arnat ti fel pyliau o banig, cur pen, teimlo’n sâl ac ati.

Y peth cyntaf dylet ti ei wneud ydy darganfod beth sy’n achosi’r straen. Efallai ei fod yn gyfuniad o sawl peth bach neu un peth mawr. Pan rwyt ti’n deall y rheswm gallet ti ddechrau meddwl sut i newid pethau. Nid yw hyn wastad yn hawdd ond os wyt ti’n siarad ac yn gofyn am help, efallai bydd yn haws darganfod datrysiad. Nid fydd cadw pethau i dy hun a smalio nad yw’n digwydd yn helpu yn y pen draw ac efallai bydd hynny’n gwneud pethau’n waeth.

Pwy i gysylltu am help

Cer i weld ein hymgyrch Argyfwng Costau Byw am flogiau eraill. Mae yna lawer o wasanaethau a sefydliadau gwych o gwmpas fydd yn gallu helpu.

▪️Meic – rhywun sydd wastad ar dy ochr di. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad à rhywun neu gyda chwestiwn sydd angen ateb, yna cysyllta â Meic yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein o 8yb tan hanner nos bob diwrnod y flwyddyn. Byddem yn siarad drwy dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau i ti er mwyn gallu symud ymlaen.

▪️Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw – Blog Meic

▪️ HelpwrArian – gwasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Yn gwneud dewisiadau arian a phensiwn yn fwy clir. Yn torri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth rwyt ti angen ei wneud a sut gallet ti wneud hynny, yn dy roi di mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd am ddim gellir ei ddarganfod yn sydyn, ei ddefnyddio’n hawdd ac mae’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth. Sgwrsia ar-lein, gyrra neges ar WhatsApp +44 77 0134 2744 neu ffonia 0800 138 7777.

▪️ Llywodraeth Cymru – Cael help gyda chostau byw – darganfod pa gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael i dy helpu, o filiau dŵr, trydan a nwy, i dai a budd-daliadau, i ysgol ac addysg uwch.

▪️ Turn2Us– elusen genedlaethol sydd yn cynnig help ymarferol i bobl sydd yn cael trafferthion ariannol.

▪️ Cyngor ar Bopeth (CAB) – yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl i ddarganfod ffordd ymlaen. Elusen yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn ac wyneb i wyneb. Cer draw i weld y dudalen ‘Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw’.

▪️ Money Saving Expert – y bwriad ydy cwtogi biliau ac ymladd drosot ti gydag ymchwil newyddiadurol, offer o’r radd flaenaf a chymuned enfawr – i gyd yn canolbwyntio ar ddarganfod cynigion, bargeinion, arbed arian ac ymgyrchu dros gyfiawnder ariannol.

▪️ StepChange – Elusen ddyled yn cynnig cyngor dyled, yn helpu pobl i adennill rheolaeth o’u harian a’u bywydau. Mae posib dechrau sesiwn cyngor dyled StepChange ar-lein neu ffonia 0800 138 1111.

▪️ Llinell Ddyled Genedlaethol – National Debtline – Elusen yn cynnig cyngor dyled am ddim i bobl yn y DU. Mae ganddynt hwb costau byw sydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael.

▪️ Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – Os ydy dy bartner yn rheoli dy arian a ti heb fynediad i dy gyfrif banc i dalu am bethau, yna gall hyn fod yn gamdriniaeth ddomestig. Cysyllta â’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gymorth a chyngor. Ffonia 0808 80 10 400, neges testun 07860077333, neu gychwyn sgwrs fyw ar y wefan.