Beth Mae’n Ei Olygu i Fod Yn Ofalwr Ifanc?
Efallai dy fod di wedi clywed am y term ‘gofalwr ifanc’, ond wyt ti’n deall beth mae hyn yn ei feddwl? Wyt ti’n gwybod pwy ydyn nhw, neu beth maen nhw’n ei wneud? Ydy bob gofalwr ifanc yn deall eu bod nhw’n un? Efallai nad wyt ti wedi sylwi dy fod di neu ffrind sydd yn helpu adref yn ofalwr ifanc.
To read this article in English, click here
Felly beth yn union ydy gofalwr ifanc?
Mae Plant yng Nghymru yn dweud bod gofalwyr ifanc yn “blant neu’n bobl ifanc sy’n ysgwyddo rôl arwyddocaol mewn gofalu am aelod o’r teulu. Gallai’r aelod o’r teulu fod yn dioddef problem iechyd corfforol neu feddyliol, anabledd neu broblemau cyffuriau ac alcohol.”
Mae gofalwyr ifanc yn blant neu’n bobl ifanc sydd yn cymryd rhan sylweddol yn gofalu am aelod o’r teulu. Mae’r term ‘gofalwr ifanc’ yn gallu cwmpasu sawl peth mae person ifanc yn ei wneud adref. Gall hyn fod yn helpu gofalu am frawd neu chwaer anabl neu ofalu am feddyginiaeth rhiant sydd yn brwydro materion iechyd meddwl. Dim ond dwy esiampl yw hyn, mae yna sawl rôl gofalu wahanol yn cael ei wneud gan bobl ifanc.
Pethau anodd i ofalwyr ifanc
Dangosodd arolwg o ofalwyr ifanc (The Princess Royal Trust for Carers, 2010) bod 39% ohonynt yn dweud nad oedd pobl yn yr ysgol yn ymwybodol bod ganddynt rôl gofalu. Sut fyddet ti’n gwybod os byddai ffrind yn y sefyllfa yma gartref os nad oeddent yn dweud wrthyt ti? Efallai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn ofalwr ifanc. Efallai bod hyn yn rhan arferol o’u bywyd, ac yn rhywbeth maent wedi gorfod ei wneud erioed heb feddwl. Neu efallai eu bod yn teimlo cywilydd, neu’n poeni y byddant yn cael eu tynnu o’r teulu os yw pobl yn darganfod.
Gall bod yn ofalwr ifanc gael effaith negyddol ar fywydau a llesiant rhai gofalwyr ifanc:
- Unigedd
- Iselder
- Diffyg cwsg
- Byw mewn tlodi
- Hunanhyder isel
- Absennol o’r ysgol
- Dioddef bwlio
Arwyddion arwyddocaol
Mae Connecting Young Carers yn dweud bod arwyddion arwyddocaol o ofalwr ifanc:
- Yn hwyr yn aml, neu yn absennol o’r ysgol heb lawer o eglurhad
- Ar ei hôl gyda gwaith ysgol, gwaith cartref hwyr neu heb ei gwblhau
- Wedi blino, yn bryderus, mynd i’w gragen neu’n poeni
- Ar ben ei hun, ddim yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a theithiau
- Cyfrinachol am fywyd adref
- Dangos arwyddion o hylendid neu ddiet gwael
- Arddangos ymddygiad sy’n tarfu ar eraill
- Siarad yn agored am broblemau iechyd teulu
- Teimlo’n anghyfforddus wrth siarad am amryw bwnc iechyd
Nid yw popeth yn ddrwg
Er holl effeithiau negyddol gellir ei gysylltu gyda chael cyfrifoldebau mawr, mae’n bwysig iawn i adnabod nad yw popeth yn dywyll i ofalwyr ifanc. Mae bod yn ofalwr ifanc yn gallu:
- Dysgu sgiliau bywyd defnyddiol yn ifanc
- Gwneud rhywun yn fwy goddefgar o bobl sydd yn wahanol
- Adeiladu gwytnwch
- Bod yn dda iawn yn hunan ysgogi
Mae’n debyg nad yw gofalwyr ifanc eisiau i ti deimlo’n sori drostynt oherwydd y cyfrifoldebau sydd ganddynt. Gwell byddai cydnabod nad yw pethau mor hawdd iddynt a chynnig cefnogaeth.
Darganfod cefnogaeth
Mae yna gefnogaeth ar gael i ofalwyr ifanc. Os yw pobl yn fwy agored am y rôl o fod yn ofalwr ifanc, yna bydd mwy o bobl ifanc yn sylweddoli bod cefnogaeth ar gael. Mae yna grwpiau gofalwyr ifanc arbenigol ar gael sydd yn gallu darparu cymorth a gweithgareddau. Maent yn deall sefyllfa’r gofalwr ifanc ac yn gallu cefnogi gydag asesiadau anghenion i sicrhau eu bod nhw, a’u teulu, yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt, ac mae ganddynt hawl iddo. Cer draw i wefan Carers Trust i ddarganfod gwasanaethau sydd yn lleol i ti. Neu cysyllta gyda ni yma ar linell gymorth Meic a gallem weithio gyda thi i ddarganfod yr help sydd ei angen arnat.
Covid a gofalwyr ifanc
Mae arolwg gan y Carers Trust ar effaith y Coronafeirws ar ofalwyr ifanc yn dangos ei fod wedi cael effaith ar iechyd meddwl a llesiant miloedd o ofalwyr ifanc. Pan ofynnwyd pa wahaniaeth mae Coronafeirws wedi ei gael, dywedodd 56% o ofalwyr ifanc bod eu haddysg yn dioddef a dywedodd 40% bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu.
Edrycha ar y fideo yma gan Radio 5 Live ble mae Charley yn siarad am ei phrofiad yn y cyfnod clo.
Os wyt ti’n cael trafferth o gwbl gydag unrhyw beth, bod hynny oherwydd Covid neu beidio, yna mae Meic yma i ti bob dydd, rhwng 8yb a hanner nos. Rydym yn wasanaeth cyfrinachol yma i wrando, cynnig cyngor a gweithio gyda thi i ddod o hyd i’r help sydd ei angen arnat ti.