Cyngor Cysgu’n Well
Mae’n debyg bod pob un ohonom wedi teimlo’r angen am noson dda o gwsg, ond rydym yn treulio hanner y nos yn effro ac yn poeni pam nad ydym yn gallu cysgu!
To read this article in English, click here.
Mae’n gylch gythreulig sydd yn gallu bod yn anodd ei dorri; ond mae’n eithaf dibwynt gobeithio bydd y broblem yn diflannu mewn amser. Mae gennym restr o awgrymiadau i wella dy gwsg, yn y gobaith byddi di’n rhochian fel mochyn mewn dim.
1. Cael trefn ar hylendid cwsg
Waeth i ni alw hwn yn ddull “bath, gwely a llyfr”. Mae hylendid cwsg yn ymwneud â pharatoi’r corff a’r meddwl ar gyfer cwsg. I lwyddo cysgu, bydd angen i ti greu trefn gwsg sydd yn gweithio i ti.
Trefn gyfarwydd ydy cymryd bath neu gawod boeth, gwneud cwpan o goco, darllen llyfr rwyt ti’n ei fwynhau (ond nid gormod!), a diffodd yr ymennydd ar y dydd.
Os wyt ti’n aflonydd, neu heb drefn wedi’i osod eisoes, yna gall hyn fod yn anodd. Darganfydda’ fwy am hylendid cwsg ar wefan y SleepFoundation.
Mae tudalen gwybodaeth Problemau Cysgu Meddwl.org yn edrych ar y broblem ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol gallet ti roi tro arnynt.
2. Deall beth sydd yn cadw ti’n effro… sydd yn wir cadw ti’n effro
Weithiau bydd pethau’n ein cadw’n effro hyd yn oed os nad ydym yn meddwl bod y pethau yma yn ein poeni. Os oes gen ti brawf mawr i ddod, efallai dy fod di’n nerfus. Os ydy meddwl am ddigwyddiad teulu yn hunllef, yna mae’n debyg dy fod di’n bryderus. Os oes gen ti riant, ffrind, gofalwr neu athro gallet ti siarad â nhw, yna ceisia gael sgwrs. Fel arall, gallet ti siarad gyda Meic i gael yr help sydd ei angen arnat (gweler cam 4).
Darllena’r blog ‘Colli… Cwsg’ ar wefan Meddwl.org sydd â datrysiadau gallet ti roi tro arnynt ar y diwedd.
3. Cysgu App-us
Mae diffodd y sgrin yn rheol eithaf pwysig cyn i ti fynd i gysgu am sawl rheswm. Ond, os wyt ti wir yn cael trafferth, efallai bydd y rhestr hon o apiau defnyddiol yn gallu bod yn gymorth i ti i bendwmpian.
Mae’n cynnwys sawl dull gwahanol gallai helpu, gan gynnwys ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar, tracwyr cwsg, a Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), sydd yn helpu llawer o bobl wrth wynebu pryder, iselder ac OCD.
4. Siarada â Meic
Mae Meic yma i helpu o 8yb tan hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gellir gyrru neges testun ar 84001, sgwrsio ar-lein neu ffonio ar 080880 23456 am unrhyw beth – a byddem yn helpu ti i gael y cymorth sydd ei angen arnat ti. Mae’n gyfrinachol ac am ddim i gysylltu Meic, ac nid yw’n dangos ar y bil ffôn.
Mae cwsg yn rhan bwysig iawn o hunan ofal, ac mae diffyg cwsg yn gallu bod yn achos sawl problem iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Os wyt ti angen cyngor neu wybodaeth am sut i fynd yn ôl i gysgu (wrth ddatrys problemau arholiadau, straen teuluol, neu unrhyw beth arall), yna mae Meic yn rhywun sydd ar dy ochr di.