x
Cuddio'r dudalen

Coronafeirws: Awgrymiadau Am Sut i Beidio Poeni’n Ormodol

I’r rhai ohonoch sydd yn dioddef gyda gorbryder yna mae’r sefyllfa Coronafeirws presennol (neu’r Covid-19) yn gallu bod yn sbardun mawr i chi. Hyd yn oed os nad wyt ti’n dioddef o gorbryder nid yw’n syndod bod y sefyllfa yma yn achosi rhai ohonoch i boeni lot. Mae Meic yma i wrando ac i gynnig cyngor.  

To read this article in English, click here

Mae’n debyg dy fod di wedi clywed am y Coronafeirws erbyn hyn, os nad wyt ti wedi bod yn cuddio dan garreg yn rhywle wrth gwrs (efallai bod rhai ohonoch wedi dewis gwneud hynny!!). Mae yna lawer o farnau gwahanol am y firws yma sydd yn cael ei alw’n Covid-19:

  • “Dim ond ‘conspiracy’ mawr ydy hyn i gyd i drio cuddio rhywbeth mwy” (Dwi wedi clywed syniadau hollol hurt yn ymwneud â hyn creda di fi!)
  • “Mae pobl yn mynd i ormod o banig, dyw pethau ddim mor ddrwg â hynny.”
  • “Dwi’n poeni ond ddim yn gadael iddo stopio fi wneud pethau.”
  • “BLE MAE’R PASTA! BLE MAE’R PAPUR TOILED! DWI ANGEN PRYNU DIGON AM FLWYDDYN!”

Ac yna mae gen ti’r rhai sydd yn wir bryderus. Mae pethau’n teimlo’n ormod ac yn achosi i rywun gyffroi ac ypsetio.

Mae yna lawer mwy o farnau nag hyn wrth gwrs, ond paid poeni, mae Meic yma i gynnig cyngor yn ystod y panig coronafeirws yma.

Cymryd seibiant o gyfryngau cymdeithasol

Mae cyfryngau cymdeithasol yn lle drwg i achosi panig gyda newyddion dramatig, camarweiniol a ffug.

  • Os wyt ti’n dal dy wynt am 10 eiliad a ddim yn tagu yna nid oes gen ti’r coronafeirws – FFUG.
  • Os wyt ti’n garglo gyda dŵr halen neu’n sipian dŵr yn rheolaidd yna bydd y firws yn cadw draw – FFUG.

Sicrha dy fod di’n edrych ar ffynonellau gwybodaeth gyfrifol, fel y GIG, Llywodraeth Cymru, y BBC neu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Bachgen o flaen y teledu - gwylio gormod o newyddion - Coronafeirws a iechyd meddwl

Nid oes angen gwylio’r newyddion cymaint

Os wyt ti’n gwylio’r newyddion trwy’r adeg, yn disgwyl am y darn nesaf o wybodaeth, yna mae’n hen bryd stopio. Mae’n beth da cadw’n wybodus a deall beth rwyt ti’n fod i wneud ond dydy gwylio’r newyddion trwy’r dydd a’r nos ddim yn dda i neb. Os wyt ti’n edrych ar y newyddion unwaith y dydd yna dylai hynny fod yn ddigon i gadw ti’n wybodus am bopeth sydd yn digwydd.

Os wyt ti’n cael dy ddrysu gan y newyddion ac eisiau’r wybodaeth mewn ffordd sydd yn fwy cyfeillgar i blant, yna edrycha ar Newsround, efallai bydd hyn yn egluro pethau yn fwy clir.

Siarad a gofyn cwestiynau

Mae teimlo nad oes gen ti’r ffeithiau i gyd am y coronafeirws yn gallu achosi rhywun i boeni mwy neu fynd i banig, mae’r hyn rwyt ti’n dychmygu yn dy ben yn gallu bod yn llawer gwaeth na’r gwir. Dyw’r mwyafrif o bobl ddim wedi profi dim fel hyn o’r blaen, felly mae’r sefyllfa yn un diarth. Weithiau mae oedolion yn cadw pethau i fwrdd oddi wrth blant a phobl ifanc gan feddwl bod hyn yn eu hamddiffyn, ond efallai nad dyma’r cam cywir ymhob sefyllfa. Os wyt ti’n teimlo dy fod eisiau gwybod mwy yna dweud wrthynt. Os nad wyt ti’n deall rhywbeth rwyt ti wedi’i glywed, yna gofynna i rywun esbonio hyn yn well i ti.

