Coda’r Meic: Fy Mam Flin

Mae’n normal i dy rieni fynd ar dy nerfau o bryd i’w gilydd, ond gall fod yn anodd ymdopi ag ef, yn enwedig os wyt ti’n teimlo bod pethau ddim yn gwella o gwbl.
Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.
Helo Meic
“Rwy’n flin gyda mam am ei bod hi mor flin”
Taylor*
(*enw wedi’i newid er mwyn cyfrinachedd)
Cyngor Meic
Helo Taylor, diolch i ti am gysylltu â Meic.
Mae perthynas teulu yn gallu bod yn anodd, ac mae’n swnio fel dy fod di’n cael ychydig o drafferth gyda hyn ar hyn o bryd. Pan fydd pobl o’n cwmpas yn flin, gall achosi ti i deimlo’n drist, yn rhwystredig, yn ddryslyd, ac efallai nad ydym yn gwybod sut i ymateb. Er pa mor anodd gall fod i ymdopi gyda theimladau pobl eraill, mae’n bwysig cofio bod pawb yn cael trafferth i reoli eu tymer weithiau. Nid yw bob tro’n bosib newid y ffordd mae rhywun arall yn teimlo neu’n bihafio, ond gallem reoli sut rydym ni’n ymateb a gwneud bywyd yn haws i’n hunain ac i’r person arall.
Pethau i drio
Efallai dy fod di’n teimlo’n flin ac eisiau dangos i dy fam bod ei hymddygiad hi yn gwneud i ti deimlo fel hyn, ond meddylia sut y bydda ti’n teimlo os bydda’i rhywun yn ymateb fel yna i ti. Mae posib y gall achosi ti i deimlo’n waeth, a gall arwain at ffrae. Pan fydd rhywun arall mewn hwyliau drwg, mae’n gallu helpu os wyt ti’n ceisio cadw’n dawel. Os wyt ti’n gallu cadw’n dawel dy feddwl pan fydd dy fam yn flin, efallai bydd hynny’n helpu dy fam i aros yn dawel ei meddwl hefyd.
Os yw’r ddau ohonoch yn dawel eich meddwl yna efallai bydd posib i ti siarad â dy fam am y peth. Os nad wyt ti’n teimlo bod siarad wyneb i wyneb yn bosib, yna gallet ti geisio ysgrifennu dy deimladau ar bapur a’u rhannu fel yna. Cofia, bydda’n garedig a thrin pobl eraill yn yr un modd ag yr hoffet ti gael dy drin.
Mae’n gwbl normal i ti deimlo’n flin gydag eraill os ydynt mewn hwyliau drwg. Ond, os allwn ni ymateb gydag amynedd a dealltwriaeth, yna gall helpu i wneud pethau’n haws i’n hunain ac i eraill.
Eisiau siarad mwy?
Os hoffet ti siarad am hyn gyda rhywun, yna mae croeso i ti gysylltu â’r llinell gymorth, Mae’r cynghorwyr yma i helpu ti gydag unrhyw sefyllfa rwyt ti’n ei wynebu.
Cysyllta â’r llinell gymorth ar unrhyw un o’r manylion cyswllt isod.
Cymera ofal.
Y Tîm Meic















