x
Cuddio'r dudalen

Deall Dy Hawliau: Yn y Gweithle

To read this article in English, click here

Mae gen ti’r hawl cyfreithiol i amddiffyniad o ecsploetiaeth, o waith peryglus a gwaith gall fod yn niweidiol i ti.

Erthyglau CCUHP 19, 32, 36

Yn y DU, mae yna gyfreithiau iechyd a diogelwch yn y gwaith sydd yn wir i bawb ymhob gweithle ond mae yna gyfreithiau yn cynnig amddiffyniad arbennig i ‘blant’ hefyd (sydd yn golygu o dan 16 yng Nghymru, yr oedran lle gellir gadael yr ysgol) a ‘phobl ifanc’ (16-18 oed). Os mai ti ydy hyn, mae’n rhaid i dy gyflogwr:

  • Sicrhau nad wyt ti’n cael dy roi mewn perygl oherwydd dy ddiffyg profiad neu ddiffyg ymwybyddiaeth peryglon;
  • Ddim yn caniatáu i ti wneud gwaith sydd y tu hwnt i dy allu corfforol neu seicolegol yn amlygu ti i sylweddau niweidiol neu belydriad, yn dy roi mewn sefyllfa beryglus ble nad oes gen ti’r profiad na’r hyfforddiant i ymdopi ag ef, yn dy amlygu i oerni, gwres, sŵn neu ddirgryniad eithaf.
  1. os nad yw’n hanfodol ar gyfer dy hyfforddiant, ac yn yr achos yma bydd rhaid i ti dderbyn goruchwyliaeth ddigonol a’r peryglon wedi’u lleihau i’r isaf yn ymarferol resymol.

Hefyd, os wyt ti’n gweithio, yna mae gen ti ‘gytundeb cyflogaeth’. Efallai nad yw hwn wedi’i ysgrifennu ar bapur ond mae’r gyfraith yn awgrymu dyletswydd gofal ar y cyflogwr i gymryd gofal rhesymol o dy iechyd a diogelwch a dyletswydd arnat ti i ufuddhau i gyfarwyddiadau rhesymol. Edrycha ar y cytundeb i weld beth rwyt ti’n cael dy gyflogi i wneud. Nid yw dy gyflogwr yn cael gofyn i ti wneud rhywbeth hollol wahanol, ac os yw’n rhoi ti mewn perygl, nid yw’n rhesymol!

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a chyfreithiau’r DU ar iechyd a diogelwch yn y gwaith. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999. Rheol 19.

Am wybodaeth bellach, gweler:

Canllaw ar Gyflogi Plant

Cytundebau Cyflogaeth – CAB

Gyda chwestiynau? Grêt! Cysyllta ar y ffôn, neges testun neu neges wib a byddem yn hapus iawn i helpu.