x
Cuddio'r dudalen

Caniatâd Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau

Cwyn cyffredin gan bobl ifanc ydy rhieni ddim yn gadael iddynt fynd allan i gymdeithasu. Gall fod yn anodd gweld dy ffrindiau yn cael mynd i’r parc, neu’n mynd i’r dref, a tithau’n gorfod dweud na bob tro.

Wyt ti’n meddwl bod dy rieni yn bod yn afresymol? A sut fedri di eu perswadio i adael i ti fynd?

Pam peidio gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau?

Mae rhieni yn gallu gwneud joban dda iawn o boeni amdanat ti! Efallai eu bod wedi clywed am rywbeth drwg yn digwydd i rywun arall. Gall fod yn anodd iddynt beidio canolbwyntio ar y pethau drwg a phoeni bydd yr un peth yn digwydd i ti.

Efallai bod rhywbeth wedi tynnu sylw ar y newyddion am yr holl drafferthion sydd yn gysylltiedig â phobl ifanc. Gall fod yn anodd peidio dychmygu ti yn cael i drafferthion tebyg. Mae rhai rhieni hefyd yn cael trafferth derbyn bod eu plant yn tyfu yn oedolion ifanc.

Mae cymdeithasu’n dda

Beth bynnag yw rheswm dy rieni, mae’r canlyniadau’r un peth, chei di ddim mynd allan i gymdeithasu gyda dy ffrindiau. Ond mae cael gwneud hyn yn bwysig iawn i rywun o dy oedran di, am sawl rheswm:

  • Teimlo’n rhan o rywbeth, synnwyr o berthyn
  • Gall gynyddu hyder
  • Gall fod yn gysurus gan fod ti a dy ffrindiau yn cael profiadau tebyg.
  • Caniatáu i ti ddysgu pethau gan dy ffrindiau
  • Ennill profiad o ddod ymlaen â phobl o ryw wahanol fel ffrindiau
  • Cyfle i arbrofi gyda rolau, syniadau, gwerthoedd a hunaniaeth wahanol
  • Cyfle i ffurfio perthnasau rhamantus
  • Dysgu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol pwysig – sensitifrwydd i deimladau, syniadau a llesiant eraill
  • Dysgu sut i fod yn deg a sut i ymddiried mewn eraill
  • Ennill sgiliau ymarferol fel darllen amserlen bws, rheoli amser neu gyllidebu
Grŵp ieuenctid i erthygl mynd allan gyda ffrindiau

Sut i newid meddwl dy rieni?

Felly wrth feddwl am yr holl resymau pam bod cael yr annibyniaeth yma yn dda, sut fedri di newid meddwl dy rieni? Mae hyn yn bosib, ond bydd rhaid cynllunio’n ofalus. Beth am roi tro ar yr awgrymiadau dilynol?

Dewis yr amser cywir

Gofynna i dy rieni pan fydd ganddynt amser i siarad. Neu os wyt ti’n gwybod eu bod yn ymlacio ar bnawn Sul, yna dewisa’r amser yma i siarad â nhw.

Paid disgwyl tan y funud ddiwethaf i ofyn iddynt, ta waeth pa mor ofnus wyt ti o glywed na. Mae rhieni yn hoffi gallu trefnu a pharatoi, yn enwedig os oes angen arian neu lifft.

Pan fyddi di’n penderfynu gofyn, sicrha eu bod mewn tymer dda. Os wyt ti’n synhwyro eu bod dan straen neu wedi blino, paid gofyn. Os wyt ti mewn trafferth yn barod am rywbeth arall, paid gofyn. Amser da i ofyn bydda ar ôl i ti greu argraff gyda dy aeddfedrwydd neu wrth helpu. Efallai byddant yn fwy tebygol o ddweud ia os ydynt yn gweld yr oedolyn ifanc ac nid y plentyn ifanc.

Bydda’n feddylgar

Unwaith i ti ofyn, paid swnian am ateb. Bydda’n amyneddgar. Os wyt ti’n eu blino’n gofyn yna byddant yn llai tebygol o gytuno. Rho amser iddynt feddwl am dy gais.

Gweithia gydag amserlen dy deulu’r gorau y gallet. Ceisia gydlynu dy gynlluniau gyda rhai dy rieni, nid yn eu herbyn. Gwna pethau’n hawdd iddynt ddweud ia. Ceisia beidio colli digwyddiadau teuluol er mwyn treulio amser gyda dy ffrindiau bob tro.

