x
Cuddio'r dudalen

Y Gwir Am Hunan-Niweidio

Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 5,500 o bobl yn hunan-niweidio ac yn gorfod aros yn yr ysbyty. Ond mae’r gwir ffigwr yn llawer mwy gan nad yw pawb yn gorfod aros yn yr ysbyty tra bod eraill ddim yn mynd i’r uned brys o gwbl. Mae gan y DU un o’r ffigyrau hunan-niweidio uchaf yn Ewrop ond mae yna lawer o ddiffyg gwybodaeth am y pwnc o hyd. Mae Alun Fletcher o SHARE MHM Wales wedi ysgrifennu blog arbennig i Meic yn edrych ar hunan-niwed ac yn trafod camddealltwriaethau cyffredin.

Yr wythnos hon rydym yn rhedeg ymgyrch Iechyd Meddwl ar Meic i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2018. Mae hwn yn un o ychydig erthyglau cyhoeddir ar y pwnc yr wythnos hon. Edrycha ar ein hadran erthyglau am fwy.

Beth ydy hunan-niwed?

Mae hunan-niwed, neu hunan-anafu, yn derm ymbarél ar gyfer unrhyw weithred, arferiad, neu ymddygiad sydd yn achosi niwed i’r corff. Yn gyffredinol, mae hunan-niweidio yn anafu dy hun yn fwriadol, wrth achosi anaf corfforol, rhoi dy hun mewn sefyllfa beryglus, neu esgeuluso’r hunan.

Mae pobl yn hunan-niweidio mewn sawl ffordd wahanol, ond torri’r croen ydy’r ffordd fwyaf cyffredin. Gellir ystyried anhwylderau bwyta, camdriniaeth cyffuriau neu alcohol ac esgeuluso’r hunan fel hunan-niweidio, ond efallai nad yw’n cael ei ystyried fel hunan-niweidio bwriadol.

Pam bod pobl yn hunan-niweidio?

Nid oes un ateb i hyn. Mae hunan-niweidio yn ymateb i drallod emosiynol. Gall ddod o deimlo’n unig neu o arwahaniad cymdeithasol, o gamdriniaeth cynt, anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD), teimlad o euogrwydd neu fethiant.

Mae llawer o bobl yn defnyddio hunan-niweidio fel:

  • Rhyddhad – rhyddhau teimladau annioddefol fel galar, dicter, neu dristwch pan wyt ti’n wynebu pethau anodd, neu mae’r boen ar y tu mewn yn ormod.
  • Hunan-gosbi – ‘glanhau’ dy hun o deimladau hunan-gasineb, cywilydd, euogrwydd a budredd.
  • Teimlo’n Real – weithiau mae’n haws delio gyda’r boen gorfforol yn hytrach na’r boen emosiynol. Weithiau mae pobl yn teimlo wedi’u datgysylltu o’r byd ac mae hunan-niweidio yn ffordd i gysylltu’r corff a’r meddwl.
  • Rheolaeth – mae rhai yn credu ei fod yn ffordd o fod mewn rheolaeth o rywbeth, pan nad yw’n bosib rheoli pethau eraill yn dy fywyd.

Marc cwestiwn ar gyfer chedl a ffeithiau erthygl hunan-niweidio

 .

Chwedlau a Ffeithiau

Mae yna lawer o gamsyniadau am y ‘math o bobl sy’n hunan-niweidio’. Yma edrychwn ar y chwedlau a’r ffeithiau.

CHWEDL: Dim ond eisiau sylw maen nhw

FFAITH: Mae hunan-niweidio yn beth preifat a phersonol fel arfer. Mae pobl sydd yn hunan-niweidio yn dueddol o guddio’r clwyf, neu yn niweidio llefydd sydd ddim i’w gweld o ddydd i ddydd. Pan fydd sylw yn cael ei roi i’r anafiad, yn aml bydd hyn yn negyddol ac yn cynyddu’r trallod.

CHWEDL: Dim ond merched yn eu harddegau sy’n hunan-niweidio

FFAITH: Er ei fod yn wir fod y mwyafrif o bobl sydd yn datgelu ymddygiad hunan-niweidiol yng Nghymru yn ferched ifanc rhwng 15 a 19 oed, mae’n effeithio ar fwy nag merched ifanc yn unig. Amcangyfrif bod 11% o dderbyniadau hunan-niwed i’r ysbyty  llynedd yn wrywaidd, a bod cynyddiad yn y nifer o bobl hŷn sydd yn hunan-niweidio hefyd, yn enwedig dynion dros 75 oed.