Bydd y mwyafrif o bobl yn teimlo pob math o bethau yn ystod yr amser yma – dryswch, poeni, gwylltio, straen – ac mae hyn i gyd yn iawn. Paid cadw popeth i mewn sydd yn dy boeni di. Siarad gyda rhiant, gofalwr neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt. Os dyw hyn ddim yn bosib, neu os nad yw’n helpu gan fod yr oedolyn yn orbryderus eu hunain, yna gallet ti siarad gyda chynghorydd Meic. Mae ein llinell gymorth yn defnyddio technoleg sydd yn golygu bod ein cynghorwyr yn gallu gweithio o gartref, felly hyd yn oed os bydd popeth yn cael ei gloi i lawr yna bydd ein cynghorwyr yn parhau i fod yno i helpu.

Cadw’n brysur

Os ydy dy drefn arferol yn gorfod newid oherwydd  pellhau cymdeithasol neu hunan ynysu yna sicrha dy fod di’n cadw ryw fath o drefn (routine). Mae’r syniad o wneud dim yn swnio’n braf iawn, ond os wyt ti’n dioddef o gorbryder neu iselder yna ni fydd gwneud dim yn helpu. Bydd cadw trefn a chadw’n brysur yn helpu, parha i ddysgu wrth gwblhau unrhyw waith sydd wedi cael ei yrru gan yr ysgol neu goleg efallai, neu chwilia am adnoddau ar-lein i barhau i ddysgu. Darllen. Ysgrifennu. Chwarae. Cadw’n heini. Cadwa’n brysur.

Ymarfer corff - merch mewn gwisg ymarfer corff - Coronafeirws a iechyd meddwl

Gofala am dy iechyd meddwl

Mae’n bwysig iawn dy fod di’n bwyta’n iach, yn cael digon o gwsg, yn yfed digon o hylif ac yn ymarfer corff (mae posib mynd am dro yn yr awyr agored hyd yn oed os wyt ti’n pellhau’n gymdeithasol). Cadwa cysylltiad gyda phobl eraill. Hyd yn oed os nad wyt ti’n gweld pobl wyneb i wyneb mae posib cadw cyswllt ar y ffôn, neges testun a galwadau fideo. Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) a myfyrdod (meditation). Anadla’n ddofn. Ymlacia mewn bath cynnes. Darllena. Glanha dy ystafell – mae trefnu’r gofod o dy gwmpas yn gallu helpu trefnu dy feddwl.

Mae Headspace yn cynnig casgliad o adnoddau am ddim gall pobl eu defnyddio yn ystod y cyfnod yma. Mae’r casgliad ‘Weathering the Storm’ ar gael i unrhyw un sydd yn lawr lwytho’r app (clicia ar y tab ‘Explore’ i ddarganfod y casgliad).

Mae Meic wedi rhoi rhestr o wefannau Tawelu’r Meddwl at ei gilydd, cer i edrych, efallai bydd un ohonynt o ddefnydd i ti. Edrycha ar un o’n cyn erthyglau hefyd, yn edrych ar straen a chynnig awgrymiadau ar sut i ymdopi.

Er bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cau pob adeilad, maent yn ceisio cadw’r gerddi a’r parciau yn agored i’r cyhoedd am ddim. Mae posib mwynhau’r awyr iach wrth barhau i bellhau dy hun yn gymdeithasol. Edrycha i weld os oes eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agos i ti.

Gellir creu Cynllun Meddwl dy hun ar dudalennau ‘Every Mind Matters‘ y GIG Prydeinig. Maent yn gofyn 5 cwestiwn syml ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor wedi’i deilwro ar dy atebion.

Mae gan Meddwl.org gyngor ar ofalu am dy iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws.

Rhywun ar dy ochr

Gobeithiwn fod y cyngor uchod wedi bod yn ddefnyddiol i ti. Os wyt ti angen siarad rydym yma bob dydd, rhwng 8yb a hanner nos, ar y ffôn, neges testun neu negeseuo ar y we. Cysyllta:

Rhadffôn: 080880 23456

Neges testun: 84001

Sgwrsio ar y we: www.meic.cymru