Bydda’n barod ac yn onest

Sicrha bod yr holl fanylion yn barod gen ti – ble, pryd, pwy, beth, hyd yn oed pam efallai. Mae cael mwy o wybodaeth yn golygu y byddant yn debygol o fod yn hapusach.

Bydda’n onest. Os ydynt yn dy ddal yn dweud celwydd – ac maent yn sicr o wneud hynny – byddant yn cael ffydd ynddot ti yn anodd wedyn.

Tactegau

Cychwynna’n fach. Gofynna a chei di fynd i dŷ ffrind am y prynhawn, cyn symud ymlaen at fynd i’r dref neu ar noson allan i’r sinema. Os bydd dy rieni yn fwy cyfforddus gyda thi yn mynd allan, yna byddant yn fwy tebygol o ddweud ia yn fwy aml.

Dweud wrth dy rieni beth maen nhw eisiau ac angen ei glywed. Cariad yw’r prif reswm iddynt fod eisiau dweud na, a’r teimlad dy fod di’n fwy diogel gartref gyda nhw. Tawela eu meddwl wrth ddweud bod y lle ti’n mynd yn le diogel, bod y cwmni yn weddus ac nad oes gen ti unrhyw fwriad gwneud unrhyw beth anghyfreithlon na pheryglus. Dweud wrthynt dy fod yn fodlon gyrru neges testun bob awr pan fyddi di’n mynd am y tro cyntaf. Bydd hyn yn eu cysuro. Bydd y pethau bach yma yn ei wneud yn llawer haws i dy rieni, ac i ti yn ei dro.

Cadwa’n dawel wrth drafod dy gynlluniau. Nid fydd dy rieni eisiau gadael i blentyn sydd yn strancio fynd allan. Mae oedolyn ifanc aeddfed yn fwy tebygol o berswadio rhieni. Os nad wyt ti’n cael yr ateb rwyt ti eisiau yn syth, yna paid difetha pethau wrth fynnu, bygwth neu golli tymer.

Derbynia’r peth a bydda’n rhagweithiol

Er ei bod yn anodd weithiau, bydd rhaid i ti dderbyn “na” y tro hyn er mwyn bod yn fuddugol y tro nesaf. Hyd yn oed os yw dy rieni yn dweud na, gallet ti barhau i fuddio wrth ymateb mewn ffordd aeddfed. Diolcha iddynt am wrando a phaid gwylltio nac gwaeddi. Cofia, oedolyn ifanc aeddfed ac nid plentyn bach yn strancio! Dylai dy ymateb aeddfed greu argraff arnynt ac efallai byddant yn newid eu meddwl neu’n dweud ia y tro nesaf.

Os oedd amodau i ti gael mynd (fel twtio’r ystafell wely/gwneud gwaith cartref) sicrha dy fod di’n gwneud. Paid rhoi rheswm iddynt newid eu meddwl. Ti ddim eisiau sbwylio pethau i ti dy hun.

Os yw’n bosib, gad i dy rieni gyfarfod y ffrindiau rwyt ti eisiau mynd allan â nhw, neu siarad gyda’r oedolion fyddet ti’n aros yn eu tai. Efallai bydd hyn yn helpu i dawelu meddwl.

Bydda’n ddiolchgar a deall

Dangos dy fod di’n ddiolchgar. Dweud diolch i dy rieni os ydynt yn gadael i ti fynd a phaid gwneud unrhyw beth i siomi dy hun. Os wyt ti’n cael dy ddal yn gwneud rhywbeth na ddylet ti, y tebygrwydd ydy mai “na” fydd yr ateb tro nesaf.

Os ydynt yn dweud “na”, er pa mor anodd y bydd, ceisia ddeall y rhesymau. Cofia beidio gorymateb ond paid rhoi’r ffidl yn y to. Gofynna eto y tro nesaf bydd ffrindiau yn mynd. Defnyddia’r rhestr ‘Mae cymdeithasu’n dda’ uchod a dweud pam bod cymdeithasu gyda ffrindiau yn bwysig. Efallai bydd yr ateb yn wahanol y tro nesaf.

Galwa Meic

Os wyt ti’n meddwl bod penderfyniadau dy rieni yn annheg ac eisiau siarad gyda rhywun am hyn, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.