CHWEDL: Mae pobl yn hunan-niweidio i ffitio neu fod yn cŵl

FFAITH: Mae unrhyw un sydd yn hunan-niweidio yn gwneud hynny oherwydd anghenion gwaelodol a thrallod emosiynol. Os yw rhywun wedi rhoi tro arno i ffitio gyda ffrindiau yn yr ysgol, nid yw’n debygol iawn y bydd hyn yn parhau. Nid tric parti yw hwn. Os yw rhywun yn parhau i anafu eu hunain, maent angen cymorth a chefnogaeth.

CHWEDL: Nid yw’n anafiad drwg felly nid yw’r broblem yn ddifrifol

FFAITH: Nid yw’n bwysig pa mor ddifrifol yw’r anafiad. Mae’r ffaith bod rhywun yn hunan-niweidio yn dangos bod angen cymorth a chefnogaeth arnynt. Os wyt ti’n sylweddoli bod rhywun yn niweidio, yna mae dy ymateb di’n bwysig iawn. Mae gwrthod yr anafiad yn bychanu’r person sydd yn teimlo’n flinedig ac fel bod pawb yn camddeall.

CHWEDL: Maent yn niweidio am eu bod eisiau lladd eu hunain

FFAITH: Er bod yna gysylltiad rhwng tueddiadau hunan-ddinistriol a hunan-niweidio, nid yw person sydd yn hunan-niweidio eisiau cymryd bywyd eu hunain o reidrwydd. Mae’r mwyafrif yn ei ddefnyddio i ymdopi gyda straen ac yn dal ati yn hytrach nag rhoi diwedd ar fywyd.

Sut mae helpu ffrind sydd yn hunan-niweidio?

Dyw’r ffaith dy fod di’n adnabod rhywun sydd yn hunan-niweidio ddim yn golygu dy fod di’n gallu datrys eu problemau. Mae angen i ti gydymdeimlo, deall a bod yn amyneddgar. Y peth gorau gallet ti ei wneud ydy bod yna iddyn nhw, gwrando a’u hannog i chwilio am gefnogaeth.

Paid gwylltio a mynnu eu bod yn stopio. Maent yn defnyddio hunan-niwed fel ffordd o ymdopi, bydda nhw’n stopio os gallan nhw. Cyniga fynd i’r doctor neu’r cwnsler gyda nhw os ydynt yn dymuno.

Sut wyt ti’n helpu dy hun?

Mae siarad am dy broblemau gyda phobl yn gallu helpu. Gall rhannu dy broblemau gynyddu hunan-barch, gwneud i ti deimlo’n well am dy hun a gwneud bywyd yn fwy pleserus.

Mae Cynghori a Therapi Siarad yn gallu helpu. Mae cynghorwyr yn cael eu hyfforddi i gynnig amrywiaeth o therapïau siarad. Bydd hyn yn rhoi hunanymwybyddiaeth ac yn caniatáu i ti ddeall dy hun ac eraill yn well.

Mae grwpiau cefnogol yn ffordd wych i ddileu’r stigma o hunan-niweidio. Mae’n le i ti fynegi dy hun heb gael dy farnu. Byddi di’n dysgu sut i ymdopi gyda phroblemau mewn ffordd bositif a bydd rhannu gyda phobl eraill yn rhoi gwell dealltwriaeth i ti o dy broblemau, edrych ar wahanol opsiynau, darganfod strategaethau i ymdopi a chynyddu hunanymwybyddiaeth. Yn aml mae pobl yn teimlo’r gallu i fod yn agored mewn grwpiau cefnogol, er nad ydynt wedi gallu siarad gyda neb am eu problemau cyn hynny. Mae gwybod bod pobl eraill yn profi’r un pethau yn gallu gwneud ti’n gryfach wrth i ti wella.


Mae MHM (Mental Health Matters) Wales yn cefnogi unrhyw un sydd yn cael ei effeithio gan iechyd meddwl gwael i wella ansawdd eu bywydau. Maent yn bwriadu cefnogi pobl i wneud newidiadau hirdymor yn y pethau sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd yn eu bywydau.

Mae SHARE (Ymwybyddiaeth, Gwellhad ac Addysg Hunan-niwed) yn grŵp cefnogol sy’n cael ei redeg gan MHM Wales. Mae’r grŵp i rai dros 16 oed sydd eisiau torri cylchred hunan-niwed. Maent yn cael trafodaethau agored lle gall pobl siarad yn rhydd am eu profiadau o hunan-niwed mewn amgylchedd cyfeillgar ac agored. Maent yn dysgu strategaethau a thechnegau ymdopi fel nad ydynt yn hunan-niweidio bob tro.

Am wybodaeth bellach am MHM Wales a SHARE cysyllta ar 01656 651 450 neu e-bostia: admin@mhmwales.org


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am fater iechyd meddwl, gall Meic gyfeirio ti at y lle cywir i gael yr help sydd ei angen arnat. Os oes rhywbeth arall yn dy boeni (nid oes rhaid iddo fod yn fater iechyd meddwl) yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.