x
Cuddio'r dudalen

Canlyniadau TGAU: Beth Sy’n Digwydd a Beth Nesaf?

Mae derbyn canlyniadau TGAU yn garreg milltir fawr yn dy fywyd. Bydd yna gamau mawr tuag at dy ddyfodol yn dilyn hyn, pa un ai wyt ti’n penderfynu aros yn yr ysgol neu symud ymlaen i wneud rhywbeth gwahanol. Mae Meic yma i helpu os wyt ti angen siarad am dy ddewisiadau.

To read this article in English, click here

Eleni, mae’r TGAU wedi bod yn wahanol iawn. Mae’r ffaith nad oeddet ti’n gallu sefyll arholiad wedi bod yn rhyddhad i rai ac yn siom i eraill. Blynyddoedd o waith caled a ni chefais di’r cyfle i orffen yr hyn gychwynnaist. Ond, rwyt ti’n dal i dderbyn canlyniadau TGAU. Gallet ti ddweud hefyd dy fod yn aelod o grŵp elit o bobl dderbyniodd graddau TGAU heb sefyll yr arholiadau.

Amcangyfrif cartŵn ar gyfer erthygl canlyniadau TGAU

Sut penderfynwyd ar y canlyniadau?

Gofynnwyd i’r ysgolion gyflwyno gradd ddisgwyliedig ar dy ran. Dyma’r hyn roedd dy athrawon yn meddwl bydda dy radd di os oeddet ti’n sefyll yr arholiad. Mae dy waith cwrs, gwaith dosbarth, gwaith cartref, ffug arholiadau a chyflawniadau’r gorffennol i gyd dan ystyriaeth wrth benderfynu ar dy radd. Yn wreiddiol, roedd y graddau yma’n cael eu safoni ar draws y wlad, gyda rhai yn derbyn graddau is. Yn dilyn gwrthwynebiad mawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn defnyddio’r graddau awgrymir gan yr athrawon – newyddion gwych.

coridor ysgol cartŵn ar gyfer erthygl canlyniadau TGAU

Sut fydda i’n derbyn y canlyniadau?

Ni fydd y canlyniadau ar gael tan ar ôl 8yb ar ddydd Iau, 20fed Awst. Bydd rhai ysgolion yn penodi slot amser i godi canlyniadau. Bydd hyn yn sicrhau na fydd niferoedd mawr yn cyrraedd ar yr un pryd. Efallai byddi di wedi dewis derbyn dy ganlyniadau drwy e-bost. Mae pob sir unigol yn dewis sut byddant yn cynnal trefniadau diwrnod canlyniadau, ond bydd yr ysgol wedi bod mewn cysylltiad i egluro sut y bydd pethau’n digwydd.

Os wyt ti’n codi dy ganlyniadau o’r ysgol, byddi di’n derbyn amlen gallet ti agor yno, neu ei gadw i agor yn breifat wedyn os mai dyma wyt ti’n ddymuno. Dy ddewis di yw hyn.

4 bawd i fyny a 1 i lawr cartŵn ar gyfer erthygl canlyniadau TGAU

Wyt ti wedi cael yr hyn oeddet ti ei angen?

Os wyt ti’n credu bod gen ti dystiolaeth gredadwy nad wyt ti wedi derbyn y radd rwyt ti’n haeddu oherwydd bias neu wahaniaethu yna fe ddylet ti wneud cwyn neu apêl i’r ysgol neu goleg. Byddant wedyn yn penderfynu i apelio i newid dy radd neu beidio.

Os nad yw’r graddau’n ddigonol i wneud yr hyn roeddet ti’n dymuno, yna nid oes rhaid i ti roi’r ffidl yn y to. Efallai byddai ail-sefyll arholiad yn opsiwn i ti, fel dy fod di’n gallu parhau i gymryd y cwrs neu’r swydd yna roeddet ti’n dymuno. Bydd cyfle i sefyll arholiadau Iaith Saesneg, Mathemateg, Mathemateg-Rhifedd ac Iaith Gymraeg ym mis Tachwedd.

Dewisiadau llwybr a marc cwestiwn cartŵn ar gyfer erthygl canlyniadau TGAU

Beth nesaf?

Mae’n debygol dy fod di wedi dewis dy gamau nesaf yn barod, ond efallai byddi di’n newid dy feddwl os oedd dy raddau yn well neu’n waeth nag yr hyn disgwylir.

Mae’n debyg bod angen graddau penodol i ddilyn cwrs penodol, os nad wyt ti’n cael y rhain yna byddai’n syniad cysylltu â’r ysgol neu goleg i weld os byddant yn hapus i dy dderbyn o hyd, neu os gallant gynnig opsiwn gwahanol. Os ddim, yna cysyllta gydag ysgolion neu golegau eraill i weld beth sydd ganddynt i gynnig.

Os wyt ti wedi gwneud yn well, efallai bydd hyn yn newid dy feddwl am aros yn yr ysgol neu goleg a chymryd Lefel A neu ddilyn pwnc penodol wedi’r cyfan. Cysyllta â’r ysgol neu goleg i drafod dy opsiynau neu ymwela â gwefan Gyrfa Cymru am wybodaeth am y chweched dosbarth, coleg, dewis pynciau, cyllid a llawer mwy.

Efallai dy fod di’n ystyried prentisiaeth, hyfforddeiaeth, cael swydd, cychwyn busnes neu wirfoddoli. Mae llawer o wybodaeth ar Dechrau Dy Stori ar wefan Gyrfa Cymru gall helpu.

Dal yn ddryslyd? Siarada â rhywun

Tra rwyt ti’n codi dy ganlyniadau yn yr ysgol, gofynna i siarad gyda rhywun i drafod dy opsiynau. Bydd athrawon ar gael ar y dydd fel arfer fel gallet ti siarad â nhw. Byddant yn hapus i helpu os wyt ti angen cyngor.

Gallet ti ofyn i siarad â Chynghorydd Gyrfa dy ysgol. Mae’n debyg byddant ar gael i siarad ar y diwrnod. Os ddim, cysyllta â Gyrfa Cymru i sgwrsio gyda chynghorydd.

Os wyt ti eisiau siarad am dy bryderon gyda rhywun yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor o hyd. Gallem siarad trwy dy opsiynau a helpu ti i ddarganfod y llwybr cywir. Gellir cysylltu ar y ffôn, neges testun neu DM rhwng 8yb a hanner nos pob dydd.

Pob Lwc