x
Cuddio'r dudalen

Wyt Ti’n Ddioddefwr Twyll Neu Sgam?

Mae’n Wythnos Siarad Arian ac yn yr erthygl yma edrychwn ar y pwnc o dwyll – beth ydyw, beth i wneud os wyt ti’n ddioddefwr a sut i amddiffyn dy hun rhag hyn ddigwydd i ti.


Os wyt ti’n poeni am gael dy ddal mewn sgam neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna mae Meic yma i siarad.

(This article is also available in English  – click here)


Beth yw twyll?

Twyll ydy pan fydd rhywun yn dy dwyllo er mwyn ennill mantais anonest. Fel arfer bydd hyn yn cynnwys arian neu stwff gallet ti ei brynu. Mae’n cael ei adnabod fel pethau eraill hefyd, fel sgam, con neu gribddeiliaeth. Beth bynnag yw’r gair defnyddir, mae twyll yn golygu bod trosedd wedi digwydd.

Un o’r sgamiau mwyaf cyffredin ydy pan fydd rhywun yn honni bod yn rhywun arall er mwyn troseddu. Mae’r hunaniaeth ffug yma yn cael ei ddefnyddio i roi perswâd arnat ti i brynu pethau sydd ddim ar werth, ddim yn bodoli neu sydd yn ddi-werth. Gall hyn hefyd gynnwys twyllo rhywun i roi arian iddynt, gan addo bod posib gwneud mwy o arian – er esiampl, ennill loteri ffug neu dwyll etifeddiaeth (inheritance) ble gallant fynnu ar arian ar gyfer gwobr neu etifeddiaeth sydd ddim yn bodoli.

Gall fod yn rhywun sydd wedi dwyn dy gerdyn banc ac yn defnyddio’r ffwythiant digyffwrdd (contactless) i brynu pethau.

Math cyffredin arall o dwyll ydy lladrad hunaniaeth (identity theft). Dyma pan fydd rhywun yn defnyddio dy fanylion personol i droseddu. Gall hyn dwyllo eraill i agor cyfrifon banc, gwneud ceisiadau am fenthyciadau neu brynu nwyddau a gwasanaethau gan ddefnyddio dy fanylion banc a dy arian.

DYn o flaen cyfrifiadur gyda ffigwr yn dod allan o gefn y cyfrifiadur yn edrych fel lleidr gyda mwgwd ar gyfer erthygl twyll

Beth fedri di ei wneud?

Mae pobl weithiau yn gweld bai arnyn nhw eu hunain am gael eu twyllo. Ni ddylet ti! Mae twyllwyr yn dda iawn yn yr hyn maent yn ei wneud ac yn deall sut i drin pobl. Mae’n anodd gwybod ble i gychwyn, ond mae yna lawer o gyngor os yw hyn yn digwydd.

Felly gad i ni rannu’r camau gorau:

  • Ymweld ag Action Fraud neu alw 0300 123 2040 i adrodd bod trosedd wedi digwydd
  • Cysylltu â’r banc i’w hysbysu am y sefyllfa
  • Siarad gyda rhywun am y ffordd rwyt ti’n teimlo

Mae’n gallu bod yn anodd derbyn bod hyn wedi digwydd i ti. Efallai dy fod di’n ceisio meddwl beth mae’n ei olygu a beth ddylet ti ei wneud. Efallai dy fod di’n ofni’r syniad o orfod adrodd hyn i’r heddlu a’r banc. Paid poeni. Mae llawer o bobl yn teimlo’n ddi-rym pan fydd hyn yn digwydd iddyn nhw neu rywun agos atynt.

Mae pobl yn ymdopi â sefyllfaoedd yn wahanol. Efallai dy fod di’n teimlo cywilydd, pryder, embaras, ofn neu ddim yn teimlo’n ddiogel. Mae’n iawn i deimlo fel hyn. Ni fydd hyn yn parhau am byth, ac os yw’n bosib derbyn hynny, yna bydd yn haws i ti i symud ymlaen. Beth am gysylltu ag aelodau o’r teulu a ffrindiau gallet ti ymddiried ynddynt? Dweud wrthynt sut rwyt ti’n teimlo. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhaid ymdopi gyda phethau ar ben eu hunain, ond nid yw hyn yn wir – mae posib gofyn am gymorth bob tro.

Cofia, nid dy fai di yw bod yn ddioddefwr twyll. Yn anffodus mae twyll yn un o’r troseddau fwyaf cyffredin, ac mae’r sgamwyr yn dda iawn yn ei wneud! Canolbwyntio ar yr hyn y GELLIR ei wneud nawr.

Sut i amddiffyn dy hun o dwyll yn y dyfodol

Mae’n syniad da i ti addysgu dy hun am dwyll, i gymryd camau i amddiffyn dy hun rhag i hyn ddigwydd i ti, neu ddigwydd eto. Dyma ychydig o gamau syml i’w dilyn:

  • Cofia – os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda, yna mae’n debyg nad yw’n wir.
  • Cadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel – rhwyga dogfennau gyda gwybodaeth bersonol bob tro e.e. rhif pin
  • Cadw’n ddiogel ar-lein – newid cyfrineiriau yn aml a gosod yr amddiffyniad gwrth-firws diweddaraf ar bopeth
  • Bydda’n amheus o ‘galwyr oer’ – ac unrhyw un sydd yn ceisio gwerthu pethau neu wasanaethau dros y ffôn neu ar drothwy’r drws. Os wyt ti’n poeni, dweud yn gadarn ac yn gwrtais nad oes gen ti ddiddordeb, yna cau’r drws neu roi’r ffôn i lawr.

Derbyn cefnogaeth

Mae yna sefydliadau sydd yn gallu cynnig cefnogaeth emosiynol, helpu ti i dderbyn yr hyn sydd wedi digwydd, a chynnig cyngor ymarferol i ddioddefwyr twyll.

Logo Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar gyfer erthygl twyll

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn fan cychwyn da. Y llywodraeth sydd wedi sefydlu’r gwasanaeth yma i gynnig cyngor a chefnogaeth arian ddiduedd am ddim ac mae yna declynnau da ar gael ar y wefan. Cer draw i’r dudalen Help Gyda Sgamiau sydd â chyngor am adnabod, osgoi a dod yn ôl i drefn ar ôl sgam.

Logo Action Fraud ar gyfer erthygl twyll

Action Fraud yw’r Canolfan Adrodd Trosedd Twyll a Seibr Cenedlaethol. Mae ganddynt lawer o wybodaeth ar dwyll gan gynnwys newyddion am y sgamiau diweddaraf. Dyma ble gellir adrodd os wyt ti’n ddioddefwr twyll. Cer draw i’r canllaw i adrodd twyll.

Logo Meic ar gyfer erthygl twyll

Gall Meic helpu wrth roi ti mewn cysylltiad â’r gwasanaethau sydd yn gallu helpu. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar unrhyw fater. Rydym yma i helpu, i wrando ac i weithio gyda thi i ddarganfod ffordd ymlaen. Mae Meic yn ddienw ac yn rhad ac am ddim i gysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn.